Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2003, ISBN 0110908163. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Wrth arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(a), (c) ac (e), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl rhoi sylw, yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori fel y mae'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor[3] sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Ynghylch y Rheoliadau hyn -
Dehongli
(b) at ddibenion sefydliad arlwyo; neu (c) at ddibenion busnes gweithgynhyrchu.
(2) Er gwaethaf y ffaith bod bwyd yn cael ei bennu yng Ngholofn 2 o Atodlen 1, caiff ei drin fel "cynnyrch dynodedig" ar gyfer dibenion y Rheoliadau hyn dim ond -
(b) os yw'n cynnwys unrhyw gynhwysyn ychwanegol, os yw'r cynhwysyn hwnnw wedi'i awdurdodi ar gyfer y bwyd dan sylw gan Atodlen 3; (c) ac yntau'n fwyd ac iddo'r disgrifiad neilltuedig "sudd ffrwythau", "sudd ffrwythau dwysedig", "sudd ffrwythau o ddwysfwyd", neu "sudd ffrwythau dadhydradedig neu sudd powdr", os nad yw wedi'i baratoi drwy ychwanegu ato -
(ii) siwgrau a chyfryngau asideiddio ill dau fel a ganiateir gan Gyfarwyddeb 95/2/EC,
(ch) os y'i paratowyd drwy ddefnyddio unrhyw driniaeth neu sylwedd ychwanegol, os yw'r driniaeth neu'r sylwedd wedi'u pennu yn Atodlen 4; a
Ystod y Rheoliadau
(b) bod disgrifiad, disgrifiad sy'n deillio ohono neu air o'r fath yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun o'r fath er mwyn dangos yn bendant neu drwy oblygiad clir mai dim ond cynhwysyn yn y bwyd hwnnw yw'r sylwedd y mae'n berthnasol iddo; neu (c) bod disgrifiad, disgrifiad sy'n deillio ohono neu air o'r fath yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun o'r fath er mwyn dangos yn bendant neu drwy oblygiad clir nad yw'r bwyd hwnnw yn gynnyrch dynodedig nac yn cynnwys cynnyrch dynodedig.
Labelu a disgrifio cynnyrch dynodedig
(b) yn achos sudd ffrwythau, sudd ffrwythau dwysedig, sudd ffrwythau o ddwysfwyd neu o sudd ffrwythau dadhydradedig neu bowdr, a felyswyd drwy ychwanegu siwgrau, yr ychwanegir y gair "sweetened" neu'r geiriau "with added sugar" at y disgrifiad neilltuedig o'r cynnyrch hwnnw, a bod disgrifiad o'r fath neu enw arall yn cael ei ddilyn gan ddatganiad (wedi'i gyfrifo fel mater sych, a'i fynegi mewn gramiau fesul litr) o fwyafswm y siwgr a ychwanegwyd; (c) yn achos sudd ffrwythau, sudd ffrwythau dwysedig neu sudd ffrwythau o ddwysfwyd yr ychwanegwyd mwydion neu gelloedd ar wahân i, neu'n ychwanegol at, y mwydion neu'r celloedd a echdynnwyd yn wreiddiol o'r cynnyrch hwnnw, fod ei labelu'n cynnwys datganiad o ychwanegiad o'r fath; (ch) yn achos -
(ii) neithdar ffrwythau a gafwyd yn rhannol o un neu fwy o gynhyrchion dwysedig,
bod ei labelu yn dwyn y geiriau "partially made from concentrate" neu, yn ôl y digwydd, "partially made from concentrates", bod y geiriau hynny'n ymddangos yn agos at y disgrifiad neilltuedig, mewn llythrennau y gellir eu gweld yn eglur ac y gellir eu gwahaniaethu'n hawdd oddi wrth eu cefndir;
(ii) sudd lemon ychwanegol, neu (iii) cyfryngau asideiddio fel a ganiateir gan Gyfarwyddeb 95/2/EC.
