Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) (Diwygio) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) (Diwygio) 2003, ISBN 0110908376. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 53(1), (2), (4) a (4A), 140(4) a 143(1), (3) a (4A) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru[2]. Enwi, cymhwyso a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru'n unig, yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) (Diwygio) 2003 a deuant i rym ar 11 Rhagfyr 2003. Diwygio Rheoliadau 1999 2. - (1) Mae Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999[3] yn cael eu diwygio fel a ganlyn. (2) Ym mharagraff (4) o reoliad 1:
(b) Ar y diwedd, ychwanegwch y canlynol -
(3) Yn Rhan 2 o'r Atodlen, ac yn effeithiol o 1 Tachwedd 2001 ymlaen, rhowch "Aquila Networks plc" yn lle "Midlands Electricity plc" (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Er mwyn sicrhau bod hereditamentau penodol i gyd yn cael eu hardrethu'n ganolog gyda'i gilydd, caiff yr Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau o dan adran 53(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1988. Yn y rheoliadau hynny, caiff ddynodi person a rhagnodi un neu ragor o ddisgrifiadau o hereditament annomestig mewn perthynas â'r person hwnnw. I'r graddau y mae'n ymwneud â Chymru, mae'r p er hwn wedi cael ei drosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999.Y prif Reoliadau a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddibynnu ar y p er hwn yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999. Mae'r rhain yn effeithiol o ran unrhyw restr ardrethu canolog i Gymru a luniwyd ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny.Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prif Reoliadau drwy roi Aquila Networks plc fel person dynodedig mewn perthynas â hereditamentau a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf at swyddogaethau darparwr trydan cyhoeddus, neu at ddibenion atodol, yn lle Midlands Electricity plc o 1 Tachwedd 2001. Notes: [1] 1988 p.41.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan adran 53(1), (2), (4) a (4A), 140(4) a 143(1), (3) a (4A) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag erthygl 2(2) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672).back
ISBN 0 11 090837 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 17 December 2003 |