Rheoliadau Fforymau Ysgolion (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Fforymau Ysgolion (Cymru) 2003, ISBN 0110908066. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 47A o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yn y Cynulliad Cenedlaethol[2]. Enw, cychwyn, cymhwyso a dehongli 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Fforymau Ysgolion (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 13 Tachwedd 2003. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig. (3) Yn y Rheoliadau hyn -
(4) Yn y Rheoliadau hyn, nid yw cyfeiriad at gorff llywodraethu yn cynnwys cyfeiriad at gorff llywodraethu dros dro ysgol newydd (o fewn ystyr adran 72(3) o Ddeddf 1998) ac nid yw cyfeiriad at lywodraethwr yn cynnwys cyfeiriad at aelod o gorff llywodraethu dros dro ysgol newydd. Sefydlu fforwm ysgolion 2. Rhaid i bob awdurdod addysg lleol, yn unol â'r Rheoliadau hyn, sefydlu fforwm ysgolion i'w ardal erbyn 15 Rhagfyr 2003. Aelodau: cyffredinol 3. - (1) Rhaid bod o leiaf 15 o aelodau mewn fforwm wedi eu penodi gan yr awdurdod perthnasol. (2) Ni chaiff yr awdurdod perthnasol benodi mwy na chwarter holl aelodau'r fforwm yn aelodau o'r tu allan i'r ysgolion i gynrychioli cyrff perthnasol. (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r fforwm gynnwys aelodau ysgolion yn unig. (4) Rhaid i aelodau ysgolion ac aelodau o'r tu allan i'r ysgolion gael eu penodi drwy offeryn ysgrifenedig i fod yn aelod am dymor a bennir yn yr offeryn hwnnw. (5) Caiff yr awdurdod perthnasol ddod ag aelodaeth unrhyw aelod ysgolion i ben cyn i'w dymor aelodaeth ddod i ben os nad yw'r aelod dan sylw bellach yn bennaeth neu yn llywodraethwr yr ysgol a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol y bu'n gymwys i gael ei benodi i'r fforwm o'i herwydd. (6) Caiff yr awdurdod perthnasol ddod ag aelodaeth unrhyw aelod o'r tu allan i'r ysgolion i ben os nad yw bellach yn bodloni'r meini prawf cymhwyso y bu'n gymwys i gael ei enwebu ar gyfer ei benodi i'r fforwm o'u herwydd. Ethol a phenodi'r aelodau ysgolion 4. - (1) Rhaid i'r awdurdod perthnasol benodi, i fod yn aelodau ysgolion, gynrychiolwyr ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol sydd wedi eu hethol yn unol â gweithdrefnau a bennir gan yr awdurdod perthnasol. (2) Wrth bennu'r gweithdrefnau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) -
(b) os yw'r awdurdod perthnasol yn cynnal un neu fwy o ysgolion arbennig, rhaid iddo sicrhau bod o leiaf un aelod ysgolion yn cynrychioli ysgol o'r fath; ac (c) os yw'r awdurdod perthnasol yn cynnal ysgolion o wahanol gategorïau ysgol, rhaid i'r trefniadau a wneir gan yr awdurdod yn rhinwedd is-baragraff (a) sicrhau bod y cynrychiolwyr ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd a benodir ganddo yn cynnwys o leiaf un person sy'n gynrychiolydd ysgol ym mhob categori ysgol o'r fath.
(3) At ddibenion paragraff 2(c), mae'r canlynol yn gategorïau ysgol -
(b) ysgolion sefydledig; ac (c) ysgolion gwirfoddol.
(4) Rhaid i'r awdurdod perthnasol sicrhau i'r graddau y mae'n ymarferol bod o leiaf un aelod ysgolion yn rhiant-lywodraethwr.
(b) ystyr "ysgol uwchradd" ("secondary school") yw ysgol uwchradd a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol; (c) ystyr "cynrychiolwr" ("representative") yw pennaeth neu lywodraethwr ysgol a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol; (ch) ystyr "ysgol arbennig" ("special school") yw ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig.
Penodi'r aelodau o'r tu allan i'r ysgolion
(b) gan esgob unrhyw esgobaeth yr Eglwys Gatholig Rufeinig y mae unrhyw ran ohoni yn ardal yr awdurdod perthnasol; ac (c) gan undebau athrawon ac undebau llafur eraill y mae ganddynt aelodau sy'n gweithio yng Nghymru.
Cyfarfodydd a thrafodion y fforwm ysgolion Ymgynghori ynghylch materion ariannol 7. - (1) Rhaid i'r awdurdod perthnasol ymgynghori â'r fforwm yn flynyddol -
(b) ar newidiadau rhagolygol i gynllun yr awdurdod perthnasol ar gyfer ariannu ysgolion.
(2) Caiff yr awdurdod perthnasol ymghynghori â'r fforwm ynghylch unrhyw faterion eraill o'r fath sy'n ymwneud ag ariannu ysgolion fel y mae'n gweld yn briodol.
(b) effaith ariannol tebygol unrhyw newid o'r fath.
