Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2003, ISBN 0110908244. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac a freiniwyd bellach ynddo[2], ac ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor[3] sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod y gweithdrefnau mewn materion diogelwch bwyd, ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf uchod, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2003, deuant i rym ar 28 Tachwedd 2003 ac maent yn gymwys i Gymru yn unig. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn -
(b) ar gyfer sefydliad arlwyo; (c) ar gyfer busnes gweithgynhyrchu;
Ystod y Rheoliadau
(b) bod y disgrifiad, y tarddair neu'r gair hwnnw'n cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun sy'n dangos neu'n awgrymu yn glir nad yw'r sylwedd y mae'n ymwneud ag ef ond yn gynhwysyn yn y bwyd hwnnw; neu (c) bod y disgrifiad, y tarddair neu'r gair hwnnw'n cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun sy'n dangos neu'n awgrymu'n glir nad yw'r bwyd yn gynnyrch dynodedig ac nad yw'n cynnwys cynnyrch dynodedig.
Labelu a disgrifio cynhyrchion dynodedig
(b) ac eithrio yn achos y cynhyrchion a bennir ym mharagraffau 1(ch) ac (e) a 2(ch) o Atodlen 1, canran y braster llaeth, wedi'i mynegi yn ôl y pwysau mewn perthynas â'r cynnyrch gorffenedig; (c) ac eithrio yn achos y cynhyrchion a bennir ym mharagraff 2(a) i (ch) o Atodlen 1, canran yr echdyniad llaeth sych nad yw'n cynnwys unrhyw fraster o gwbl; (ch) yn achos cynhyrchion a bennir ym mharagraff 2(a) i (ch) o Atodlen 1, argymhellion ynghylch y dull gwanhau neu ailgyfansoddi'r cynnyrch a manylion am ei gynnwys braster pan gaiff ei wanhau neu ei ailgyfansoddi; (d) yn achos y cynhyrchion a bennir ym mharagraff 2(a) i (ch) o Atodlen 1, nad yw'r cynnyrch "wedi'i fwriadu yn fwyd i fabanod o dan ddeuddeng mis oed".
Dull marcio neu labelu
(b) yn achos allforio i Wladwriaeth AEE, bod y ddeddfwriaeth yn cydymffurfio â darpariaethau Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/114/EC sy'n ymwneud â llaeth penodol sydd wedi ei ddadhydradu'n rhannol neu'n llwyr a'i breserfio i'w fwyta gan bobl[9].
Cymhwyso amryw ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990
(b) adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi'i fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl); (c) adran 20 (tramgwyddau am fod bai ar berson arall) (ch) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adrannau 8, 14 neu 15 o'r Ddeddf; (d) adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi wrth gynnal busnes); (dd) adran 30(8) (sy'n delio â thystiolaeth ddogfennol); (e) adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion) (f) adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir y cyfeiriad at "any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above" yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e) uchod; (ff) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e) uchod. (g) adran 35(2) a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (f) uchod; (ng) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac (h) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
(2) Mae adran 29 o'r Ddeddf (samplu) yn gymwys mewn perthynas â gwaith samplu cynhyrchion dynodedig i'w dadansoddi at ddibenion y Rheoliadau hyn a chyda'r addasiad bod rhaid arfer a pherfformio pwer swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi o dan yr adran honno a dyletswyddau'r swyddog hwnnw o dan unrhyw reoliadau a wneir o dan y Ddeddf, yn unol â'r dulliau a ddisgrifir yn yr Atodlen i Gyfarwyddeb 87/524/EEC.
(b) yn rheoliad 49 (dirymu a diwygio), paragraff (6).
(2) Hepgorir y cofnodion a ganlyn sy'n ymwneud â Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych 1977[10] (i'r graddau y mae'r Rheoliadau canlynol yn gymwys i Gymru) -
(b) yn Rheoliadau Bwyd (Adolygu Cosbau) 1985 [12], yn yr Atodlen, Rhan I; (c) yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (Addasiadau Canlyniadol) (Cymru a Lloegr) 1990[13]), yn Atodlen 1, Rhan I, Atodlen 2, Atodlen 3, Rhan I ac Atodlenni 6 a 12; (ch) yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Allforion) 1991[14], yn Atodlen 1, Rhan I; (d) yn Rheoliadau Bwyd (Esemptiadau'r Lluoedd Arfog) (Dirymu) 1992[15]), yn yr Atodlen, Rhan I; (dd) yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995[16], yn Atodlen 9; (e) yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 1999[17], yn rheoliad 14(1); (f) yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2002[18]), rheoliad 9(2).
(3) Dirymir y Rheoliadau a ganlyn (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru):
(b) Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Phowdr Sych (Diwygio) 1982[20]; (c) Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Phowdr Sych (Diwygio) 1986[21]; (ch) Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Phowdr Sych (Diwygio) 1989 [22]).
(4) Yn Rheoliadau Lliwiau mewn Bwydydd 1995[23], i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru , yn Atodlen 2, paragraff 6, yn lle'r cyfeiriad at "Cyfarwyddeb 76/118/EEC"[24]) rhoddir cyfeiriad at "Cyfarwyddeb 2001/114/EC"[25].
(b) yn Atodlen 7, yng ngholofn 1, yn lle'r geiriau "Partially dehydrated and dehydrated milk as defined in Directive 76/118/EEC" rhoddir "Partially dehydrated and totally dehydrated milk as defined in Directive 2001/114/EC".
Darpariaeth drosiannol
(b) na fyddai'r materion sy'n gwneud y tramgwydd honedig wedi gwneud tramgwydd o dan Reoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych 1977 fel yr oeddent yn union cyn i'r rheoliadau hyn ddod i rym.
