Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2004, ISBN 0110908538. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Gan ei bod yn ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fod y personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn bersonau sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus eu natur; A chan ei bod yn ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fod y personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn bersonau y mae eu holl weithgareddau neu'n sylweddol eu holl weithgareddau yn cael eu gwneud o dan gytundeb neu yn unol â threfniadau a wnaed gyda pherson sy'n gweithredu fel gwas neu asiant i'r Goron; Yn awr felly, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y swyddogaethau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 6(1) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993[1], ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol[2], a phob p er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:Enwi a chychwyn 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2004 a daw i rym ar 1 Chwefror 2004. Pennu Cyrff Cyhoeddus 2. Pennir y personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn at ddibenion Rhan II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3] D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 14 Ionawr 2004 Cwmni sydd yn ymgymerwr d r neu'n ymgymerwr carthffosiaeth neu'r ddau ar gyfer Cymru gyfan neu unrhyw ran o Gymru, yn rhinwedd penodiad o dan adran 6 o Ddeddf y Diwydiant D r 1991[4] neu yn rhinwedd amrywio'r fath benodiad o dan adran 7 o'r Ddeddf honno.(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) O dan Ran II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 ("y Ddeddf") gall Bwrdd yr Iaith Gymraeg roi hysbysiad ysgrifenedig i unrhyw gorff cyhoeddus lunio Cynllun Iaith Gymraeg. Mae adran 6 o'r Ddeddf yn rhestru amryw o gyrff cyhoeddus at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf ac yn darparu bod yr Ysgrifennydd Gwladol (y Cynulliad Cenedlaethol bellach) yn cael pennu cyrff cyhoeddus pellach at y dibenion hynny. Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu cyrff cyhoeddus pellach at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf sef cyrff sy'n ymgymerwyr d r neu ymgymerwyr carthffosiaeth, neu'r ddau, ac sy'n gweithredu yng Nghymru.Mae pedwar Gorchymyn blaenorol wedi'u gwneud o dan adran 6 o'r Ddeddf: Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1996 (O.S. 1996/1898); Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1999 (O.S. 1999/1100); Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2001 (O.S. 2001/2550 (Cy.215)); a Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2002 (O.S. 2002/1441 (Cy.145)). Notes: [1] 1993 p.38.back [2] Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
ISBN 0 11090853 8
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 21 January 2004 |