Gorchymyn Rhwydi Pysgota Perdys (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Rhwydi Pysgota Perdys (Cymru) 2003, ISBN 0110908139. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 5(1) a 15(3) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Cadwraeth) 1967[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi, cychwyn a dehongli 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rhwydi Pysgota Perdys (Cymru) 2003 a daw i rym ar 30 Tachwedd 2003. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru[2]. Dehongli 2. - (1) Yn y Gorchymyn hwn -
(2) At ddibenion y Gorchymyn hwn, rhaid mesur masgl rhwyd neu rwydwe yn unol â Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 2108/1984 ar 23 Gorffennaf 1984 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer penderfynu maint masgl rhwydi pysgota[4] ac a ddiwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2550/1997[5]).
(ii) bod twll yn y rhwyd y mae'r holl bysgod nad ydynt ym mynd drwy'r rhwydwe yn gallu ffoi drwyddo;
(b) bod grid anhyblyg, nad yw'r gofod rhwng ei fariau yn fwy nag 20 milimetr wedi ei roi ar draws holl drawsdoriad y rhwyd yn y fath fodd -
(ii) bod twll yn y rhwyd y mae'r holl bysgod nad ydynt ym mynd drwy'r grid yn gallu ffoi drwyddo;
(c) na chadwyd unrhyw bysgod ar fwrdd y cwch; neu
Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig
(b) caiff fynnu bod unrhyw berson sydd ar fwrdd y cwch yn dangos unrhyw ddogfen yngl n â'r cwch, ag unrhyw weithrediadau pysgota neu unrhyw weithrediadau ategol iddynt neu â'r personau sydd ar fwrdd y cwch sydd yng ngwarchodaeth neu feddiant y person hwnnw a chaiff gymryd copïau o unrhyw ddogfen o'r fath;(c) er mwyn canfod a yw meistr, perchennog neu siartrwr y cwch wedi cyflawni unrhyw dramgwydd o dan adran 3(5) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967 fel y'i darllenir ynghyd â'r Gorchymyn hwn, caiff chwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a gall fynnu bod unrhyw berson ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol i hwyluso'r chwilio; (ch) os oes gan y swyddog reswm dros amau fod tramgwydd o'r fath wedi'i gyflawni, caiff gymryd a chadw unrhyw ddogfen o'r fath a ddangosir iddo neu iddi neu a ddeuir o hyd iddi er mwyn galluogi defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn unrhyw achos yngl n â'r tramgwydd;
ond nid yw unrhyw beth yn is-baragraff (ch) uchod yn caniatáu cymryd a chadw unrhyw ddogfen y mae'r gyfraith yn mynnu ei bod yn cael ei chario ar fwrdd y cwch, ac eithrio pan fydd y cwch yn cael ei ddal mewn porthladd.
(b) dal, neu fynnu bod y meistr yn dal, y cwch yn y porthladd;
a phan fydd swyddog o'r fath yn dal, neu'n mynnu bod y cwch yn cael ei ddal, rhaid iddo gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig yn datgan y bydd y cwch yn cael ei ddal neu fod angen ei ddal hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig arall a lofnodwyd gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn rheoli cario a defnyddio unrhyw rwydi pysgota gyda maint eu masgl rhwng 16 a 31 milimetr, wedi ei fesur yn unol â Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 2108/1984 dyddiedig 23 Gorffennaf 1984. Mae'n nodi'r darpariaethau cenedlaethol y gelwir amdanynt gan Erthygl 25 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 dyddiedig 30 Mawrth 1998, drwy bennu treillrwydi gwahanu a gridiau didoli fel y mathau o ddyfais y mae angen eu defnyddio. Mae'r Gorchymyn yn gymwys i gychod pysgota Prydeinig yn nyfroedd Cymru ac yn eu gwahardd rhag cario neu ddefnyddio rhwydi o'r fath ac eithrio o dan amgylchiadau penodol (erthygl 3). Mae cymeryd mesurau ar gyfer cadw a rheoli stociau o dan Erthygl 46 o Reoliad y Cyngor 850/98 yn ddarostyngedig i amod fod y mesurau yn gymwys i bysgotwyr yr Aelod-wladwriaeth berthnasol yn unig. Yr eithriadau penodol yw pan fydd atodiadau a ddiffinir wedi eu rhoi gyda'r