Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003, ISBN 0110908341. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 52(3) a (4), 210(7) a 214 o Ddeddf Addysg 2002[1], ac ar ôl ymgynghori â Chyngor y Tribiwnlysoedd yn unol ag adran 8 o Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 9 Ionawr 2004. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -
(b) o ran disgybl o oedran ysgol gorfodol a oedd yn 11 oed neu'n h n ar y diwrnod cyn dechrau'r flwyddyn ysgol y cafodd y disgybl hwnnw ei wahardd, yw'r disgybl hwnnw ac un o'i rieni;(c) o ran disgybl sy'n h n nag oedran ysgol gorfodol, yw'r disgybl ei hun;
(2) Mae unrhyw waharddiad am gyfnod penodedig yn ystod y cyfnod rhwng sesiwn y bore a sesiwn y prynhawn mewn ysgol at ddibenion y Rheoliadau hyn i'w cymryd yn gyfystyr â chwarter diwrnod ysgol.
(b) y rhesymau dros y gwaharddiad; (c) y caiff roi sylwadau am y gwaharddiad i'r corff llywodraethu a chaiff y disgybl sydd wedi'i wahardd roi sylwadau hefyd am y gwaharddiad i'r corff llywodraethu os nad y person perthnasol yw'r disgybl; ac (ch) y dull o roi'r sylwadau hynny.
(2) Os yw'r pennaeth yn penderfynu y dylai unrhyw waharddiad ar ddisgybl am gyfnod penodedig gael ei wneud yn waharddiad parhaol, rhaid iddo yn ddi-oed gymryd camau rhesymol i hysbysu'r person perthnasol -
(b) am y materion a bennir yn is-baragraffau (b) i (ch) o baragraff (1).
(3) Mae paragraff (4) yn gymwys os bydd y pennaeth -
(ii) yn colli cyfle i sefyll unrhyw arholiad cyhoeddus,
(b) yn gwahardd disgybl yn barhaol, neu
(4) Pan fydd y paragraff hwn yn gymwys, rhaid i'r pennaeth hysbysu'r awdurdod addysg lleol a'r corff llywodraethu yn ddi-oed o'r materion canlynol -
(b) ei benderfyniad y dylid gwneud unrhyw waharddiad ar ddisgybl am gyfnod penodedig yn waharddiad parhaol,
ac (yn y naill achos a'r llall) y rhesymau drosto.
p ethnig y disgybl sydd wedi'i wahardd;(b) a oes gan y disgybl sydd wedi'i wahardd ddatganiad o anghenion addysgol arbennig sy'n cael ei gadw gan awdurdod addysg lleol o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996[4], a yw'n cael ei asesu ar gyfer datganiad o'r fath neu a yw'n cael cymorth ar ffurf Gweithredu gan yr Ysgol neu Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy yn unol â Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru[5] a gyhoeddwyd o dan adran 313 o Ddeddf Addysg 1996 ac a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2002; (c) a yw'r disgybl sydd wedi'i wahardd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol; (ch) cyfnod y gwaharddiad; a (d) y rheswm dros y gwaharddiad.
(2) Rhaid i awdurdod addysg lleol ddarparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, os bydd yn gofyn amdani, unrhyw wybodaeth y mae'r awdurdod hwnnw wedi'i chael oddi wrth bennaeth o dan reoliad 4(4) neu (5) neu oddi wrth gorff llywodraethu o dan reoliad 5(1).
(b) o benderfyniad y dylai unrhyw waharddiad ar ddisgybl gael ei wneud yn barhaol, (c) o wahardd unrhyw ddisgybl, a bod yr amgylchiadau yn golygu y byddai'r disgybl, yn sgil y gwaharddiad -
(ii) yn colli cyfle i sefyll arholiad cyhoeddus, neu
(ch) o wahardd unrhyw ddisgybl os byddai'r disgybl yn sgil y gwaharddiad wedi'i wahardd o'r ysgol am gyfanswm o fwy na 5 diwrnod ysgol mewn unrhyw dymor unigol a bod y person perthnasol yn mynegi dymuniad i roi sylwadau yn unol â rheoliad 4(1)(c).