Nodiadau: 1. Caiff unrhyw gynnyrch dynodedig gynnwys unrhyw sylwedd a ganiateir yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 89/107/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud ag ychwanegion bwyd yr awdurdodir eu defnyddio mewn bwydydd y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl[28] ac unrhyw fitamin. 2. Wrth wneud unrhyw gynnyrch dynodedig a bennir ym mharagraff 1(d) i (e), mae caniatâd i ychwanegu swm ychwanegol o lactos, heb fod yn fwy na 0.03% o ran pwysau'r cynnyrch gorffenedig. 3. Heb leihau effaith gyffredinol Ran V o Reoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid) 1995[29], preserfir cynhyrchion dynodedig drwy'r dulliau canlynol, sef -
(b) ychwanegu swcros ar gyfer y cynhyrchion y cyfeirir atynt ym mharagraff 1(d) i (e) o'r Atodlen hon; (c) dadhydradu ar gyfer y cynhyrchion y cyfeirir atynt ym mharagraff 2 o'r Atodlen hon.
4.
Penderfynir ar lefelau'r deunydd sych, cynnwys lleithder, braster, swcros, asid lactig a lactadau a gweithgarwch ffosffotas yn y cynhyrchion dynodedig yn unol â'r dulliau yng Nghyfarwyddeb 79/1067. 1. Mae caniatâd i ddefnyddio'r term "evaporated milk" yn lle'r term "condensed milk" i gyfeirio at laeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, o leiaf 9% braster a chyfanswm o 31% o solidau llaeth. 2. Mae caniatâd i ddefnyddio'r term "evaporated semi-skimmed milk" yn lle'r term "condensed partly skimmed milk" i gyfeirio at laeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol sy'n cynnwys, yn ôl pwysau, rhwng 4% a 4.5% braster ac nid llai na chyfanswm o 24% o solidau llaeth. 3. Mae caniatâd i ddefnyddio'r term "semi-skimmed milk powder" neu "partly skimmed-milk powder" yn lle'r term "dried partly skimmed milk" neu "partly skimmed-milk powder" i gyfeirio at laeth wedi'i ddadhydradu'n llwyr â chynnwys braster rhwng 14% a 16%. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Maent yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/114/ (OJ Rhif L19, 17.1.2002, t.19). Ymwneud â chynhyrchion llaeth penodol a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sydd naill ai'n rhannol neu'n llwyr wedi'u sychu (wedi'u dadhydradu) a'u cadw (eu preserfio) y mae'r Gyfarwyddeb honno. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych 1977, fel y'u diwygiwyd, mewn perthynas â Chymru. Mae'r Rheoliadau yn -
(b) darparu i'r Rheoliadau fod yn gymwys i gynhyrchion llaeth a llaeth sych a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sy'n barod i'w dosbarthu i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo (rheoliad 3); (c) cyfyngu ar y defnydd o ddisgrifiadau neilltuedig i'r cynhyrchion llaeth cyddwys a llaeth sych y maent yn ymwneud â hwy (rheoliad 4); (ch) rhagnodi gofynion labelu ar gyfer cynhyrchion llaeth cyddwys a llaeth sych dynodedig (rheoliad 5); (d) rhagnodi dull y marcio neu labelu a chymhwyso darpariaethau penodedig Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (rheoliad 6); (dd) pennu cosb, awdurdodau gorfodi ac, yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC ar reolaeth swyddogol bwydydd (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23), amddiffyniad sy'n ymwneud ag allforion (rheoliadau 7 ac 8); (e) cymhwyso amryw ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 9); (f) dirymu'r Rheoliadau blaenorol a gwneud diwygiadau canlyniadol a darpariaeth drosiannol (rheoliadau 10 ac 11). Effaith y dirymiad a wneir gan reoliad 10(1)(a), ac absenoldeb ailddeddfiad o ddarpariaeth debyg, yw y bydd Rhan II o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 yn gymwys i'r cynhyrchion y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt.
Cafodd arfarniad rheoliadol ei baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a rhoddwyd copi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi sy'n egluro sut y mae prif elfennau'r ddeddfwriaeth Ewropeaidd a grybwyllir uchod yn cael eu trawsosod yn Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW. Notes: [1] 1990 p.16.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Bwyd 1990, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back [4] OJ Rhif L327, 24.12.1979, t..29.back [5] OJ Rhif L306, 28.10.1987, p.24.back [6] OJ Rhif L1, 3.1.94, t.1.back [7] OJ Rhif L1, 3.1.94, t.571.back [8] O.S. 1996/1499; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1998/1398.back [9] OJ Rhif L15, 17.1.2002, t.19 fel y'i mabwysiadwyd gan Benderfyniad Cyd-bwyllgor AEE Rhif 99/2002 (OJ Rhif L298, 31.10.2002, t.10).back [10] O.S. 1977/928; hepgorir offerynnau diwygio perthnasol O.S. 1982/1066, 1986/2299, 1989/1959, 1990/2486, 1991/1476, 1992/2596, 1995/3187, 1996/1499, 1999/1136, 2001/1787(Cy.128) and 2002/329(Cy.42)back [18] O.S. 2002/329(Cy.42).back [24] OJ Rhif L24, 30.1.1976, t.49.back [25] OJ Rhif L15, 17.1.2002, t.19.back [28] OJ Rhif L40, 11.2.1989, t.27.back [29] O.S. 1995/1086, diwygiad perthnasol a wnaed gan O.S. 1996/1699.back
ISBN 0 11090824 4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 5 December 2003 |