Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) 2003, ISBN 0110907876. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 4(6), 16(3), 22(1), (2)(a) i (c), (f) i (j) a (7)(a) i (h) a (j), 25, 34(1), 35 a 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[1] a phob p er arall sy'n ei alluogi yn cyswllt hwnnw, ar ôl ymgynghori â'r personau y mae'n barnu eu bod yn briodol[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: - Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 2 Hydref 2003. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i asiantaethau nyrsys yng Nghymru yn unig. Dehongli 2. - (1) Yn y rheoliadau hyn -
(b) sy'n ddeiliad trwydded sydd wedi'i rhoi i'r person hwnnw gan awdurdod lleol o dan adran 2 o'r Ddeddf honno ac sy'n awdurdodi'r deiliad i redeg yr asiantaeth honno o'r safle sydd wedi'i bennu yn y drwydded, neu sydd wedi gwneud cais am drwydded o'r fath,
yw'r awdurdod lleol, sef, at ddibenion yr adran honno, yr awdurdod trwyddedu y mae'r safle wedi'i leoli yn ei ardal;
(b) yn ddeiliad trwydded sydd wedi'i rhoi i'r person hwnnw gan awdurdod lleol o dan adran 2 o'r Ddeddf honno ac sy'n awdurdodi'r deiliad i redeg yr asiantaeth honno o'r safle sydd wedi'i bennu yn y drwydded;
(b) yn darparu gwasanaethau at ddibenion cyflenwi nyrs i'r defnyddiwr gwasanaeth er mwyn iddi gael ei chyflogi gan y defnyddiwr gwasanaeth hwnnw;
(b) mewn unrhyw achos arall, yw unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol;
(b) yn ddeiliad trwydded sydd wedi'i rhoi i'r person hwnnw gan awdurdod lleol o dan adran 2 o'r Ddeddf honno ac sy'n awdurdodi'r deiliad i redeg yr asiantaeth honno o'r safle sydd wedi'i bennu yn y drwydded.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at gyflenwi nyrs yn golygu -
(b) cyflwyno nyrs gan asiantaeth i ddefnyddiwr gwasanaeth er mwyn iddi gael ei chyflogi gan y defnyddiwr gwasanaeth hwnnw.
(3) Yn y diffiniad o "defnyddiwr gwasanaeth" ym mharagraffau (1) a (2), mae'r term "ei chyflogi" yn cynnwys cyflogaeth o dan gontract ar gyfer gwasanaethau.
(b) yr amodau sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â chofrestru'r person cofrestredig o dan Ran II o'r Ddeddf.
Arweiniad defnyddiwr gwasanaeth
(b) y telerau a'r amodau ar gyfer y gwasanaethau sydd i'w darparu i'r defnyddwyr gwasanaeth, gan gynnwys y telerau a'r amodau yngl n â swm y ffioedd a dull eu talu;(c) crynodeb o'r weithdrefn gwyno a sefydlwyd yn unol â rheoliad 18; ac (ch) cyfeiriad a Rhif ffôn unrhyw swyddfa briodol benodedig y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig drefnu bod copi o'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth ar gael ar gais i'w archwilio ar safle'r asiantaeth gan bob defnyddiwr gwasanaeth ac unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran defnyddiwr gwasanaeth.
(b) hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o fewn 28 diwrnod o unrhyw ddiwygiad o bwys.
Ffitrwydd y darparydd cofrestredig 7. - (1) Rhaid i berson beidio â rhedeg asiantaeth oni bai bod y person hwnnw yn ffit i wneud hynny. (2) Nid yw berson yn ffit i redeg asiantaeth oni bai bod y person -
(b) yn gorff a -
(ii) bod yr unigolyn hwnnw yn bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3).
(3) Dyma'r gofynion -
(b) bod yr unigolyn yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i redeg yr asiantaeth; ac (c) bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael mewn perthynas â'r unigolyn -
(ii) os yw paragraff (4) yn gymwys, am bob mater a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 9 o Atodlen 2.
(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi.
(b) os yw wedi gwneud cyfansoddiad neu drefniant gyda'i gredydwyr ac nad yw wedi'i ryddhau mewn perthynas ag ef.
