Rheoliadau Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (Cyfnodau Rhagnodedig ar gyfer Strategaethau a Chynlluniau Hygyrchedd ar gyfer Ysgolion) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (Cyfnodau Rhagnodedig ar gyfer Strategaethau a Chynlluniau Hygyrchedd ar gyfer Ysgolion) (Cymru) 2003, ISBN 0110907892. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a freiniwyd yn y Cynulliad Cenedlaethol gan adrannau 28D(1), (2), (8) a (9), a 67(3)(a), o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995[1], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol[2]: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (Cyfnodau Rhagnodedig ar gyfer Strategaethau a Chynlluniau Hygyrchedd ar gyfer Ysgolion) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 8 Hydref 2003. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Cyfwng rhagnodedig ar gyfer paratoi strategaethau hygyrchedd a chynlluniau hygyrchedd 2. At ddibenion is-adrannau (1) ac (8) o adran 28D o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995, rhaid paratoi strategaethau hygyrchedd a chynlluniau hygyrchedd bob tair blynedd. Cyfnod rhagnodedig ar gyfer strategaethau hygyrchedd a chynlluniau hygyrchedd 3. At ddibenion is-adrannau (2) a (9) o adran 28D o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995, tair blynedd fydd y cyfnod rhagnodedig ym mhob achos, gan gychwyn ar 1 Ebrill a bydd cyfnod y strategaeth hygyrchedd cyntaf ac (yn ddarotyngedig i reoliad 4) y cynllun hygyrchedd gyntaf yn cychwyn ar 1 Ebrill 2004. 4. Mewn perthynas ag ysgol sydd yn cael ei sefydlu wedi 1 Ebrill 2004, at ddibenion adran (9) o adran 28D o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995, bydd cyfnod rhagnodedig cynllun hygyrchedd yr ysgol honno yn cychwyn ar y dyddiad y mae'r ysgol yn cael ei sefydlu ac yn gorffen ar y dyddiad y byddai'r cynllun hygyrchedd presennol wedi gorffen pe bai'r ysgol wedi ei sefydlu ar 1 Ebrill 2004, neu cyn hynny. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]. D.Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 1 Hydref 2003 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, a wneir o dan adran 28D o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995, yn rhagnodi:
Notes: [1] 1995, p.50; mewnosodwyd adran 28D gan Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (p.10), adran 14(1).back [2] Am ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 28D(17) o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995.back
ISBN 0 11 090789 2
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 8 October 2003 |