(2) Ym mhob achos o'r fath rhaid i'r corff llywodraethu -
(b) ystyried unrhyw sylwadau am y gwaharddiad sy'n cael eu rhoi i'r corff llywodraethu -
(ii) gan y disgybl sydd wedi'i wahardd os nad y person perthnasol yw'r disgybl hwnnw yn unol â rheoliad 4(1)(c), (iii) gan y pennaeth, a (iv) gan yr awdurdod addysg lleol;
(c) cynnull cyfarfod a chaniatáu i'r canlynol, sef -
(ii) y disgybl sydd wedi'i wahardd os nad y person perthnasol yw'r disgybl hwnnw, (iii) y pennaeth, a (iv) swyddog o'r awdurdod addysg lleol a enwebwyd gan yr awdurdod addysg lleol,
i fynd i'r cyfarfod hwnnw a rhoi sylwadau llafar am y gwaharddiad; ac
(3) Rhaid i'r corff llywodraethu ystyried a ddylid derbyn y disgybl yn ôl neu beidio, ac os yw'n ystyried y dylid derbyn y disgybl yn ôl, rhaid iddo'n ychwanegol ystyried a ddylid ei dderbyn yn ôl ar unwaith, neu a ddylid ei dderbyn yn ôl erbyn ddyddiad penodol.
(b) hysbysu'r person perthnasol a'r awdurdod addysg lleol o'i benderfyniad.
(5) Rhaid i'r pennaeth gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd gan y corff llywodraethu i dderbyn disgybl a gafodd ei wahardd yn ôl i'r ysgol.
(b) yn ychwanegol, yn achos disgybl sydd wedi'i wahardd yn barhaol, rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r person perthnasol sy'n cyfeirio at y penderfyniad hwnnw ac sy'n datgan y materion canlynol -
(ii) ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad, (iii) y person y dylai roi unrhyw hysbysiad apêl iddo, (iv) bod yn rhaid i unrhyw hysbysiad apêl gynnwys seiliau'r apêl, a (v) y dyddiad olaf y caniateir gwneud yr apêl.
(7) Os digwydd y canlynol -
(b) bod y corff llywodraethu yn cael unrhyw sylwadau sydd wedi'u rhoi yn unol â rheoliad 4(1)(c) gan y person perthnasol ynghylch y gwaharddiad,
rhaid iddynt ystyried y sylwadau hynny.
(b) dim hwyrach na 15 diwrnod ysgol, yn achos gwaharddiad parhaol neu waharddiad am gyfnod penodedig o fwy na 15 diwrnod ysgol; neu (c) dim hwyrach na 50 diwrnod ysgol, yn achos gwaharddiad am gyfnod penodedig o 15 diwrnod ysgol neu lai;
ar ôl y dyddiad yr hysbyswyd ef o'r materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 4(4).
(b) drwy ei anfon drwy bost dosbarth cyntaf mewn amlen sydd wedi'i chyfeirio'n briodol ac y mae wedi talu ymlaen llaw amdani i gyfeiriad hysbys diwethaf y person perthnasol.
Apelau yn erbyn gwahardd disgyblion yn barhaol
(b) y gwaharddiad neu benderfyniad gan y pennaeth y mae'r penderfyniad hwnnw'n berthnasol iddo.
(4) Bydd penderfyniad panel apêl ar apêl yn unol â threfniadau a wnaed o dan baragraff (1) yn rhwymol ar y person perthnasol, y corff llywodraethu, y pennaeth a'r awdurdod addysg lleol.
(b) cyfarwyddo bod y disgybl i gael ei dderbyn yn ôl (naill ai ar unwaith neu erbyn dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd), neu (c) penderfynu oherwydd amgylchiadau eithriadol neu am resymau eraill nad yw'n ymarferol i roi cyfarwyddyd yn ei gwneud yn ofynnol i'w dderbyn yn ôl, ond y byddai fel arall wedi bod yn briodol i roi cyfarwyddyd o'r fath.