Penodi rheolwr
(b) pan fo'r darparydd cofrestredig -
(ii) yn berson anffit i reoli asiantaeth; neu (iii) yn berson nad oes ganddo ofal amser llawn dros yr asiantaeth o ddydd i ddydd, neu nad yw'n bwriadu bod â gofal o'r fath drosti.
(2) Pan fydd y darparydd cofrestredig yn penodi person i reoli'r asiantaeth, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith -
(b) o'r dyddiad y mae'r penodiad i fod i ddod i rym.
Ffitrwydd y rheolwr
(b) o roi sylw i faint yr asiantaeth, ei datganiad o ddiben a nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth -
(ii) bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i wneud hynny;
(c) bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael mewn perthynas ag ef -
(ii) os yw paragraff (3) yn gymwys, am bob mater a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 9 o Atodlen 2.
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi.
(b) yn gorff, rhaid iddo sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn ymgymryd,
o dro i dro â'r hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod ganddo'r profiad a'r medrau sy'n angenrheidiol ar gyfer rhedeg yr asiantaeth.
(ii) o'r tramgwydd y mae wedi'i gollfarnu ohono; a (iii) o'r gosb a osodwyd mewn perthynas â'r tramgwydd.
Ffitrwydd y nyrsys sy'n cael eu cyflenwi gan asiantaeth 12. - (1) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na fydd unrhyw nyrs yn cael ei chyflenwi gan yr asiantaeth oni bai -
(b) bod ganddi'r cymwysterau, y medrau a'r profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae i'w gyflawni; (c) ei bod yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol ar gyfer y gwaith hwnnw; ac (ch) bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael amdani ar gyfer pob un o'r materion a bennir yn Atodlen 3.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod gwaith dethol nyrs i'w chyflenwi yn cael ei wneud gan nyrs neu o dan ei goruchwyliaeth a bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael am y nyrs sy'n gwneud y gwaith dethol -
(ii) os yw paragraff (3) yn gymwys, am bob mater a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 9 o Atodlen 2.
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi.
(b) o dan ba amgylchiadau y caiff nyrsys roi meddyginiaeth i'r claf neu helpu i'w rhoi; (c) y tasgau eraill y caiff neu na chaiff nyrsys eu cyflawni mewn cysylltiad â gofal claf, a'r tasgau na chaniateir eu cyflawni os nad yw'r nyrs wedi cael hyfforddiant arbenigol; (ch) trefniadau i helpu cleifion yngl n â materion symudedd yn eu cartrefi, yn ôl yr angen;(d) mesurau i sicrhau diogelwch y claf a diogelu ei eiddo; (dd) trefniadau i sicrhau bod preifatrwydd, urddas a dymuniadau'r claf yn cael eu parchu; (e) mesurau i ddiogelu'r claf rhag camdriniaeth neu esgeulustod; (f) mesurau i ddiogelu nyrsys rhag camdriniaeth neu niwed arall; (ff) y weithdrefn sydd i'w dilyn ar ôl i honiad o gamdriniaeth, esgeulustod neu niwed arall gael ei wneud.
(3) Rhaid i'r weithdrefn y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (2) (ff) ddarparu yn benodol ar gyfer y canlynol -
(b) bod swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn cael gwybod o unrhyw ddigwyddiad yr hysbyswyd yr heddlu ohono, a hynny heb fod yn hwyrach na 24 awr ar ôl i'r person cofrestredig -
(ii) cael gwybod yr hysbyswyd yr heddlu o'r mater.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na fydd unrhyw wybodaeth bersonol am glaf y mae nyrs wedi'i chyflenwi gan yr asiantaeth ar ei gyfer yn cael ei datgelu i unrhyw aelod o staff yr asiantaeth oni bai ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn darparu gwasanaeth effeithiol i'r claf.
(b) yn cael disgrifiad swydd sy'n amlinellu ei gyfrifoldebau.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig sefydlu gweithdrefn ar gyfer casglu gwybodaeth oddi wrth ddefnyddwyr gwasanaeth am berfformiad y nyrsys sy'n cael eu cyflogi at ddibenion yr asiantaeth, a rhaid iddo gymryd unrhyw gamau sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael ag unrhyw agwedd ar arferion clinigol nyrs.
