Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003, ISBN 0110908201. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(e), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac a freiniwyd ynddo bellach, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru[2], ac yntau wedi ystyried y cyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, ac wedi ymgynghori fel sy'n ofynnol yn Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor[3], ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf uchod, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 28 Tachwedd 2003 a byddant yn gymwys i Gymru yn unig. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn -
(b) at ddibenion sefydliad arlwyo, neu (c) at ddibenion busnes gweithgynhyrchu.
Cwmpas y Rheoliadau
(b) bod y disgrifiad, yr ymadrodd sy'n deillio ohono, neu'r gair, yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun sy'n dangos yn ddiamwys neu'n awgrymu yn eglur mai dim ond cynhwysyn yn y bwyd hwnnw yw'r sylwedd y mae'n cyfeirio ato; (c) bod y disgrifiad, yr ymadrodd sy'n deillio ohono, neu'r gair, yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun sy'n dangos yn ddiamwys neu'n awgrymu yn eglur nad cynnyrch siwgr penodedig mo'r bwyd hwnnw, ac nad yw'n cynnwys dim ohono; neu (ch) bod y disgrifiad, yr ymadrodd sy'n deillio ohono, neu'r gair yn cael ei ddefnyddio yn enw arferol ar gynnyrch bwyd arall ac nad yw'n debygol o gamarwain y defnyddiwr.
Labelu a disgrifio cynhyrchion siwgr penodedig
(b) yn achos toddiant siwgr, toddiant siwgr gwrthdro a surop siwgr gwrthdro, faint o sylwedd sych a faint o siwgr gwrthdro sydd yn y cynnyrch.
Y dull o farcio neu labelu
(b) yn achos allforio i Wladwriaeth yr AEE, bod y ddeddfwriaeth yn cydymffurfio â darpariaethau Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/111/EC[7] sy'n ymwneud â siwgrau penodol y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl.
Cymhwyso amryw ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990
(b) adran 3 (rhagdybiaeth mai gan bobl y bwriedir i'r bwyd gael ei fwyta); (c) adran 20 (tramgwyddau y mae'r bai amdanynt ar berson arall); (ch) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dilys) fel y mae'n gymwys at ddibenion adrannau 8, 14 neu 15 o'r Ddeddf; (d) adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi yng nghwrs cynnal busnes); (dd) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol); (e) adran 33(1) (rhwystro swyddogion, ac yn y blaen); (f) adran 33(2), wedi ei haddasu fel bod rhaid dehongli'r cyfeiriad at "any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above" fel cyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath fel y'i crybwyllwyd yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e) uchod; (ff) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e) uchod; (g) adran 35(2) a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (f) uchod; (ng) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac (h) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu yn ddidwyll).
Dirymu a diwygio canlyniadol
(b) Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Diwygio) 1982[9].
(2) Yn Rheoliadau 1996 (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) -
(b) hepgorir paragraff (2) yn rheoliad 49 (dirymu a diwygio); (c) yn Atodlen 3 (enwau generig mewn rhestr o gynhwysion) mewnosodir yng ngholofn 3 (amodau defnyddio'r enw generig) o'r darn sy'n ymwneud â surop glwcos y geiriau canlynol -
(3) Hepgorir y darnau canlynol sy'n ymwneud â Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig 1976 yn narpariaethau'r Rheoliadau a nodir isod, i'r graddau y mae'r Rheoliadau'n gymwys i Gymru -
(b) yn Rheoliadau Bwyd (Adolygu Cosbau) 1985[11]), yn yr Atodlen, Rhan I; (c) yng Ngorchymyn Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (Addasiadau Canlyniadol) (Cymru a Lloegr) 1990[12], yn Atodlen 1, Rhan I, Atodlen 2, Atodlen 3, Rhan I ac Atodlenni 6 a 12; (ch) yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Allforio) 1991[13], yn Atodlen 1, Rhan I; (d) yn Rheoliadau Bwyd (Eithriadau'r Lluoedd) (Dirymu) 1992[14], yn yr Atodlen, Rhan I; (dd) yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995[15], yn Atodlen 9; (e) yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 1999[16]), yn rheoliad 14(1); (f) yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2002[17], yn rheoliad 9(2).
(4) Yn Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995[18]), i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, hepgorir paragraff (2) yn rheoliad 12.
(b) yng ngholofn 1 o Atodlen 2, yn lle'r cyfeiriad at "Directive 73/437/EEC" rhoddir cyfeiriad at "Directive 2001/111/EC".