Gwahardd disgyblion: canllawiau
(b) awdurdod addysg lleol, neu (c) panel apêl a ffurfiwyd yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen,
o dan adran 52(1) o Ddeddf 2002 neu o dan y Rheoliadau hyn.
(b) yn rheoliad 48(3), yn lle "subsections (2) to (4) of section 66 of the 1998 Act" rhodder "paragraphs (2) to (4) and (6)(a) of regulation 6 of the Education (Pupil Exclusions and Appeals) (Maintained Schools) (Wales) Regulations 2003".
(2) Diwygir Rheoliad 9(4)(d) o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion)1995[7] fel a ganlyn -
(b) yn is-baragraff (i), yn lle'r geiriau "section 67 of the 1998 Act" rhoddir "those regulations".
Diwygio Rheoliadau 1999
(2) Ar ôl y geiriau "local schools budget" yn y diffiniad o B yn rheoliad 2 o Reoliadau 1999 mewnosodir -
(3) Ar ôl rheoliad 4(b) o Reoliadau 1999 mewnosodir -
(d) in relation to Wales only and subject to sub-paragraph (e), on or after 9th January 2004, on the date that an independent appeal panel constituted under regulations made under section 52 of the 2002 Act decides not to direct reinstatement; or if there is no appeal, on the day after the last date on which an appeal may be made, or on the day (if earlier) that the relevant person notifies the local education authority that he does not intend to appeal. (e) where the relevant person is both a pupil of compulsory school age who is aged 11 or above on the day before the beginning of the school year in which that pupil is excluded and a parent of his, a notice in writing given by the parent to the local education authority which states that he does not intend to appeal will be treated as final whether or not the pupil has given such notice in writing.".
Dirymu Terfynau amser a hysbysiadau'n hepgor yr hawl i apelio 1. - (1) Ni cheir gwneud apêl o dan reoliad 6(1) yn erbyn penderfyniad i beidio â derbyn disgybl yn ôl ar ôl y pymthegfed diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod y rhoddwyd i'r person perthnasol hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 6(6)(b). (2) At ddibenion cyfrifo'r cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (1), cymerir bod yr hysbysiad wedi'i roi -
(b) pan draddodir yr hysbysiad â llaw, ar ddyddiad ei draddodi,
oni ddangosir i'r gwrthwyneb yn y naill achos neu'r llall.
(b) personau sy'n gweithio ar hyn o bryd ym myd addysg neu reolaeth addysg; ac (c) personau sydd neu a fu yn llywodraethwyr ysgolion a gynhelir, ar yr amod eu bod wedi gwasanaethu fel llywodraethwyr am o leiaf ddeuddeng mis yn olynol yn y chwe blynedd ddiwethaf, ac nad ydynt wedi bod yn athrawon neu'n benaethiaid yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.
(3) Allan o aelodau panel apêl -
(b) os ffurfir ef gan bum aelod -
(ii) rhaid i ddau fod yn bersonau sy'n dod o fewn is-baragraff (2)(b); a (iii) rhaid i ddau fod yn bersonau sy'n dod o fewn is-baragraff (2)(c).
(4) At ddibenion y paragraff hwn a pharagraff 4 mae person yn gymwys i fod yn aelod lleyg os yw'n berson heb brofiad personol o reoli unrhyw ysgol neu ddarparu addysg mewn unrhyw ysgol (gan ddiystyru unrhyw brofiad fel llywodraethwr neu mewn unrhyw swyddogaeth wirfoddol arall).
