Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) (Cymru) 2003, ISBN 0110908260. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 216(1) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 [1] ac sydd bellach wedi'u rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru[2] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi cychwyn a chymhwyo 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 31 Rhagfyr 2003. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig. Cyrff sy'n cael eu hadnabod 2. Mae'r cyrff a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn wedi'u pennu fel cyrff sy'n gyrff sy'n cael eu cydnabod, yn nhyb Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Diddymu 3. Mae Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) (Cymru) 2002[3] yn cael ei ddiddymu. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4] D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 3 Rhagfyr 2003 University of Aberdeen University of Abertay Dundee Anglia Polytechnic University Archesgob Caer-gaint Aston University University of Bath Bath Spa University College University of Birmingham Bolton Institute of Higher Education Bournemouth University University of Bradford University of Brighton University of Bristol Brunel University University of Buckingham Buckinghamshire Chilterns University College University of Cambridge Canterbury Christ Church University College University of Central England in Birmingham University of Central Lancashire University College, Chichester City University Coventry University Cranfield University Prifysgol Cymru De Montfort University University of Derby University of Dundee University of Durham University of East Anglia University of East London University of Edinburgh University of Essex University of Exeter University of Glasgow Glasgow Caledonian University University of Gloucestershire University of Greenwich Harper Adams University College Henley Management College Heriot-Watt University University of Hertfordshire University of Huddersfield University of Hull University of Keele University of Kent Kingston University University of Lancaster University of Leeds Leeds Metropolitan University University of Leicester University of Lincoln University of Liverpool Liverpool Hope Liverpool John Moores University University of London The London Institute London Metropolitan University London South Bank University Loughborough University University of Luton University of Manchester University of Manchester Institute of Science and Technology The Manchester Metropolitan University Middlesex University Prifysgol Morgannwg Napier University, Edinburgh University of Newcastle upon Tyne University of North London University College Northampton University of Northumbria at Newcastle University of Nottingham The Nottingham Trent University Open University University of Oxford Oxford Brookes University University of Paisley University of Plymouth University of Portsmouth Presbyterian Theological Faculty, Ireland Queen Margaret University College, Edinburgh The Queen's University of Belfast University of Reading The Robert Gordon University Royal Agricultural College Royal College of Art Royal College of Music The Royal Scottish Academy of Music and Drama, Glasgow University of Salford University of Sheffield Sheffield Hallam University University of Southampton University of St Andrews Staffordshire University University of Stirling University of Strathclyde University of Sunderland University of Surrey University of Surrey, Roehampton The Surrey Institute of Art & Design, University College University of Sussex University of Teesside Thames Valley University University of Ulster University of Warwick University of the West of England, Bristol University of Westminster University of Wolverhampton University College Worcester University of York Ysgolion, Colegau a Sefydliadau Prifysgol Llundain, y mae'r Brifysgol wedi caniatáu iddynt roi graddau Prifysgol Llundain Birkbeck College Courtauld Institute of Art Goldsmiths College Heythrop College Imperial College of Science, Technology and Medicine Institute of Education Kings College London London Business School London School of Economics and Political Science London School of Hygiene and Tropical Medicine Queen Mary and Westfield College Royal Academy of Music Royal Holloway and Bedford New College Royal Veterinary College School of Oriental and African Studies The School of Pharmacy St George's Hospital Medical School University College London (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn rhestru'r holl gyrff hynny sydd, yn nhyb Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn gyrff sy'n cael eu cydnabod o fewn adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988. Prifysgolion, colegau neu gyrff eraill yw'r rhain sydd wedi cael eu hawdurdodi gan Siarter Brenhinol neu gan Ddeddf Seneddol neu oddi tani, i roi graddau, neu gyrff sydd wedi cael caniatâd am y tro gan y cyrff hyn i weithredu ar eu rhan wrth roi graddau. Nid yw gwobr a roddir gan y fath gyrff yn wobr o'r math y cyfeirir ati yn adran 214(1), sy'n ei gwneud yn dramgwydd i unrhyw un roi, cynnig i roi, neu gyhoeddi gwahoddiad mewn perthynas â graddau a gwobrwyon nad ydynt yn cael eu cydnabod. Mae'r Gorchymyn hwn yn diweddaru ac yn disodli'r rhestr o gyrff sy'n ymddangos yng Ngorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) (Cymru) 2002, sy'n cael ei ddiddymu. Mae'n cynnwys nifer o sefydliadau sydd wedi cael eu hawdurdodi i roi graddau o dan adran 76 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13) ac adran 48 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (yr Alban) 1992 (p.37). Mae hefyd yn cynnwys sefydliad Prifysgol Llundain y rhoddwyd caniatâd iddo gan y Brifysgol i roi graddau Prifysgol Llundain. Mae hefyd yn ymgorffori sefydliad newydd sydd wedi ei greu trwy uno dau sefydliad a newid enw dau sefydliad. Notes: [1] 1988 p.40.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adran hon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 2002/1661(Cy.157).back
ISBN 0 11090826 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 9 December 2003 |