(b) rôl a chyfrifoldebau'r nyrsys a'r staff eraill; (c) y gofynion yngl n â chadw cofnodion;(ch) gweithdrefnau recriwtio; a (d) gofynion a chyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth
(b) o enw'r aelod o staff yr asiantaeth sy'n gyfrifol am gyflenwi'r nyrs honno; ac (c) os yw'r asiantaeth yn gweithredu fel busnes cyflogi, o'r manylion yngl n â'r ffordd y gall y defnyddiwr gwasanaeth gysylltu â'r person cofrestredig, neu berson sydd wedi'i enwi i weithredu ar ran y person cofrestredig.
(2) Os y claf yw'r defnyddiwr gwasanaeth hefyd, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod yr wybodaeth a bennwyd ym mharagraff (1) yn cael ei darparu, os yw'n briodol, i'r person sy'n gweithredu ar ran y claf.
(b) yn cael eu cadw am gyfnod heb fod yn llai na thair blynedd gan ddechrau ar ddyddiad yr eitem ddiwethaf.
Cwynion
(b) y weithdrefn (os oes un) y mae swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol wedi hysbysu'r person cofrestredig ohoni ar gyfer gwneud cwynion i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yngl n â'r asiantaeth.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal i bob cwyn sy'n cael ei gwneud o dan y weithdrefn gwyno. Ffitrwydd y safle 20. Rhaid i'r person cofrestredig beidio â defnyddio safle at ddibenion asiantaeth oni bai bod y safle yn addas ar gyfer cyflawni nodau ac amcanion yr asiantaeth sydd wedi'u nodi yn y datganiad o ddiben. Y sefyllfa ariannol 21. - (1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig redeg yr asiantaeth mewn modd sy'n debyg o sicrhau y bydd yr asiantaeth yn hyfyw yn ariannol er mwyn cyflawni'r nodau a'r amcanion sydd wedi'u nodi yn y datganiad o ddiben. (2) Os bydd swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdanynt, rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i'r swyddfa honno unrhyw wybodaeth a dogfennau y mae arni eu hangen er mwyn ystyried hyfywedd ariannol yr asiantaeth, gan gynnwys -
(b) tystysgrif yswiriant i'r darparydd cofrestredig ar gyfer atebolrwydd a allai ddod i'w ran mewn perthynas â'r asiantaeth yngl n â marwolaeth, niwed, atebolrwydd cyhoeddus, difrod neu golled arall.
Hysbysu o absenoldeb 22. - (1) Os yw -
(b) y rheolwr cofrestredig,
yn bwriadu bod yn absennol o'r asiantaeth am gyfnod parhaus o 28 diwrnod neu fwy, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r absenoldeb arfaethedig.
(b) y rheswm dros yr absenoldeb; (c) y trefniadau sydd wedi'u gwneud ar gyfer rhedeg yr asiantaeth yn ystod yr absenoldeb hwnnw; (ch) enw, cyfeiriad a chymwysterau'r person a fydd yn gyfrifol am yr asiantaeth yn ystod yr absenoldeb hwnnw; a (d) yn achos absenoldeb y rheolwr cofrestredig, y trefniadau sydd wedi'u gwneud, neu y bwriedir eu gwneud, ar gyfer penodi person arall i reoli'r asiantaeth yn ystod yr absenoldeb hwnnw, gan gynnwys y dyddiad arfaethedig erbyn pryd y mae'r penodiad i'w wneud.
(3) Os yw'r absenoldeb yn codi yn sgil argyfwng, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad o'r absenoldeb o fewn un wythnos ar ôl i'r argyfwng ddigwydd gan bennu'r materion a nodwyd ym mharagraff (2)(a) i (d).
(b) y rheolwr cofrestredig,
wedi bod yn absennol o'r asiantaeth am gyfnod parhaus o 28 diwrnod neu fwy, ac na roddwyd hysbysiad o'r absenoldeb i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig yn ddi-oed i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r absenoldeb, gan bennu'r materion a nodwyd ym mharagraff (2)(a) i (d).
(b) bod person yn rhoi'r gorau i redeg neu i reoli'r asiantaeth; (c) os unigolyn yw'r person cofrestredig, ei fod yn newid ei enw; (ch) os corff yw'r darparydd cofrestredig -
(ii) bod unrhyw newid cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i'r corff yn digwydd; (iii) bod unrhyw newid o ran pwy yw'r unigolyn cyfrifol;
(d) os unigolyn yw'r darparydd cofrestredig, bod ymddiriedolwr mewn methdaliad yn cael ei benodi;
Penodi datodwyr etc.