Dull marcio neu labelu
(b) yn achos allforio i Wladwriaeth AEE, bod y ddeddfwriaeth yn cydymffurfio â darpariaethau Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/112/EC sy'n ymwneud â suddoedd ffrwythau a chynhyrchion penodol tebyg a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl[8].
Cymhwyso amryw o ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990.
(b) adran 3 (rhagdybiaeth bod bwyd wedi'i fwriadu i bobl ei fwyta); (c) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall); (ch) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adrannau 8, 14 neu 15 o'r Ddeddf; (d) adran 22 (amddiffyniad o gyhoeddi wrth gynnal busnes); (dd) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol); (e) adran 33(1) (rhwystro swyddogion etc.); (f) adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at "any such requirement as is mentioned in subsection 1(b) above" yn gyfeiriad at unrhyw ofynion o'r fath a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e); (ff) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e); (g) adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (f); (ng) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); a (h) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
Diwygio a dirymu
(b) yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995[10] (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru), yn Atodlen 7 -
(ii) yn lle'r geiriau "Pineapple juice as defined in Directive 93/77/EEC" rhodder y geirau "Pineapple juice as defined in Council Directive 2001/112/EC"; (iii) yn lle'r geiriau "Nectars as defined in Directive 93/77/EEC" rhodder y geiriau "Nectars as defined in Council Directive 2001/112/EC"; (iv) yn lle'r geiriau "Grape juice as defined in Directive 93/77/EEC" rhodder y geiriau "Grape juice as defined in Council Directive 2001/112/EC"; (v) yn lle'r geiriau "Fruit juices as defined in Directive 93/77/EEC" rhodder y geiriau "Fruit juices as defined in Council Directive 2001/112/EC".
(2) Yn narpariaethau'r Rheoliadau a bennir ym mharagraff (3) (ym mhob achos i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) dileer y cofnodion sy'n ymwneud â Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Suddoedd Neithdar 1977[11].
(b) Rhan I o'r Atodlen i Reoliadau Bwyd (Adolygu Cosbau) 1985[13]; (c) Rhan I o Atodlen 1, Atodlen 2, Rhan I o Atodlen 3, Atodlen 6 ac Atodlen 12 i Orchymyn Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru a Lloegr) 1990[14]); (ch) Rhan I o Atodlen 1 i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Allforion) 1991[15]; (d) Rhan I o'r Atodlen i Reoliadau Bwyd (Esemptiadau'r Lluoedd) (Dirymu) 1992[16]); ac (dd) Atodlen 9 i Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995[17].
(4) Dirymir y Rheoliadau canlynol drwy hyn (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) -
(b) Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Diwygio) 1982[18]; (c) Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru, Lloegr a'r Alban) (Diwygio) 1991[19]); (ch) Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru, Lloegr a'r Alban) (Diwygio) 1995[20].
Darpariaethau trosiannol
(b) na fyddai'r materion sy'n dramgwydd honedig wedi bod yn dramgwydd o dan Reoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau 1977 fel yr oeddynt yn union cyn dyddiad dod i rym y Rheoliadau hyn.
1. Ffrwythau, o unrhyw fath heblaw tomatos. 2. Piwrî ffrwythau, sef y cynnyrch eplesadwy ond heb ei eplesu a geir drwy hidlo'r rhan fwytadwy o'r ffrwyth cyfan neu'r ffrwyth wedi'i bilio heb dynnu'r sudd ohono. 3. Piwrî ffrwythau dwysedig, sef y cynnyrch a geir o'r pwrî ffrwythau drwy dynnu cyfran benodol o'i gynnwys d r.4. Siwgrau, sef -
- surop ffrwctos; - siwgrau sy'n deillio o ffrwythau;
- surop ffrwctos;
r.
5.
Mêl, sef y cynnyrch a ddiffinnir fel "honey" yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2001/110/EC mewn perthynas â mêl[24].