(6) Yn Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 2001[19], yn rheoliad 5(1)(c), yn lle'r cyfeiriad at Reoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig 1976 rhoddir cyfeiriad at Reoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003.
(b) na fyddai'r materion sy'n berthnasol i'r tramgwydd honedig yn dramgwydd o dan Reoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig 1976 fel yr oeddynt yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.
Nodiadau: 1. Ceir defnyddio'r disgrifiad neilltuedig "sugar" neu "white sugar" fel ymadrodd arall ar gyfer y disgrifiad neilltuedig "extra-white sugar" yn achos y cynnyrch a ddisgrifir ym mharagraff 3 uchod. 2. Yn achos surop siwgr gwrthdro sy'n cynnwys crisialau yn y toddiant, rhaid ychwanegu'r ymadrodd goleddfu "crystallised" at ddisgrifiad y cynnyrch. 3. Os bydd cynnyrch siwgr penodedig a ddisgrifir ym mharagraff 7 neu 8 uchod yn cynnwys mwy na 5% o ffrwctos ar sail sylwedd sych, rhaid i'r disgrifiad neilltuedig fod naill ai yn "glucose-fructose syrup" neu "fructose-glucose syrup", neu naill ai yn "dried glucose-fructose syrup" neu "dried fructose-glucose syrup" yn ôl y digwydd er mwyn adlewyrchu pa un yw'r gyfran fwyaf, y glwcos ynteu'r ffrwctos. 4. Ceir rhoi ymadroddion goleddfu a ddefnyddir yn gyffredin ar y cynhyrchion a ddisgrifir ym mharagraffau 1 i 11 uchod, yn ogystal â'r disgrifiad neilltuedig ar yr amod na fydd hynny yn debygol o gamarwain y defnyddiwr o'i herwydd. 5. Ceir defnyddio'r disgrifiad "white" mewn cysylltiad ag unrhyw gynnyrch a ddisgrifir ym mharagraff 4 uchod os nad yw'r lliw yn y toddiant yn fwy na 25 o unedau ICUMSA wedi ei bennu yn unol â dull y Comisiwn Rhyngwladol dros Ddulliau Unffurf o Ddadansoddi Siwgr ("ICUMSA") wedi ei osod ym mharagraff 3 o Bennod A yn yr Atodiad i Reoliad (EEC) Rhif 1265/69[21]. 6. Ceir defnyddio'r disgrifiad "white" mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r cynhyrchion a ddisgrifir ym mharagraff 5 a 6 uchod os nad oes mwy na 0.1% o fwynau dargludedd ac os nad yw'r lliw yn y toddiant yn fwy na 25 o unedau ICUMSA wedi ei bennu fel y'i gosodir ym mharagraff 1 o Bennod A yn yr Atodiad i Reoliad (EEC) Rhif 1265/69. 7. Caiff cynhyrchion siwgr penodedig gynnwys unrhyw sylwedd a ganiateir yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 88/344/EEC ynghylch cyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-Wladwriaethau sy'n ymwneud â thoddyddion echdynnu a ddefnyddir wrth gynhyrchu bwydydd a chynhwysion bwyd[22] neu Gyfarwyddeb y Cyngor 89/107 ynghylch cyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-Wladwriaethau sy'n ymwneud ag ychwanegion bwyd a awdurdodir i'w defnyddio mewn bwydydd y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl.[23] 1. Dull 1 yw'r dull o bennu faint a gollir wrth sychu siwgr lledwyn, siwgr neu siwgr gwyn, a siwgr claerwyn. 2. Y dull o bennu math o liw siwgr neu siwgr gwyn a siwgr claerwyn yw dull Sefydliad Brunswick dros Dechnoleg Amaethyddol a'r Diwydiant Siwgr fel y'i disgrifir ym Mhennod A, paragraff 2, o'r Atodiad i Reoliad (EEC) Rhif 1265/69. At ddibenion pennu'r nifer o bwyntiau, mae un pwynt yn cyfateb i 0.5 o unedau. 3. Y dull o bennu faint o fwynau a gynhwysir mewn siwgr claerwyn, toddiant siwgr, toddiant siwgr gwrthdro, surop siwgr gwrthdro a ffrwctos yw dull ICUMSA fel y'i disgrifir ym Mhennod A, paragraff 1, o'r Atodiad i Reoliad (EEC) Rhif 1265/69. At ddibenion pennu'r nifer o bwyntiau, mae un pwynt yn cyfateb i 0.0018% o fwynau. 4. Y dull o bennu'r lliw mewn toddiant siwgr claerwyn a thoddiant siwgr yw dull ICUMSA fel y'i disgrifir ym Mhennod A, paragraff 3 o'r Atodiad i Reoliad (EEC) Rhif 1265/69. At ddibeion pennu'r nifer o bwyntiau at ddibenion paragraff 3 o Atodlen 1, mae un pwynt yn cyfateb i 7.5 o unedau. 