(b) pennaeth yr ysgol o dan sylw, neu unrhyw athro neu athrawes yn yr ysgol honno, neu unrhyw berson a ddaliodd y swydd honno yn y pum mlynedd flaenorol; (c) unrhyw berson a gyflogir gan yr awdurdod addysg lleol heblaw fel pennaeth neu athro neu athrawes; (ch) unrhyw berson y mae ganddo, neu y bu ganddo ar unrhyw adeg, gysylltiad â'r canlynol -
(ii) y disgybl o dan sylw neu â'r digwyddiad a arweiniodd at ei wahardd,
o fath y gellid yn rhesymol gymryd y byddai'n codi amheuon am ei allu i weithredu'n ddiduedd.
(8) Nid yw person a gyflogir gan yr awdurdod addysg lleol fel pennaeth neu athro neu athrawes i'w gymryd, o achos y gyflogaeth honno yn unig, fel un a chanddo gysylltiad o'r fath â'r awdurdod a grybwyllir yn is-baragraff (7)(ch).
(b) yn analluog drwy salwch i barhau fel aelod,
caiff y panel barhau i ystyried a phenderfynu'r apêl ar yr amod nad yw nifer gweddill yr aelodau yn llai na thri a bod gofynion is-baragraff (3)(a) yn cael eu bodloni.
(b) gael ei gosod mewn o leiaf un papur newydd lleol sy'n cylchredeg yn yr ardal y lleolir yr ysgolion a enwir yn yr hysbyseb ynddi; (c) caniatáu cyfnod o 21 diwrnod o leiaf o ddyddiad cyhoeddi'r hysbyseb ar gyfer atebion.
(4) Cyn penodi unrhyw aelod lleyg rhaid i'r awdurdod addysg lleol ystyried unrhyw bobl sy'n gymwys i gael eu penodi sydd wedi cyflwyno cais i'r awdurdod wrth ymateb i'r hysbyseb ddiweddaraf neu i gyfres o hysbysebion a osodwyd yn unol â'r paragraff hwn yn nodi eu bod yn dymuno cael eu hystyried ar gyfer penodiad o'r fath.
(b) unrhyw berson arall sy'n dymuno ymddangos, ac y mae ganddo hawl i ymddangos, a rhoi sylwadau llafar yn unol â pharagraff 10,
yn gallu bod yn bresennol.
(b) i'r awdurdod addysg lleol roi sylwadau ysgrifenedig, cael ei gynrychioli ac ymddangos a rhoi sylwadau llafar, ac (c) i'r corff llywodraethu roi sylwadau ysgrifenedig, cael ei gynrychioli ac ymddangos a rhoi sylwadau llafar.
(3) Caiff y panel apêl o dro i dro ohirio'r gwrandawiad.
(b) caiff un aelod o Gyngor y Tribiwnlysoedd fod yn bresennol, fel sylwedydd, mewn unrhyw gyfarfod panel apêl pan ystyrir apêl.
12.
Ceir cyfuno dwy apêl neu fwy ac ymdrin â hwy yn yr un gweithrediadau os yw'r panel apêl yn ystyried bod hynny'n hwyluso'r gwaith oherwydd yr un yw'r materion a godir yn yr apelau neu eu bod yn gysylltiedig.
(b) fel a nodwyd erbyn diwedd yr ail ddiwrnod gwaith ar ôl i wrandawiad yr apêl ddod i ben.