- mewn perthynas ag unrhyw ffrwythau eraill, y cynhyrchion a geir o rannau bwytadwy o'r ffrwyth heb dynnu'r sudd ohonynt.
1. Ceir ychwanegu fitaminau a mwynau at unrhyw gynnyrch dynodedig. 2. Mewn sudd grawnwin ceir adfer halwynau o asidau tartarig. 3. At sudd ffrwythau, sudd ffrwythau dwysedig, sudd ffrwythau o ddwysfwyd, a sudd ffrwythau dadhydradedig neu bowdr, heblaw unrhyw sudd ffrwythau a baratowyd o rawnwin neu ellyg, ceir ychwanegu siwgrau -
(b) at ddibenion melysu, mewn swm (a fynegir fel mater sych) nad yw'n fwy na 150g y litr o sudd;
nid yw cyfanswm y siwgrau a ychwanegir felly at y naill ddiben neu'r llall i fod yn fwy na 150g y litr o sudd.
(b) sudd lemon dwysedig, neu (c) sudd lemon a sudd lemon dwysedig ill dau,
(a fynegir fel asid sitrig anhydrus), nid yw cyfanswm y sudd hwnnw a ychwanegir i fod yn fwy na 3g y litr o'r cynnyrch. Triniaethau 1. Prosesau echdynnu mecanyddol. 2. Y prosesau ffisegol arferol (sef y rheiny a gynhwysir yn y disgrifiad hwnnw yn Atodiad I, Rhan II, pwynt 2, i Gyfarwyddeb y Cyngor 2001/112/EC sy'n ymwneud â suddoedd ffrwythau a chynhyrchion eraill tebyg a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl) a chan gynnwys, wrth gynhyrchu sudd ffrwythau dwysedig heblaw'r sudd a gynhyrchir o rawnwin, echdynnu d r mewn-lein, neu dryledu rhannau bwytadwy o'r ffrwyth.3. Wrth gynhyrchu sudd grawnwin pan sylffadwyd y grawnwin â deuocsid sylffwr, dadsylffadu drwy ddull ffisegol, ar yr amod nad yw cyfanswm y sudd grawnwin gorffenedig yn fwy na 10 mg y litr o sudd. Sylweddau ychwanegol 4. Ensymau pectolytig. 5. Ensymau proteolytig. 6. Ensymau amylolytig. 7. Gelatin bwytadwy. 8. Taninau. 9. Bentonit. 10. Erogel silicon. 11. Siarcol. 12. Cyfryngau cynorthwyo hidlo a chyfryngau gwaddodi sy'n gemegol anadweithiol, gan gynnwys perlit, diatomit wedi'i olchi, seliwlos, polyamid annhoddadwy, polyfynilpolypyrolidon, a pholystyren, sy'n cydymffurfio â Chyfarwyddebau'r Gymuned ar ddeunyddiau a gwrthrychau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd[26]. 13. Cymhorthion arsugno cemegol anadweithiol sydd yn cydymffurfio â Chyfarwyddebau'r Gymuned a enwyd ac y defnyddir hwy i leihau cynnwys limonoid a naringin mewn sudd sitrws heb effeithio'n arwyddocaol ar gynnwys glwcosidau limonoisd, asid, siwgrau (gan gynnwys oligosacaridau) neu fwynau mewn sudd o'r fath.