rhwyd (erthygl 3(1)(a)-(b)), pan na fydd unrhyw bysgod môr wedi eu dal (erthygl 3(1)(c)) neu pan fydd llai na 60% yn ôl pwysau byw o gyfanswm yr haldiad yn berdys cyffredin neu'n berdys Aesop neu'n gyfuniad o'r ddau, a bod unrhyw bysgod môr a gedwir ar y cwch yn cael eu cadw yn unol ag erthygl 25 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 (erthygl 3(1)(d)). Pan fydd unrhyw gwch yn torri'r gwaharddiad hwn, bydd y meistr, y perchennog a'r siartrwr yn euog o dramgwydd ac yn agored i ddirwy heb fod yn fwy na £5,000 o'i gollfarnu'n ddiannod, ac o'i gollfarnu ar dditiad i ddirwy (adranau 3(5) ac 11(1)(b) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967). Caiff y llys hefyd osod dirwy ychwanegol heb fod yn fwy na gwerth y pysgod a ddaliwyd â'r rhwyd neu orchymyn fforffedu'r rhwyd (adran 11(2)-(3) o Ddeddf 1967). Yn ogystal, mae'r Gorchymyn yn rhoi pwerau gorfodi i swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig at ddibenion gorfodi'r Gorchymyn hwn neu unrhyw Orchymyn cyfatebol sy'n gweithredu gwaharddiadau tebyg mewn perthynas ag unrhyw gategorïau o gwch pysgota. Paratowyd Arfarniad Rheoliadol ac fe'i hadneuwyd yn Llyfrgell y Cynulliad Cenedlaethol. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Polisi Amaethyddiaeth a Physgodfeydd, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Notes: [1] 1967 p.84. Amnewidiwyd adran 5(1) gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p.29) adran 22(1). Amnewidiwyd adran 15(3) gan Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968 (p.77) adran 22(1), Atodlen 1, paragraff 38(3) a'i diwygio gan Ddeddf Terfynau Pysgodfeydd 1976 (p.86) adran 9(1), Atodlen 2, paragraff 16(1) ac O.S. 1999/1820, Erthygl 4, Atodlen 2, paragraff 43(2)(b). Gweler adran 22(2) i gael y diffiniad o "the Ministers" at ddibenion adran 5 a 15(3); cafodd adran 22(2) ei diwygio gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981, adrannau 19(2)(d) a 45(b) ac (c) a chan O.S. 1999/1820, Erthygl 4, paragraff 43(12) o Atodlen 2. Yn rhinwedd erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) trosglwyddwyd y swyddogaethau sy'n arferadwy o dan Ddeddf 1967 i'r Cynulliad Cenedlaethol i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru (a ddiffinir yn adran 155(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) fel ei fod i gynnwys "the sea adjacent to Wales out as far as the seaward boundary of the territorial sea"); mewn perthynas â dyfroedd y tu hwnt i Gymru mae'r swyddogaethau hyn yn parhau i gael eu harfer gan y Gweinidogion. Mae erthygl 3(1) ac Atodlen 1 o Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Swyddogaethau Cyfamserol) 1999 (O.S. 1999/1592) yn darparu bod y swyddogaethau sy'n arferadwy o dan adrannau 5 a 15(3) o Ddeddf 1967 i'w harfer gan y Gweinidogion, yn gydamserol â Gweinidogion yr Alban, mewn perthynas â'r canlynol: cychod pysgota Prydeinig perthnasol o fewn parth yr Alban; a chychod pysgota'r Alban o fewn terfynau pysgodfeydd Prydain ond y tu allan i barth yr Alban. Yn rhinwedd erthygl 2(1) o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Physgodfeydd) 2000 (O.S. 2000/1812) trosglwyddwyd unrhyw swyddogaethau a oedd yn weddill gan Ysgrifenyddion Gwladol Cymru a'r Alban o dan adrannau 5 a 15(3) o Ddeddf 1967 i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, ac yn eu tro (ynghyd â swyddogaethau eraill) i'r Ysgrifennydd Gwladol gan O.S. 2002/794.back [2] Gan gynnwys "the sea adjacent to Wales out as far as the seaward boundary of the territorial sea" (adran 155 (1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)) ac yn unol ag erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 3 iddo ynghylch aberoedd yr Hafren a'r Ddyfrdwy.back [4] OJ Rhif L194, 24.7.1984, t.22.back [5] OJ Rhif L349, 19.12.1997, t.1.back
ISBN 0 11090813 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 3 December 2003 |