Rheoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2003, ISBN 0110907663. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wrth arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 66(1), a 68(1) ac (1A), 69(1), 74A, 75(1), 76(1), ac 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970[1] (fel y'i darllenir ar y cyd â rheoliad 14 o Reoliadau Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (Darpariaethau ac Arbedion Trosiannol a Chanlyniadol) (Cymru a Lloegr) 2000[2] ac erthyglau 2 a 6 o Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002[3]), ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan adran 84(1) o'r Ddeddf honno a chan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n nodi egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd ac yn nodi'r gweithdrefnau ym materion diogelwch bwyd[4]), ac yntau wedi'i ddynodi[5] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, wrth arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran olaf hon (i'r graddau na ellir gwneud y Rheoliadau hyn o dan Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 a nodir yn benodol uchod), yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2003 a byddant yn gymwys i Gymru'n unig. (2) Bydd rheoliadau 1, 2, 3, 4, 5, 7, 8, 9 ac11 a 13 i 20 yn dod i rym ar 1 Awst 2003 a bydd rheoliadau 6, 10 a 12 yn dod i rym ar 6 Tachwedd 2003. Diwygiadau i Reoliadau Porthiant (Cymru) 2001 2. Caiff Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001[6] eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 12. 3. Yn rheoliad 2 (dehongli) -
(bb) "rhestr genedlaethol", a (cc) "trydedd wlad",
(ii) ym mhob un o'r diffiniadau o "porthiant cydategol", "porthiant cyflawn", yn lle'r ymadrodd "rheoliad 12(10)(a)" rhodder yr ymadrodd "rheoliad 12(6)" ac yn y diffiniad o "porthiant", yn lle'r ymadrodd "rheoliad 12(11)(a)" rhodder yr ymadrodd "rheoliad 12(7)",
(v) yn union ar ôl y diffiniad o "cynnyrch canolraddol awdurdodedig" caiff y diffiniad canlynol ei fewnosod -
(b) a allai effeithio'n andwyol ar gynhyrchu da byw;"; a
(b) yn lle paragraff (8) (terfynau amrywiad) caiff y paragraff canlynol ei roi -
4.
Yn lle paragraff (1) o reoliad 7 (terfynau amrywiad) caiff y paragraff canlynol ei roi -
5.
Yn lle rheoliad 12 (rheoli porthiant a deunyddiau porthiant sy'n cynnwys sylweddau annymunol) caiff y rheoliad canlynol ei roi -
14. - (1) Ni chaiff unrhyw berson -
(b) defnyddio unrhyw gynnyrch o'r fath ar gyfer bwydydd anifeiliaid,
os yw'n cynnwys unrhyw sylwedd annymunol a nodir yn benodol yng ngholofn 1 o'r Rhan honno dros ben y lefel a nodir yn benodol ar ei gyfer yng ngholofn 3 o'r Rhan honno.
(b) os nad oes darpariaeth yn ymwneud ag unrhyw borthiant cydategol yn y cofnod sy'n cyfateb yng ngholofn 2 o'r Rhan honno.
(3) Ni chaiff unrhyw berson gymysgu unrhyw gynnyrch y bwriedir ei ddefnyddio mewn bwydydd anifeiliaid ac a nodir yn benodol yng ngholofn 2 o Ran I o Atodlen 7 ac sy'n cynnwys unrhyw sylwedd annymunol a nodir yn benodol yng ngholofn 1 o'r Rhan honno dros ben y lefel a nodir yn benodol ar ei gyfer yng ngholofn 3 o'r Rhan honno at ddibenion gwneud gwanediad ohono gydag unrhyw gynnyrch y bwriedir ei ddefnyddio mewn bwydydd anifeiliaid.
(b) ei fod o ansawdd werthadwy.
(5) At ddibenion paragraff (4) uchod, nid yw cynnyrch y bwriedir ei ddefnyddio mewn bwydydd anifeiliaid ac a nodir yn benodol yng ngholofn 2 o Ran I o Atodlen 7 mewn cyflwr da, yn ddilys ac o ansawdd werthadwy os yw'n cynnwys unrhyw sylwedd annymunol a nodir yn benodol yng ngholofn 1 o'r Rhan honno dros ben y lefel a nodir yn benodol mewn perthynas ag ef yng ngholofn 3 o'r Rhan honno.
(b) cynnyrch sy'n deillio o brosesu cynnyrch o'r fath yn ddiwydiannol; neu (c) sylwedd organig neu anorganig a ddefnyddir wrth ei hun neu mewn cymysgedd,
pa un a yw'n cynnwys ychwanegion ai peidio, i'w fwydo drwy'r geg i anifeiliaid anwes neu i anifeiliaid sy'n byw yn rhydd yn y gwyllt, a dehonglir "porthiant cydategol" a "phorthiant cyflawn" yn unol â hynny.".
6.