15.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau 7 i 14, rhaid i bob mater sy'n ymwneud â'r weithdrefn apelio gael eu penderfynu gan yr awdurdod addysg lleol. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi terfynau ar bwerau penaethiaid i wahardd disgyblion o ysgolion a gynhelir o dan adran 52(1) o Ddeddf Addysg 2002, a'r weithdrefn sydd i'w dilyn gan y pennaeth, corff llywodraethu'r ysgol a'r awdurdod addysg lleol yn dilyn gwaharddiad o ysgol a gynhelir. Mae Rheoliad 2 yn cyflwyno diffiniad newydd o "berson perthnasol" at ddibenion y Rheoliadau hyn ac yn darparu hefyd fod unrhyw waharddiad am gyfnod penodedig yn ystod yr amser cinio i'w gyfrif yn waharddiad am chwarter o ddiwrnod ysgol. Mae Rheoliad 3 yn darparu na chaiff pennaeth wahardd disgybl am un neu ragor o gyfnodau penodedig sydd gyda'i gilydd yn dod i gyfanswm o fwy na 45 diwrnod ysgol mewn unrhyw flwyddyn ysgol. Mae Rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i'r pennaeth hysbysu'r person perthnasol o fanylion gwaharddiad. Rhaid i'r pennaeth hefyd hysbysu'r awdurdod addysg lleol a'r corff llywodraethu a yw'r gwaharddiad yn un parhaol, a fydd yn golygu bod disgybl yn colli arholiad cyhoeddus, neu a fydd yn mynd â chyfanswm y gwaharddiadau i'r disgybl hwnnw dros bum diwrnod mewn unrhyw dymor. Mae Rheoliad 5 yn darparu yngl n ag ystod yr wybodaeth y mae rhaid i'r corff llywodraethu ei darparu i'r awdurdod addysg lleol ac ystod yr wybodaeth y mae rhaid i'r awdurdod addysg lleol ei darparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru os bydd yn gofyn amdani.Os bydd y gwaharddiad yn barhaol, yn golygu y bydd y disgybl yn colli arholiad cyhoeddus, neu'n mynd â chyfanswm y gwaharddiadau ar gyfer y disgybl hwnnw dros 15 diwrnod mewn tymor, neu fod y person perthnasol yn dymuno rhoi sylwadau ac y byddid yn gwahardd y disgybl am fwy na phum diwrnod mewn tymor, mae Rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i'r corff llywodraethu ystyried yr amgylchiadau, gwrando ar unrhyw sylwadau gan y person perthnasol, y disgybl sydd wedi'i wahardd, os nad y person perthnasol yw'r disgybl hwnnw, neu'r awdurdod addysg lleol, a phenderfynu a ddylid derbyn y disgybl yn ôl neu beidio. Mae Rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod addysg lleol wneud trefniadau i'r person perthnasol apelio yn erbyn penderfyniad y corff llywodraethu i beidio â derbyn disgybl sydd wedi'i wahardd yn barhaol yn ôl i'r ysgol. Nid yw methiant i ddilyn gofynion gweithdrefnol ynddo'i hun i arwain at benderfyniad i dderbyn yn ôl. Mae penderfyniad y panel apêl yn rhwymol. Os yw'r panel apêl yn derbyn bod amgylchiadau eithriadol neu resymau eraill sy'n ei gwneud yn anymarferol i gyfarwyddo derbyn yn ôl, cânt benderfynu peidio â gwneud cyfarwyddyd i dderbyn y disgybl yn ôl ond cânt ddynodi y byddai cyfarwyddyd fel arall wedi bod yn briodol. Mae Rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i benaethiaid, cyrff llywodraethu, awdurdodau addysg lleol a phanelau apêl roi sylw i ganllawiau a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Rheoliadau 9 a 10 yn gwneud diwygiadau canlyniadol amrywiol, gan gynnwys diwygiadau i Reoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/2242), er mwyn sicrhau bod cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at gorff llywodraethu ysgol a gynhelir i'w dehongli fel cyfeiriadau at eu pwyllgorau disgyblu disgyblion, ac yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Addysg (Swm i Ddilyn Disgybl sydd wedi'i Wahardd yn Barhaol) 1999 (O.S. 1999/495). Mae'r Atodlen yn pennu cyfansoddiad y panelau apêl a'r gweithdrefnau ar eu cyfer. Notes: [1] 2002 p.32; gweler adran 212(1) i gael ystyr "regulations" a "prescribed".back [2] 1992 p.53, fel y'i diwygiwyd gan baragraff 22 o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002.back [7] O.S. 1995/2089; offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 2001/2802.back [10] O.S. 2000/3026 (Cy. 194).back [12] O.S. 2003/2959 (Cy. 277).back
ISBN 0 11090834 1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 18 December 2003 |