5. Dull 2 yw'r dull o bennu faint o sylwedd sych a gynhwysir mewn surop glwcos, surop glwcos wedi ei sychu, decstros neu ddecstros monohydrad a decstros neu ddecstros anhydrus. 6. Dull 3 yw'r dull o bennu faint o sylwedd sych a gynhwysir mewn toddiant siwgr, toddiant siwgr gwrthdro a surop siwgr gwrthdro. 7. Dull 4 yw'r dull o bennu faint o siwgr gwrthdro a gynhwysir mewn siwgr lledwyn. 8. Dull 5 yw'r dull o bennu faint o siwgr gwrthdro a gynhwysir mewn siwgr neu siwgr gwyn a siwgr claerwyn. 9. Dull 7 yw'r dull o bennu faint o siwgr gwrthdro a gynhwysir mewn toddiant siwgr, toddiant siwgr gwrthdro a surop siwgr gwrthdro. 10. Dull 9 yw'r dull o bennu faint o fwynau wedi eu sylffadu a gynhwysir mewn surop glwcos, surop glwcos wedi ei sychu, decstros neu ddecstros monohydrad, a decstros neu ddecstros anhydrus. 11. Dull 10 yw'r dull o bennu i ba raddau y mae siwgr lledwyn, siwgr neu siwgr gwyn a siwgr claerwyn wedi eu polareiddio. 12. At ddibenion yr Atodlen hon -
(b) ystyr "ICUMSA" yw'r Comisiwn Rhyngwladol dros Ddulliau Unffurf o Ddadansoddi Siwgr.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/111/EC sy'n ymwneud â siwgrau penodol y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl (OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.53) ac eithrio Erthygl 2.2 sy'n ymwneud â labelu cynhyrchion bach sydd wedi eu pecynnu ymlaen llaw. Maent yn dirymu a disodli Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig 1976, fel y'u diwygiwyd, mewn cysylltiad â Chymru. Mae'r Rheoliadau -
(b) yn darparu bod y Rheoliadau yn gymwys i gynhyrchion siwgr penodol y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl ac sy'n barod i'w dosbarthu i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo (rheoliad 3); (c) cyfyngu ar ddisgrifiadau neilltuedig fel na cheir eu defnyddio ond ar gyfer y cynhyrchion siwgr penodol y maent yn berthnasol iddynt (rheoliad 4); (ch) pennu'r gofynion labelu i gynhyrchion o'r fath (rheoliad 5); (d) pennu'r dull o farcio neu labelu drwy gymhwyso darpariaethau penodedig Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (rheoliad 6); (dd) pennu cosb, awdurdodau gorfodi ac, yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC ar reolaeth swyddogol ar fwydydd (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23) a Chytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, amddiffyniad mewn cysylltiad ag allforion (rheoliadau 7 ac 8); (e) cymhwyso amryw ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 9); (f) dirymu'r Rheoliadau blaenorol a gwneud diwygiadau canlyniadol a darpariaeth drosiannol (rheoliadau 10 ac 11). Un effaith o'r dirymu a geir yn rheoliad 10(1)(a) ac o beidio ag ailddeddfu'r ddarpariaeth a ddirymwyd yno yw y bydd Rhan II o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 yn gymwys i gynhyrchion y mae'r Rheoliadau hyn yn berthnasol iddynt.
Mae arfarniad rheoliadol wedi ei baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a'i roi yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau deddfwriaeth Ewropeaidd y cyfeirir ati uchod wedi'u trawsosod yn y Rheoliadau hyn. Ceir copïau o'r Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW. Notes: [1] 1990 p.16.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn cysylltiad â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back [4] OJ Rhif L1, 3.1.94, t.1.back [5] OJ Rhif L1, 3.1.94, t.571.back [7] OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.53. O ran ymgorffori Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/111/EC yng Nghytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd gweler OJ Rhif L298, 31.10.02, t.10.back [17] O.S. 2002/329 (Cy.42).back [19] O.S. 2001/1440 (Cy.102).back [21] OJ Rhif L163, 1.7.1969, t.1.back [22] OJ Rhif L157, 24.6.1988, t.28.back [23] OJ Rhif L40, 11.2.1989, t.27.back [24] OJ Rhif L239, 22.9.79, t.24.back
ISBN 0 11090820 1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 5 December 2003 |