(b) penodi rheolwr i gymryd gofal amser-llawn o ddydd i ddydd dros yr asiantaeth mewn unrhyw achos lle nad oes rheolwr cofrestredig; ac (c) heb fod yn fwy na 28 diwrnod ar ôl y penodiad, hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r dull arfaethedig o weithredu'r asiantaeth yn y dyfodol.
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir -
(b) yn ddatodwr neu'n ddatodwr dros dro ar gwmni sy'n ddarparydd cofrestredig mewn perthynas ag asiantaeth; (c) yn dderbynydd neu'n rheolwr eiddo partneriaeth y mae ei busnes yn cynnwys rhedeg asiantaeth; (ch) yn ymddiriedolwr mewn methdaliad i ddarparydd cofrestredig mewn perthynas ag asiantaeth.
Marwolaeth y person cofrestredig
(b) o fewn 28 diwrnod o'u bwriadau yngl n â rhedeg yr asiantaeth yn y dyfodol.
(3) Caiff cynrychiolwyr personol y darparydd cofrestredig ymadawedig redeg yr asiantaeth heb fod wedi'u cofrestru ar ei chyfer -
(b) am unrhyw gyfnod pellach a benderfynnir yn unol â pharagraff (4).
(4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol estyn y cyfnod a bennwyd ym mharagraff (3)(a) am unrhyw gyfnod pellach, heb fod yn hwy na blwyddyn, y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu arno, a rhaid iddo hysbysu'r cynrychiolwyr personol yn ysgrifenedig o unrhyw benderfyniad o'r fath. Cydymffurfio â'r rheoliadau 26. Os oes mwy nag un person cofrestredig mewn perthynas ag asiantaeth, ni fydd yn ofynnol i unrhyw un o'r personau cofrestredig wneud unrhyw beth y mae'n ofynnol o dan y rheoliadau hyn iddo gael ei wneud gan y person cofrestredig os yw wedi'i wneud gan un o'r personau cofrestredig eraill. Tramgwyddau 27. - (1) Bydd torri neu fethu â chydymffurfio ag unrhyw un o darpariaethau rheoliadau 4 i 23 yn dramgwydd. (2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddwyn achos yn erbyn y person a oedd ar un adeg, ond nad yw bellach, yn berson cofrestredig, mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â rheoliad 17. Ffioedd 28. - (1) Mae Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd)(Cymru) 2002[8] yn cael eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn. (2) Yn y paragraff sy'n dwyn y pennawd "Arrangements of Regulations", ychwanegir y llinell ganlynol at y diwedd "13. Annual fee - nurses agencies". (3) Yn rheoliad 2(1) -
(4) Ar ôl rheoliad 12 (Annual fee - fostering agencies and local authority fostering services), mewnosodwch y rheoliad canlynol -
13. - (1) The annual fee in respect of a nurses agency is £500. (2) The annual fee in respect of a nurses agency shall be first payable by the registered provider on the date specified in respect of him or her in paragraph (3) ("the first date") and thereafter on the anniversary of the first date. (3) The specified date is -
(ii) in any other case, 31st December 2003;
(b) in the case of a registered provider who is a new provider, the date on which a certificate of registration is first issued under Part II of the Act in respect of that registered provider of the nurses agency."
Cofrestru
(ii) in any other case, any office of the National Assembly."
(b) yn y diffiniad o "statement of purpose", mewnosodwch ar ôl is-baragraff (e) -
Darpariaethau trosiannol 1. Nodau ac amcanion yr asiantaeth. 2. Natur y gwasanaethau y mae'r asiantaeth yn eu darparu. 3. Enw a chyfeiriad y darparydd cofrestredig ac unrhyw reolwr cofrestredig. 4. Cymwysterau a phrofiad perthnasol y darparydd cofrestredig ac unrhyw reolwr cofrestredig. 5. Ystod cymwysterau'r nyrsys sy'n cael eu cyflenwi gan yr asiantaeth, a'r mathau o sefydliadau y maent yn cael eu cyflenwi i weithio ynddynt. 6. Y weithdrefn gwyno a sefydlwyd yn unol â rheoliad 18. 1. Prawf o bwy yw'r person, gan gynnwys ffotograff diweddar. 2. Naill ai -
(b) mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113 o'r Ddeddf honno,
gan gynnwys, os yw'n gymwys, y materion a bennir yn adrannau 133(3A) a 115(6A) o'r Ddeddf honno a'r darpariaethau canlynol pan fyddant mewn grym, sef adran 113(3C)(a) a (b) ac adran 115(6B)(a) a (b) o'r Ddeddf honno[14].