Yn union ar ôl rheoliad 17 (rheoli porthiant a fwriedir at ddibenion maethiadol penodol, a darpariaethau atodol yn gysylltiedig â datganiad statudol) caiff y rheoliad canlynol ei fewnosod -
17A. Pan fo person y cyflenwir iddo borthiant cyfansawdd ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid anwes yn gofyn hynny, rhaid i gyflenwr y porthiant cyfansawdd hwnnw ddarparu manylion y canrannau union mewn pwysau o ddeunyddiau porthiant a ddefnyddir yn y porthiant cyfansawdd hwnnw.".
7.
Yn lle paragraff (1) o reoliad 24 (addasu adran 74A(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970) caiff y paragraff canlynol ei roi -
8.
Ym mharagraff (2) o reoliad 24 yn lle'r ymadrodd "12(3), (4), (6), (7) a (9), 13(1), 15, 16(1) a 17(1)" rhodder yr ymadrodd "12(1) i (4), 13(1), 15, 16(1), 17(1) ac 17A".
(b) ym mharagraff 15 -
(ii) yn lle is-baragraff (c) caiff yr is-baragraff canlynol ei roi
(c) yn lle paragraff 19 caiff y paragraff canlynol ei roi -
(ii) gan ddynodi, mewn trefn ddisgynnol, beth mewn pwysau yw canran pob deunydd porthiant a gaiff ei gynnwys yn y porthiant cyfansawdd, yn ddarostyngedig i derfyn amrywiad o +/- 15% mewn perthynas â phob canran a ddatganwyd; a
(b) caiff y datganiad statudol gynnwys y datganiad canlynol -
11.
Yn Atodlen 7 (terfynau a ragnodwyd ar gyfer sylweddau annymunol) -
(b) Caiff Rhan II (deunyddiau porthiant) ei dileu.
12.
Caiff Rhan II o Atodlen 10 (categorïau o ddeunyddiau porthiant i'w defnyddio mewn perthynas â phorthiant cyfansawdd ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid anwes) ei dileu.
(b) sections 73 and 73A of the Act."; a
(b) yn lle paragraff (4) caiff y paragraff canlynol ei roi -
(b) sections 73 and 73A of the Act.".
18.
Ym mhob un o reoliadau 11, 11A ac 11B yn lle'r ymadrodd "and the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2003" rhodder yr ymadrodd ", the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2003 and the Feeding Stuffs, the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2003".
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2316/98 yn ymwneud ag awdurdodi ychwanegion newydd ac addasu'r amodau ar gyfer awdurdodi nifer o ychwanegion a awdurdodwyd eisoes mewn porthiant[14]. Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1594/1999 sy'n diwygio'r amodau ar gyfer awdurdodi ychwanegyn mewn porthiant[15]. Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2439/1999 ar yr amodau ar gyfer awdurdodi ychwanegion sy'n perthyn i'r grwp "binders, anti-caking agents a coagulants" mewn porthiant[16]. Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1353/2000 sy'n ymwneud ag awdurdodi ychwanegyn yn barhaol ac ag awdurdodi dros dro ychwanegion newydd, ffyrdd newydd o ddefnyddio ychwanegion a pharatoadau newydd mewn porthiant[17]. Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2437/2000 sy'n ymwneud ag awdurdodi ychwanegyn yn barhaol ac awdurdodi dros dro ychwanegion newydd mewn porthiant[18]. Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2013/2001sy'n ymwneud ag awdurdodi dros dro ffordd newydd o ddefnyddio ychwanegyn ac awdurdodi'n barhaol ychwanegyn mewn porthiant[19]. Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2200/2001 sy'n ymwneud ag awdudodi dros dro ychwanegion mewn porthiant[20]. Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 256/2002 sy'n ymwneud ag awdurdodi dros dro ychwanegion newydd, estyn y cyfnod yr awdurdodwyd ychwanegyn dros dro ac awdurdodi ychwanegyn yn barhaol mewn porthiant[21]. Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1252/2002 sy'n ymwneud ag awdurdodi dros dro ychwanegyn newydd mewn porthiant[22]). Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1876/2002 sy'n ymwneud ag awdurdodi dros dro ffordd newydd o ddefnyddio ychwanegyn mewn porthiant [23]) . Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2188/2002 sy'n ymwneud ag awdurdodi dros dro ffyrdd newydd o ddefnyddio ychwanegion mewn porthiant [24]) . Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 261/2003 sy'n ymwneud ag awdurdodi dros dro ffyrdd newydd o ddefnyddio ychwanegion mewn porthiant [25]). Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 316/2003 sy'n ymwneud ag awdurdodi ychwanegyn yn barhaol mewn porthiant ac awdurdodi dros dro ychwanegyn a awdurdodwyd eisoes mewn porthiant[26]). Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 666/2003 sy'n awdurdodi dros dro ddefnyddio rhai micro-organeddau mewn porthiant[27]). Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 668/2003 sy'n ymwneud ag awdurdodi'n barhaol ychwanegyn mewn porthiant[28]). (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) 1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio mewn perthynas â Chymru'n unig Reoliadau Porthiant (Cymru) 2001 (O.S. 2001/343, fel y'i diwygiwyd eisoes), Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 (O.S. 1999/1663, fel y'i diwygiwyd eisoes) a Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999 (O.S. 1999/2325, fel y'i diwygiwyd eisoes). 2. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith -
(b) Cyfarwyddeb 2002/32/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar sylweddau annymunol mewn bwydydd anifeiliaid (OJ Rhif L140, 30.5.2002, t.10).