Nodiadau: 1. Yn achos cynnyrch a gafodd ei baratoi o gymysgedd o fathau o ffrwythau, caiff yr Atodlen hon ei darllen fel pe bai'r isafsymiau a bennir ar gyfer yr amryw fathau o ffrwyth y sonnir amdanynt neu y cyfeirir atynt ynddi yn cael eu lleihau yn gymesur â'r symiau cymharol o'r mathau o ffrwythau a ddefyddir. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru ac sy'n dod i rym ar 28 Tachwedd 2003, yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/112/EC sy'n ymwneud â suddoedd ffrwythau a chynhyrchion eraill tebyg a fwriadwyd ar gyfer eu bwyta gan bobl (OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.58). Maent yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau 1977, fel y'u diwygiwyd, mewn perthynas â Chymru. Mae'r Rheoliadau -
(b) yn rhagodi'r deunyddiau crai, prosesau triniaeth a chynhwysion ychwanegol sydd i'w defnyddio wrth baratoi cynhyrchion penodedig (rheoliad 2(2) ac Atodlenni 2, 3 a 4); (c) yn rhagnodi'r isafswm o sudd ffrwythau ar gyfer cynhyrchion sy'n dwyn y disgrifiad neilltuedig "neithdar ffrwythau" (rheoliad 2(2) ac Atodlen 5); (ch) yn darparu ar gyfer yr amgylchiadau y mae'r Rheoliadau yn gymwys iddynt (rheoliad 3); (d) yn cyfyngu ar y disgrifiadau neilltuedig fel na ellir eu defnyddio ond ar gyfer y cynhyrchion dynodedig y maent yn berthnasol iddynt (rheoliad 4); (dd) yn rhagnodi'r gofynion labelu i'r cynhyrchion hynny (rheoliad 5); (e) yn darparu ar gyfer dulliau nodi a labelu cynhyrchion dynodedig (rheoliadau 5 a 6); (f) yn pennu cosb am fynd yn groes i'r rheoliadau a phennu awdurdodau gorfodi (rheoliad 7); (ff) yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC ar reoli swyddogol bwydydd (OJ Rhif L186, 30.6.1989, t.23) a Chytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, yn pennu amddiffyniad mewn cysylltiad ag allforion (rheoliad 8); (g) yn cymhwyso amryw ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 9); (ng) yn dirymu'r Rheoliadau blaenorol ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol a darpariaeth drosiannol (rheoliad 10 ac 11).
Mae Arfarniad rheoliadol wedi cael ei baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau deddfwriaeth Ewropeaidd y cyfeirir ati uchod wedi'u trawsosod yn y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW. Notes: [1] 1990 p.16.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back [4] OJ Rhif L61, 18.3.1995, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 98/72/EC (OJ Rhif L295, 4.11.1998, t.18).back [5] OJ Rhif L1, 3.1.94, t.1.back [6] OJ Rhif L1, 3.1.94, t.571.back [7] O.S. 1996/1499, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/141, O.S. 1998/1398, O.S. 1998/2424, O.S. 1999/747, O.S. 1999/1136, O.S. 1999/1483, O.S. 1999/1540, O.S. 2000/768, O.S. 2000/2254, O.S. 2000/3323, O.S. 2001/2294, O.S. 2001/3442, O.S. 2001/3775 ac O.S. 2002/379.back [8] OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.58, fel y'i mabwysiadwyd gan Benderfyniad Cyd-bwyllgor AEE 99/2002 (OJ Rhif L298, 31.10.2002, t.10).back [9] O.S. 1995/3124, y mae diwygiadau eraill iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back [10] O.S. 1995/3187, y mae diwygiadau eraill iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back [17] O.S.1995/3187; y diwygiadau perthnasol yw O.S. 1997/1413, 1999/1136, 2001/1787(Cy. 128), 1440 (Cy. 102).back [22] OJ Rhif L237, 10.9.94, t.3, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 96/83/EC (OJ Rhif L48, 19.2.97, t.16).back [23] OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.53.back [24] OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.47.back [25] OJ Rhif L40, 11.2.1989, t.27.back [26] Cyfarwyddeb y Cyngor 89/109/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau mewn perthynas â deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd OJ Rhif L40, 11.2.1989 a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2002/72/EC sy'n ymwneud â deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd OJ Rhif L220, 15.8.2002, t.18 yw'r Cyfarwyddebau.back
ISBN 0 11090816 3
| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 3 December 2003 |