Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Diwygio) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Diwygio) (Cymru) 2003, ISBN 0110908015. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 79C a 104(4) o Ddeddf Plant 1989[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 22 Hydref 2003. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r personau sy'n gweithredu fel gwarchodwyr plant neu sy'n darparu gofal dydd ar dir ac mewn adeiladau perthnasol yng Nghymru. Diwygiadau 2. Diwygir Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002[2] fel a ganlyn -
(b) ar ôl rheoliad 4(3)(c) (iii) rhodder "(iv) os yw paragraff (5) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1, 2, 4 a 7 o Atodlen 2."; (c) yn lle rheoliad 4(5) rhodder "Mae'r paragraff hwn yn gymwys os bydd person sy'n gyfrifol wedi'i benodi"; (ch) ar ôl rheoliad 4 rhodder -
4A. - (1) Rhaid i'r person cofrestredig benodi unigolyn yn berson sydd yn gyfrifol am ddarparu gofal dydd -
(b) os yw'r person cofrestredig yn gorff ac nad yw'r unigolyn cyfrifol yn berson addas neu os nad yw'n gyfrifol neu'n bwriadu bod yn gyfrifol o ddydd i ddydd am y ddarpariaeth gofal dydd yn llawn; neu (c) os nad yw'r person cofrestredig yn berson addas neu os nad yw'n gyfrifol neu'n bwriadu bod yn gyfrifol o ddydd i ddydd am y ddarpariaeth gofal dydd yn llawn.
(2) Os yw'r person cofrestredig yn penodi person sy'n gyfrifol am ddarparu gofal rhaid iddo ar unwaith hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r dyddiad pan fydd y person yn cymryd y cyfrifoldeb.
(b) yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i edrych ar ôl plant o dan wyth oed; ac (c) bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person -
(ii) os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2; (iii) yn ychwanegol, os yw paragraff (4) yn gymwys, adroddiad ysgrifenedig o wiriad o'r rhestrau a gedwir yn unol ag adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 a rheoliadau a wneir o dan adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988.
(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os bydd unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond na ddyroddwyd hi."
(dd) Yn rheoliad 5 ar ôl paragraff (3) rhodder -
(f) Yn rheoliad 6(2) ar ôl "person cofrestredig" rhodder "neu'r person sy'n gyfrifol"; (ff) Yn y testun Cymraeg o reoliad 21(1) yn lle "Rhaid i'r person cofrestredig" rhodder "Rhaid i'r person cofrestredig mewn cysylltiad â safleoedd perthnasol".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002 i'w wneud yn ofynnol mewn amgylchiadau penodol fod yn rhaid i'r person cofrestredig benodi person i fod yn gyfrifol am ddarparu gofal dydd. Rhaid i'r person hwn fodloni'r gofynion a bennir o ran ei addasrwydd. Notes: [1] 1989 p.41; mewnosodwyd adran 79C gan adran 79 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14).back [2] O.S. 2002/812 (Cy.92).back
ISBN 0 11090801 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 6 November 2003 |