(b) yr oedd y person wedi'i rybuddio amdanynt ac wedi'u cyfaddef adeg cael y rhybudd.
1. Enw, cyfeiriad, dyddiad geni a Rhif ffôn. 2. Enw, cyfeiriad a Rhif ffôn y perthynas agosaf. 3. Prawf o bwy yw'r person, gan gynnwys ffotograff diweddar. 4. Naill ai -
(b) mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113 o'r Ddeddf honno,
gan gynnwys, os yw'n gymwys, y materion a bennir yn adrannau 113(3A) a 115(6A) o'r Ddeddf honno a'r darpariaethau canlynol pan fyddant mewn grym, sef adran 113(3C)(a) a (b) ac adran 115(6B)(a) a (b) o'r Ddeddf hono.
(b) yr oedd y person wedi'i rybuddio amdanynt ac wedi'u cyfaddef adeg cael y rhybudd.
6.
Dau dystlythyr oddi wrth nyrsys neu broffesiynolion iechyd eraill, gan gynnwys tystlythyr sy'n ymwneud â'r cyfnod cyflogaeth diwethaf fel nyrs nad oedd wedi para'n llai na thri mis. Cofnodion sy'n ymwneud â chyflenwi nyrsys 1. Copïau o'r holl gytundebau rhwng yr asiantaeth a'r nyrsys a gyflenwyd neu sydd i'w cyflenwi gan yr asiantaeth a thystiolaeth bod copi o unrhyw delerau ac amodau safonol wedi'i ddarparu gan yr asiantaeth i bob nyrs. 2. Manylion y tâl sy'n daladwy i bob nyrs sy'n cael ei chyflogi gan yr asiantaeth a'i hamodau gwaith. 3. Copïau o unrhyw ddatganiad a roddwyd i ddefnyddiwr gwasanaeth ac sy'n nodi cymwysterau a phrofiad perthnasol nyrs a gyflenwyd i'r defnyddiwr gwasanaeth hwnnw. 4. Mynegai defnyddwyr gwasanaeth yn ôl trefn yr wyddor, gan gynnwys enw llawn, cyfeiriad a Rhif ffôn pob un ohonynt ac unrhyw rifau cyfresol a bennwyd ar eu cyfer. 5. Mynegai yn ôl trefn yr wyddor o'r nyrsys a gyflenwyd neu sydd ar gael i'w cyflenwi gan yr asiantaeth, gan gynnwys unrhyw Rhif au cyfresol a bennwyd ar eu cyfer. 6. Manylion pob cyflenwad nyrs i ddefnyddiwr gwasanaeth. 7. Os yw'r asiantaeth yn gweithredu fel busnes cyflogi a bod nyrs yn cael ei chyflenwi i ddarparu gofal nyrsio ym mhreswylfa breifat defnyddiwr gwasanaeth neu glaf, manylion -
(b) enw a chyfeiriad ymarferydd meddygol cyffredinol y claf; (c) y proffesiynolion iechyd eraill y mae'r claf yn cael triniaeth ganddynt; (ch) perthynas agosaf y claf; (d) crefydd y claf; (dd) meddianwyr eraill yn y safle lle darperir y gwasanaeth nyrsio; ac (e) y cynllun nyrsio a luniwyd ar gyfer y claf a chofnod manwl o'r gofal nyrsio sy'n cael ei ddarparu.
