Gorchymyn Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2003, ISBN 0110907930. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wrth arfer y pwerau a roddir iddo gan adran 43(6) a (7) o Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi, cymhwyso a dehongli 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2003. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig. (3) Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'n dweud fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001. Y diwrnod penodedig 2. Y diwrnod penodedig pan ddaw'r darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym yw 8 Hydref 2003. Llofnodwyd ar ran y Cynulliad o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2] D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 1 Hydref 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym yng Nghymru ar 8 Hydref 2003 weddill darpariaethau Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 nad ydynt mewn grym yng Nghymru ar ddyddiad y Gorchymyn hwn, fel na fydd angen Gorchymyn pellach mewn perthynas â Chymru. Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau a chyhoeddi canllawiau mewn perthynas â strategaethau a chynlluniau hygyrchedd, o dan ddarpariaethau Rhan 2 o'r Ddeddf (gwahaniaethu ar sail anabledd mewn addysg). Mae'r darpariaethau hefyd yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i roi cyfarwyddiadau i awdurdodau addysg lleol ynghylch cyflawni eu dyletswyddau mewn perthynas â strategaethau a chynlluniau hygyrchedd neu i wneud darpariaeth mewn perthynas â chyfarwyddiadau o'r fath. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae darpariaethau canlynol Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru gan Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Notes: [1] 2001 p.10.back
ISBN 0 11090793 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 16 October 2003 |