Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) (Diwygio) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) (Diwygio) 2003, ISBN 0110908252. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan erthygl 21(1) a (2) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2003[1], ac ar ôl ymgynghori â'r Comisiwn Etholiadol, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol - Enwi, cychwyn a dehongli 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) (Diwygio) 2003 a daw i rym y diwrnod ar ôl iddo gael ei wneud. Talu ffioedd hyfforddi i Swyddogion Canlyniadau 2. - (1) Mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2002[2] yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn. (2) Yn lle rheoliad 3(1)(b) rhodder - "treuliau o'r math a ddisgrifir ym mharagraffau 3(1), 4(1), 5(1), 6(1) a 6A(1) o'r Atodlen, ac". (3) Yn rheoliad 3(2)(b), yn lle "7(1)" rhodder "5(1) a 6A(1)". (4) Yn Rhan II o'r Atodlen, ar ôl Paragraff 6 mewnosoder paragraff newydd, sef Paragraff 6A -
6A. - (1) Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwneud taliad i swyddog canlyniadau mewn cysylltiad â chostau a dynnir wrth hyfforddi swyddogion llywyddu i gyflawni dyletswyddau ar ddiwrnod pleidleisio mewn etholiad Cynulliad. (2) £40.00 yw'r uchafswm y gellir ei adennill fesul swyddog llywyddu sy'n cael hyfforddiant. (3) Yn ychwanegol at y costau y gellir eu hadennill o dan baragraff (2) £125.00 yw'r uchafswm y gellir ei adennill fesul etholaeth Cynulliad mewn cysylltiad â pharatoi deunyddiau hyfforddi. (4) Yn ychwanegol at y costau y gellir eu hadennill o dan baragraffau (2) a (3) £100.00 yw'r uchafswm y gellir ei adennill fesul cyflwyniad hyfforddi a roddir i swyddogion llywyddu.".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Erthygl 3 a Rhan II o'r Atodlen i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2002 ("Gorchymyn 2002"), a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2003. O dan erthygl 21(1) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2003 ("Gorchymyn 2003") mae hawl swyddog canlyniadau mewn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru i adennill costau mewn perthynas â gwasanaethau neu dreuliau'r person hwnnw o ran neu mewn cysylltiad ag etholiad o'r fath yn dibynnu ar y canlynol, sef -
(b) bod y gwasanaethau yn cael eu darparu'n briodol a bod y treuliau yn rhai sy'n cael eu tynnu'n briodol, ac (c) bod y taliadau mewn perthynas â hwy yn rhesymol.
Gwneir y Gorchymyn hwn o dan Erthygl 21(1) a (2) o Orchymyn 2003. Notes: [1] O.S. 2003 Rhif 284.back [2] O.S. 2002 Rhif 3053 (Cy.288).back
ISBN 0 11090825 2
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 9 December 2003 |