Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2003, ISBN 011090799X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 21 o Ddeddf Aer Glân 1993[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yn y Cynulliad Cenedlaethol[2], gan ei fod wedi'i fodloni y gall y dosbarthiadau o leoedd tân sy'n cael eu hesemptio gan y Gorchymyn hwn gael eu defnyddio i losgi tanwyddau nad ydynt yn danwyddau awdurdodedig heb gynhyrchu unrhyw fwg neu faint sylweddol o fwg, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 14 Tachwedd 2003. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru. Dosbarthiadau o leoedd tân sy'n cael eu hesemptio o adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 2. Mae'r dosbarthiadau o leoedd tân a ddisgrifir yn yr Atodlen, ar yr amodau sy'n cael eu pennu yno, yn cael eu hesemptio o ddarpariaethau adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (sydd yn gwahardd allyriannau mwg mewn ardaloedd rheoli mwg). Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]. D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 23 Hydref 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 yn gwahardd yn gyffredinol ollwng mwg mewn ardaloedd rheoli mwg. Caiff Cynulliad Cenedaethol Cymru, trwy orchymyn wedi'i wneud o dan adran 21 o'r Ddeddf, esemptio dosbarthiadau penodedig o leoedd tân o ddarpariaethau adran 20, os yw wedi'i fodloni y gellir eu defnyddio i losgi tanwyddau heb gynhyrchu unrhyw fwg neu faint sylweddol o fwg. Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn eithrio o ddarpariaethau adran 20 y dosbarthiadau o leoedd tân sy'n cael eu rhestru yng ngholofn gyntaf yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, yn ddarostyngedig i'r amodau sy'n cael eu rhestru yn ail golofn yr Atodlen honno. Notes: [1] 1993 p.11.back [2] Trosglwyddwyd y pwerau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back
ISBN 0 11090799 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 30 October 2003 |