Rheoliadau'r Rhaglen Weithredu ar gyfer Parthau Perygl Nitradau (Diwygio) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau'r Rhaglen Weithredu ar gyfer Parthau Perygl Nitradau (Diwygio) (Cymru) 2003, ISBN 0110907671. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), sydd wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â diogelu d r rhag y llygredd sy'n cael ei achosi gan nitradau o ffynonellau amaethyddol, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Rhaglen Weithredu ar gyfer Parthau Perygl Nitradau (Diwygio) (Cymru) 2003; maent yn gymwys i Gymru ac yn dod i rym ar 31 Gorffennaf 2003. Diwygio Rheoliadau'r Rhaglen Weithredu ar gyfer Parthau Perygl Nitradau (Lloegr a Chymru) 1998 2. - (1) Mae Rheoliadau'r Rhaglen Weithredu ar gyfer Parthau Perygl Nitradau (Lloegr a Chymru) 1998[3] ("Rheoliadau 1998") yn cael eu diwygio fel y maent yn gymwys i Gymru yn unol â'r paragraffau canlynol - (2) Yn rheoliad 2(dehongli) yn y diffiniad o "nitrate vulnerable zones" mewnosodir y geiriau "or 3B" yn union ar ôl "regulation 3". (3) Yn rheoliad 8(1) (tramgwyddau) -
(ii) hepgorir y geiriau "not exceeding the statutory maximum" yn union ar ôl y gair "fine" lle mae'n ymddangos yr ail dro.
(4) Yn yr Atodlen
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Rhaglen Weithredu ar gyfer Parthau Perygl Nitradau (Lloegr a Chymru) 1998. Yn benodol, mewn perthynas â'r ardaloedd pellach hynny a ddynodwyd yn barthau perygl nitradau yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu D r Rhag Llygredd Nitradau Amaethyddol (Diwygio) (Cymru) 2002, maent yn darparu bod y dyddiad ar gyfer y lluosydd 210kg sydd wedi'i nodi ym mharagraff 9(2)(b)(i) o'r Atodlen yn cael ei estyn i 19 Rhagfyr 2006. Mewn perthynas â'r ardaloedd hynny a ddynodwyd yn barthau perygl nitradau cyn Rheoliadau 2002, 19 Rhagfyr 2002 yw'r dyddiad perthnasol o hyd.Mae'r Rheoliadau hefyd
(b) yn diwygio rheoliad 8 i ddarparu, o gollfarnu'n ddiannod, ar gyfer dirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol ac, o gollfarnu ar dditiad, ar gyfer dirwy ddigyfyngiad; ac (c) yn rhoi paragraff 15 newydd yn lle paragraff 15 o'r Atodlen.
Notes: [1] Gweler Erthygl 3 o Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 2) 2001 (OS 2001/2555) ac Atodlen 2, paragraff 2 iddo.back
ISBN 0 11090767 1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 23 July 2003 |