Cofnodion eraill
(b) gan nyrs (nad yw'n destun cwyn sydd wedi'i gwneud o dan reoliad 18),
ac sy'n cael ei chyflogi gan yr asiantaeth, gan gynnwys manylion yr ymchwiliadau a wnaed, y canlyniad ac unrhyw gamau a gymerwyd o ganlyniad i hynny. Trosglwyddo o drwyddedu o dan Ddeddf 1957 i gofrestru o dan Ddeddf 2000 1. - (1) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i ddarparydd asiantaeth nyrsys (y cyfeirir ato fel "y darparydd" ("the provider") yn narpariaethau canlynol yr Atodlen hon) pan fydd yn cael ei drin yn unol ag is-baragraff (6) fel petai wedi gwneud cais am gofrestriad o dan Ran II o Ddeddf 2000 a bod y cofrestriad hwnnw wedi'i ganiatáu o dan y Ddeddf honno mewn perthynas â'r asiantaeth yr oedd wedi'i drwyddedu i'w rhedeg o dan Ddeddf 1957. (2) Bydd Deddf 1957 yn parhau mewn grym er mywn rhoi effaith i ddarpariaethau canlynol y paragraff hwn. (3) Nes y bydd is-baragraff (1) yn gymwys i ddarparydd asiantaeth nyrsys, bydd darpariaethau Deddf 1957 yn parhau mewn grym mewn perthynas â'r darparydd, ac ar ei gyfer, fel petai unrhyw gyfeiriad yn Neddf 1957 at yr awdurdod trwyddedu yn gyfeiriad at y Cynulliad Cenedlaethol. (4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, gan ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd gan y darparydd o dan is-baragraff (9), benderfynu pan fydd yn gweld yn dda, ar y materion a ddisgrifir yn is-baragraff (5), a chyflwyno hysbysiad o'i benderfyniad i'r darparydd. (5) Y materion yw -
(b) unrhyw fater arall i'r graddau y mae penderfynu ar y mater hwnnw yn angenrheidiol i alluogi'r darparydd, yn unol ag is-baragraff (6), i gael ei drin at ddibenion Rhan II o Ddeddf 2000 fel petai wedi gwneud cais am gofrestriad ar gyfer yr asiantaeth a bod y cofrestriad hwnnw wedi'i ganiatáu;
a rhaid ymdrin ag unrhyw benderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan is-baragraff (4) at ddibenion adran 21 o Ddeddf 2000 (apelau i'r Tribiwnlys) fel petai'n benderfyniad gan y Cynulliad o dan Ran II o'r Ddeddf honno.
(b) bydd yr amodau (os o gwbl) y penderfynwyd arnynt yn unol ag is-baragraff (5)(a), i'r graddau y maent yn gallu bod yn amodau y mae cofrestru at ddibenion Rhan II o Ddeddf 2000 yn ddarostyngedig iddynt, yn effeithiol -
(ii) at ddibenion adran 19(1) o Ddeddf 2000, fel pe baent wedi'u cytuno yn ysgrifenedig rhwng y darparydd a'r Cynulliad Cenedlaethol.
(7) Ar, neu cyn, y dyddiad effeithiol ar gyfer penderfyniad o dan y paragraff hwn rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddyroddi tystysgrif i'r darparydd -
(b) y mae'n rhaid ei thrin fel petai'n dystysgrif ar gyfer yr ymgymeriad presennol sydd wedi'i dyroddi gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan Ran II o Ddeddf 2000.
(8) Bydd darpariaethau is-baragraffau (5) a (6) heb ragfarn i bwerau'r Cynulliad Cenedlaethol i amrywio, dileu neu osod unrhyw amod yn unol â Rhan II o Ddeddf 2000.
(b) nad yw is-baragraff (2) yn gymwys iddo.
(2) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i gais y mae'r awdurdod wedi rhoi'r canlynol mewn perthynas ag ef i'r person a wnaeth y cais -
(ii) bod y person a wnaeth y cais wedi apelio ond nad yw'r apêl wedi'i phenderfynu neu wedi'i gollwng; neu
(b) y cyfle i gael gwrandawiad o dan adran 2(5) o'r Ddeddf honno mewn perthynas ag unrhyw gynnig i wrthod rhoi trwydded, oni bai -
(ii) bod yr awdurod wedi rhoi hysbysiad o wrthod trwydded.
(3) Os yw'r is-baragraff hwn yn gymwys i gais rhaid i'r cais hwnnw gael ei drin fel cais am gofrestriad o dan Ran II o Ddeddf 2000.
