Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Diwygio) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Diwygio) (Cymru) 2003, ISBN 0110908325. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 9(2) a (3) o Ddeddf Mabwysiadu 1976[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: - Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 11 Rhagfyr 2003. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Diwygio rheoliad 5A o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983 2. Yn rheoliad 5A o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983[2] (deiliadaeth swydd aelodau), ar ôl paragraff (1), mewnosoder -
(b) his term of office is due to expire on or after 31st December 2003,
the adoption agency may extend the term of office of that member for a further period not exceeding two years.".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983 ("Rheoliadau 1983") ac maent yn gymwys i Gymru. Mae Rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 5A o Reoliadau 1983 er mwyn darparu y caiff asiantaeth fabwysiadu estyn cyfnod swydd aelod o banel mabwysiadu sydd yn ei swydd am yr ail gyfnod olynol ac mae'r cyfnod hwnnw'n dod i ben ar neu ar ôl 31 Rhagfyr 2003 am gyfnod pellach o ddwy flynedd. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gosod costau ar fusnes. Notes: [1] 1976 p.36. Diwygiwyd adran 9(2) o Ddeddf Mabwysiadu 1976 ("Deddf 1976") gan adran 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 5(6)(a) o Atodlen 4 iddi (p.14). Mae'r pwerau yn adran 9(2) a (3) yn arferadwy gan y "Gweinidog priodol" a diffinnir ef yn adran 9(5) o Ddeddf 1976 mewn perthynas â Chymru fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mewnosodwyd adran 9(5) o Ddeddf 1976 gan adran 139(2) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 a pharagraff 4(1)(b) o Atodlen 4 iddi (p.38).back [2] O.S. 1983/1964. Mewnosodwyd Rheoliad 5A gan gan O.S. 1997/649.back
ISBN 0 11090832 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 16 December 2003 |