(2) Rhaid i'r ymgynghori o dan baragraff (1) gael ei wneud gan roi digon o amser fel bo'r safbwyntiau a fynegwyd yn gallu cael eu hystyried wrth bennu fformiwla'r awdurdod perthnasol ac wrth wneud y penderfyniad cychwynnol ynghylch cyfrannau ysgolion o'r gyllideb cyn dechrau'r flwyddyn ariannol.
(b) nad yw amcangyfrif gwerth contract cyflenwi cyhoeddus arfaethedig yn llai na'r trothwy penodol sy'n gymwys i'r awdurdod perthnasol yn unol â Rheoliad 7(2) o Reoliadau Contractau Cyflenwi Cyhoeddus 1995[5].
(2) Rhaid i'r awdurdod perthnasol, o leiaf dri mis cyn y dyddiad pan fo'n bwriadu gwneud y cytundeb terfynol, ymgynghori â'r fforwm ynghylch amodau unrhyw gytundeb lefel gwasanaeth y byddai'r ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol yn cael nwyddau neu wasanaethau gan yr awdurdod oddi tano ac y byddai cost y nwyddau neu'r gwasanaethau yn cael eu talu (yn gyfan gwbl neu'n rhannol) o gyfraniadau'r gyllideb ysgolion. Talu costau 11. Yr awdurdod perthnasol sydd i dalu pob un o gostiau'r fforwm, a hynny o'i gyllideb ysgolion lleol tan 1 Ebrill 2004 ac o'i gyllideb AALl wedi hynny. Costau'r aelodau 12. Rhaid i'r awdurdod perthnasol dalu yn ôl i'r aelodau bob cost resymol sy'n deillio o fynychu cyfarfodydd y fforwm. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6] D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 12 Tachwedd 2003 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi amryw faterion sy'n ymwneud â sefydlu fforymau ysgolion a'u swyddogaethau. Mae rheoliad 2 yn darparu bod rhaid i bob awdurdod addysg lleol sefydlu fforwm ysgolion erbyn 30 Tachwedd 2003. Mae rheoliad 3 yn pennu'r isafswm o aelodau'r fforwm ysgolion a chyfran uchaf yr aelodau sy'n dod o'r tu allan i'r ysgolion. Mae hefyd yn cynnwys darpariaethau ynghylch amodau aelodaeth ac ar gyfer dod ag aelodaeth i ben yn gynnar mewn amgylchiadau penodedig. Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer penodi penaethiaid a llywodraethwyr ysgolion a gynhelir, sydd wedi cael eu hethol yn unol â'r gweithdrefnau y penderfynwyd arnynt gan yr awdurdod addysg lleol, i fod yn aelodau ysgolion, a hynny i sicrhau bod ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd, ysgolion arbennig, a gwahanol gategorïau o ysgolion yn cael eu cynrychioli'n briodol. Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth bod yr awdurdod addysg lleol yn penodi aelodau o'r tu allan i'r ysgolion a hynny i gynrychioli cyrff perthnasol, a allai gynnwys cyrff esgobaethol ac Undebau Llafur. Mae rheoliad 6 yn darparu ar gyfer cyfarfodydd a thrafodion y fforymau. Mae rheoliad 7 yn darparu i'r awdurdod ymgynghori â'r fforwm yn flynyddol ar arfer ei swyddogaethau o ran ei gyllideb ysgolion a newidiadau i'w gynllun ariannu. Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth bod yr awdurdod addysg lleol yn ymgynghori â'r fforwm ysgolion ynghylch newidiadau i fformiwla ariannu ysgolion yr awdurdod. Mae rheoliad 9 yn darparu yr ymgynghorir â'r fforwm ynghylch contractau cyflenwi a gwasanaethau cyhoeddus os yw'r pris yn mynd y tu hwnt i'r trothwy caffael a ragnodwyd ac ynghylch cytundebau lefel gwasanaeth ar gyfer cyflenwi nwyddau a gwasanaethau i'r ysgolion gan yr awdurdod. Mae rheoliadau 10, 11 a 12 yn darparu bod y fforwm yn rhoi gwybod i'r ysgolion am bob ymgynghoriad a wnaethpwyd, bod costau'r fforwm yn cael eu talu o gyllideb yr AALl, a bod yr awdurdod addysg lleol yn talu costau rhesymol aelodau'r fforwm. Notes: [1] 1998 p.31. Mewnosodwyd adran 47A gan adran 43 o Ddeddf Addysg 2002 (p.32), a chaiff ei dwyn i rym ar 1 Tachwedd 2003 gan Ran III o'r Atodlen i Orchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/1718).back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 211 o Ddeddf Addysg 2002.back [3] Sefydlwyd Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant o dan adran 30 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, p.21.back [4] O.S. 1993/3228. Diwygiwyd rheoliad 7 gan Reoliad 4 o Reoliadau Contractau Cyhoeddus (Gweithfeydd, Gwasanaethau a Chyflenwi) (Diwygio) 2000 (O.S. 2000/2009).back [5] O.S. 1995/201. Diwygiwyd rheoliad 7 gan Reoliad 5 o Reoliadau Contractau Cyhoeddus (Gweithfeydd, Gwasanaethau a Chyflenwi) (Diwygio) 2000 (O.S. 2000/2009).back
ISBN 0 11090806 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 18 November 2003 |