(ii) apêl yn erbyn penderfyniad o'r fath;
(b) bydd y swyddogaethau, y pwerau a'r dyletswyddau a oedd gan yr awdurdod, yn union cyn 2 Hydref 2003, o dan y Ddeddf honno mewn perthynas â'r materion a grybwyllwyd ym mharagraff blaenorol yr is-baragraff hwn yn gymwys i'r Cynulliad Cenedlaethol yn hytrach na'r awdurdod, a byddant yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol;
(ii) fel petai wedi dod yn effeithiol yn unol ag adran 19(5) o'r Ddeddf.
Y cyfnod tra'n aros am benderfyniad yngl
(b) bod y darparydd presennol wedi apelio o dan adran 2(4) o Ddeddf 1957 ac nad yw'r apêl wedi'i phenderfynu nac wedi'i gollwng,
rhaid peidio ag ymdrin â'r darparydd presennol, at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf, fel petai'r cofrestriad wedi'i ganiatáu ar gyfer yr ymgymeriad presennol hwnnw.
(b) yn unol ag adran 2 (5) o Ddeddf 1957, y rhoddwyd cyfle i'r darparydd bresennol gael gwrandawiad; ac (c) nad yw'r awdurdod na'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu ar y mater.
(2) Os yw is-baragraff (1) yn gymwys -
(b) bydd adran 18(2) o'r Ddeddf yn effeithiol fel petai -
(ii) y paragraff canlynol wedi'i roi yn lle paragraff (c) -
Trosglwyddo gwybodaeth a dogfennau
(b) cyn gynted ag y bo'n ymarferol, yr holl wybodaeth neu'r holl ddogfennau hynny sy'n dod i'w meddiant ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 ("y Ddeddf"), ac maent yn gymwys i asiantaethau nyrsys yng Nghymru yn unig. Mae Rhannau I a II o'r Ddeddf yn darparu mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn perthynas â Chymru a fydd yn cofrestru ac yn archwilio sefydliadau ac asiantaethau, gan gynnwys asiantaethau nyrsys. Mae'r Ddeddf hefyd yn darparu mai'r Cynulliad fydd yn gwneud rheoliadau sy'n llywodraethu'r ffordd y mae sefydliadau ac asiantaethau yn cael eu rhedeg. Yn ôl rheoliad 4, rhaid i bob asiantaeth baratoi datganiad o ddiben yngl n â'r materion a nodir yn Atodlen 1 ac arweiniad defnyddiwr gwasanaeth i'r asiantaeth (rheoliad 5). Rhaid i'r asiantaeth gael ei rhedeg mewn modd sy'n gyson â'r datganiad o ddiben.Mae rheoliadau 7 i 11 yn gwneud darpariaeth yngl n â ffitrwydd y personau sy'n rhedeg ac yn rheoli asiantaeth ac yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth foddhaol gael ei sicrhau am y materion a bennir yn Atodlen 2. Os corff yw'r darparydd, rhaid iddo enwi unigolyn cyfrifol y mae'n rhaid i'r wybodaeth hon fod ar gael amdano (rheoliad 7). Mae rheoliad 8 yn rhagnodi o dan ba amgylchiadau y mae'n rhaid penodi rheolwr ar gyfer yr asiantaeth, ac mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth yngl n â ffitrwydd y rheolwr. Mae rheoliad 10 yn gosod gofynion cyffredinol yngl n ag ymddygiad priodol yr asiantaeth, a'r angen am hyfforddiant priodol.Mae Rhan III yn gwneud darpariaeth yngl n ag ymddygiad asiantaethau, yn enwedig am ansawdd y gwasanaethau sydd i'w darparu gan asiantaeth. Mae rheoliad 12 yn gwneud darpariaeth am ffitrwydd pob nyrs sy'n cael ei chyflenwi gan asiantaeth. Mae rheoliad 13 yn nodi'r polisïau a'r gweithdrefnau y mae'n rhaid i'r person cofrestredig eu llunio a'u gweithredu os yw'r asiantaeth yn gweithredu fel busnes cyflogi. Yn ychwanegol, mae darpariaeth yn cael ei gwneud yngl n â staffio (rheoliad 14), darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth (rheoliad 16), cadw cofnodion (rheoliad 17 ac Atodlen 4) a chwynion (rheoliad 18). Mae darpariaeth yn cael ei gwneud hefyd am addasrwydd safleoedd (rheoliad 20) a'r rheolaeth ariannol ar yr asiantaeth (rheoliad 21). Mae rheoliadau 22 i 25 yn ymdrin â rhoi hysbysiadau i'r Cynulliad.Mae Rhan IV yn ymdrin â materion