Rheoliadau Diogelu'r Arfordir (Amrywio'r Dyfroedd a Eithrir) (Afon Teifi) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Diogelu'r Arfordir (Amrywio'r Dyfroedd a Eithrir) (Afon Teifi) (Cymru) 2003, ISBN 0110907736. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Gweinidog gan baragraff 113 o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu'r Arfordir 1949[1], ac sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu'r Arfordir (Amrywio'r Dyfroedd a Eithrir) (Afon Teifi) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Awst 2003. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Diwygio Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu'r Arfordir 1949 2. Ym mharagraff 83 o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu'r Arfordir 1949 (sydd, at ddibenion Rhan 1 o'r Ddeddf, yn eithrio dyfroedd penodol sy'n ffurfio rhan o Afon Teifi o'r diffiniad o "sea" a "seashore"), yn lle "above the ferry north of St Dogmells" rhodder y geiriau "above Priory Bridge at Cardigan"." Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru Carwyn Jones Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad 20 Gorffennaf 2003 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu'r Arfordir 1949 ("y Ddeddf") yn pennu dyfroedd nad ydynt, at ddibenion Rhan 1 o'r Ddeddf (diogelu'r arfordir), wedi'u cynnwys yn yr ymadroddion "sea" a "seashore". Mae'r Rheoliadau hyn yn amrywio Atodlen 4 i'r Ddeddf er mwyn ymestyn y rhan honno o Afon Teifi a gynhwysir yn yr ymadroddion hynny. Notes: [1] 1949 p.74.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672).back
ISBN 0 11090773 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 13 August 2003 |