Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Ôl-16 Unigol) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Ôl-16 Unigol) (Cymru) 2003, ISBN 0110907841. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 537A(1), (2), a (4) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996 [1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Ôl-16 Unigol) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 26 Medi 2003. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn -
Ysgolion a gynhelir gan awdurdodau addysg lleol yn darparu gwybodaeth i'w hawdurdodau addysg lleol 1. Yr wybodaeth a ganlyn am y disgybl -
(b) enw cyntaf, neu bob enw cyntaf os oes mwy nag un; (c) enw canol, neu bob enw canol os oes mwy nag un; (ch) rhyw; (d) dyddiad geni; (dd) rhif unigryw cyfredol, ac os bu gan yr ysgol rif unigryw disgybl blaenorol ar gyfer y disgybl hwnnw, y rhif blaenorol; (e) gr p ethnig;(f) hunaniaeth genedlaethol; (ff) dyddiad derbyn y disgybl i'r ysgol; ac (g) gr p blwyddyn Cwricwlwm Cenedlaethol y disgybl.
2.
A yw'r disgybl yn ddisgybl cofrestredig mewn un ysgol neu mewn mwy nag un ysgol.
(b) rhiant; (c) yr ysgol; (ch) cyn ysgol; neu (d) unrhyw ffynhonnell arall.
5.
Pa mor rhugl yw'r disgybl yn y Gymraeg.
(b) y dyddiad pan ddechreuodd y disgybl ddilyn y gweithgaredd dysgu; (c) y dyddiad y disgwylir i'r gweithgaredd dysgu ddod i ben; (ch) enw darparwr y gweithgaredd dysgu; (d) a ddarperir y gweithgaredd dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, drwy'r Saesneg, neu'n ddwyieithog drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg; ac (dd) a oes gan y disgybl anhawster dysgu ac/neu anabledd ac os felly a yw'r disgybl yn ymgymryd â gweithgaredd dysgu ar wahân neu weithgaredd dysgu prif ffrwd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Os bydd awdurdod addysg lleol yn anfon cais ysgrifenedig at gorff llywodraethu unrhyw ysgol a gynhelir gan yr awdurdod hwnnw ac os oes gan yr ysgol honno chweched dosbarth, mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r corff llywodraethu roi gwybodaeth i'r awdurdod am ddisgyblion chweched dosbarth yr ysgol. Caiff yr awdurdod ofyn am unrhyw wybodaeth y cyfeirir ati yn yr Atodlen. Rhaid i'r corff llywodraethu roi'r wybodaeth i'r awdurdod o fewn pedwar diwrnod ar ddeg. Ar ben hynny, mae rheoliad 4 yn rhagnodi Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant yn berson y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru roi gwybodaeth am ddisgyblion unigol iddo o dan adran 537A(4) o Ddeddf Addysg 1996. Notes: [1] 1996 p.56. Mewnosodwyd adran 537A gan Ddeddf Addysg 1997 (1997 p.44), adran 20, ac fe'i disodlwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (1998 p.31), adran 140(1) ac Atodlen 30, paragraffau 57 a 153.back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Am ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 579(1) o Ddeddf 1996.back
ISBN 0 11 090784 1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 6 October 2003 |