amrywiol. Yn benodol, mae rheoliad 27 yn darparu ar gyfer tramgwyddau. Gellir cael bod torri rheoliadau 4 i 23 yn dramgwydd gan y person cofrestredig. Mae rheoliad 28 yn diwygio Rheoliadau Rheoleiddio Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2002 drwy ragnodi'r ffi flynyddol ar gyfer cofrestru asiantaethau nyrsys. Mae rheoliad 29 yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002 i gynnwys asiantaethau nyrsys ac mae rheoliad 30 yn ymdrin â threfniadau trosiannol. Notes: [1] 2000 p.14. Mae'r pwerau yn arferadwy gan "the appropriate Minister", sydd wedi'i ddiffinio yn adran 121(1) (o'i darllen gyda adran 5(1)(b)), mewn perthynas â Chymru fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac, mewn perthynas â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, fel yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae "prescribed" a "regulations" wedi'u diffinio yn adran 121 (1) o'r Ddeddf.back [2] Gweler adran 22(9) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ynglyn â'r gofyniad i ymgynghori.back [4] Gweler Deddf Dehongli 1978 (p.30), Atodlen 1. Mewnosodwyd diffiniad o "registered" mewn perthynas â nyrsys, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd gan Ddeddf Nyrsys, Bydwragedd ac Ymwelwyr Iechyd 1979 (p.36), adran 23(4) ac Atodlen 7, paragraff 30, fel y'u hamnewidiwyd gan erthygl 54(3) o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001 (O.S. 2002/253), ac Atodlen 5, paragraff 7 iddi, ar ddyddiad sydd i'w bennu.back [5] 1990 p. 19. Gweler adran 5 o'r Ddeddf honno fel y'i diwygiwyd gan baragraff 69 o Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17) ac adrannau 13(1) a 14 o Ddeddf Iechyd 1999 (p. 8).back [6] Gweler adran 121(1) o'r Ddeddf i weld y diffiniad o "employment business".back [7] Sefydlwyd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth o dan erthygl 3 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001 (O.S. 2002/253).back [8] O.S. 2002/921 fel y'i diwygiwyd gan O.S.2003/237 ag O.S. 2003/781.back [9] O.S. 2002/919 (Cy. 107) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/237.back [12] Mewnosodwyd adran 115(5)(ea) gan Ddeddf Safonau Gofal 2000, adran 104.back [13] Mae swydd o fewn adran 115(3) os yw'n golygu bod y person wrthi'n rheolaidd yn gofalu am bersonau o dan 18 oed, yn eu hyfforddi, yn eu goruchwylio, neu os yw'r personau hynny o dan ei ofal ef yn unig. Mae swydd o fewn adran 115(4) os yw'n fath a bennir mewn rheoliadau ac os yw'n golygu bod y person wrthi'n rheolaidd yn gofalu am bersonau sy'n 18 oed neu drosodd, yn eu hyfforddi, yn eu goruchwylio, neu os yw'r personau hynny o dan ei ofal ef yn unig.back [14] Mae adran 113(3A) ac 115(6A) wedi'u hychwanegu at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 8 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 (p.14), ac wedi'u diwygio gan adrannau 104 a 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 25 o Atodlen 4 iddi. Mae adrannau 113(3C) a 115(6B) i'w hychwanegu at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 90 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ar ddyddiad sydd i'w bennu.back [15] Mae'r gofrestr yn cael ei chadw yn unol â pharagraff 10 o Atodlen 2 i Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001 (O.S. 2002/253).back [17] O.S. 1975/1023. Mae diwygiadau perthnasol wedi'u gwneud gan O.S. 1986/1249, O.S. 1986/2268 ac O.S. 2001/1192.back [18] O.S. 1975/1023. Mae diwygiadau perthnasol wedi'u gwneud gan O.S. 1986/1249, 1986/2268, 2001/1192 a 2002/441.back
ISBN 0 11090787 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 9 October 2003 |