3.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu ar gyfer gorfodi Rheoliadau canlynol y Gymuned -
(b) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 316/2003 sy'n ymwneud ag awdurdodi'n barhaol ychwanegyn mewn porthiant ac awdurdodi dros dro ychwanegyn a awdurdodwyd eisoes mewn porthiant (OJ Rhif L46, 20.2.2003, t.15); (c) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 666/2003 sy'n awdurdodi dros dro ddefnyddio rhai micro-organeddau mewn porthiant (OJ Rhif . L96, 12.4.2003, t.11); a (ch) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 668/2003 sy'n ymwneud ag awdurdodi'n barhaol ychwanegyn mewn porthiant (OJ Rhif L96, 12.4.2003, t.14).
4.
Mae'r Rheoliadau hyn -
(ii) drwy roi yn ei le fersiwn wedi'i diwygio o reoliad 2(8) (sy'n rhagnodi sut y mae cyfeiriadau yn Rheoliadau 2001 at offerynnau'r Gymuned i'w dehongli) (rheoliad 3(b)), (iii) drwy wneud diwygiadau canlyniadol i reoliadau 7(1), 24(1) a 24(2) (rheoliadau 4, 7ac 8), (iv) rhoi yn lle rheoliad 12 (rheoli porthiant a deunyddiau porthiant sy'n cynnwys sylweddau annymunol), reoliad newydd wedi'i ailenwi -
(bb) sy'n ailddeddfu gweddill ddarpariaethau y rheoliad 12 blaenorol gydag addasiadau, yn arbennig trwy roi yn lle cyfeiriadau at y termau "porthiant" a "deunydd porthiant" gyfeiriadau at y term "cynnyrch y bwriedir ei ddefnyddio mewn bwydydd anifeiliaid" (rheoliad 5);
(v) mewnosod rheoliad newydd, rheoliad 17A (darparu gwybodaeth mewn perthynas â phorthiant cyfansawdd ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid anwes), sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyflenwyr bwydydd cyfansawdd ddarparu gwybodaeth benodedig yn ymwneud â'r porthiant os gofynnir iddynt wneud hynny gan y rhai y cyflenwir y bwydydd iddynt (rheoliad 6),
(b) gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 a Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999 (rheoliadau 13 i 20).
5.
Paratowyd asesiad effaith rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn ac fe'i gosodwyd yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi yn nodi sut mae prif elfennau Cyfarwyddeb 2002/2/EC a 2002/32/EC yn cael eu trosi'n gyfraith ddomestig trwy gyfrwng y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau o Uned Bwydydd Anifeiliaid yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1af, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EN. Notes: [1] 1970 p.40. Mae Adran 66(1) yn cynnwys diffiniadau o'r ymadroddion "the Ministers", "prescribed" a "regulations". Diwygiwyd y diffiniad o "the Ministers" gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), Atodlen 5, paragraff 1. Trosglwyddwyd Swyddogaethau "the Ministers", i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S.1999/672.back [4] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. O dan Erthygl 3 o Reoliad (EC) 178/2002 mae "food law" yn ymestyn i fwydydd a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd neu a roddir yn fwyd iddynt.back [6] O.S. 2001/343 (Cy. 15), fel y'i diwygiwyd gan O.S.2001/1797 (Cy. 172), O.S. 2003/989 (Cy 138) ac O.S. 2003/1677 (Cy.180).back [7] O.S. 2001/ 2253 (Cy 163 ).back [8] O.S. 2001/3461 (Cy. 280).back [9] O.S. 2002/1797 (Cy. 172).back [10] O.S. 2003/989 (Cy. 138).back [11] O.S. 1999/1663, fel y'i diwygiwyd gan O.S.1999/1871, O.S. 2001/2253 (Cy. 163), O.S. 2002/1797 (Cy. 172) ac O.S. 2003/1677 (Cy.180).back [12] O.S. 1999/2325, fel y'i diwygiwyd gan O.S.2000/656, O.S. 2001/2253 (Cy. 163), O.S. 2001/3461 (Cy. 280), 2002/1797 (Cy. 172), O.S. 2003/989 (Cy. 138) ac O.S. 2003/1677 (Cy.180).back [14] OJ Rhif L289, 28.10.98, t.4.back [15] OJ Rhif L188, 21.7.1999, t.35.back [16] OJ Rhif L297, 18.11.1999, t.8. Yn lle'r Atodiad i'r Rheoliad hwn rhoddwyd bellach yr Atodiad i Reoliad (EC) Rhif 739/2000 (OJ Rhif L87, 8.4.2000, t.14).back [17] OJ Rhif L155, 28.6.2000, t.15.back [18] OJ Rhif L280, 4.11.2000, t.28.back [19] OJ Rhif L272, 13.10.2001, t.24.back [20] OJ Rhif L299, 15.11.2001, t.1.back [21] OJ Rhif L41, 13.2.2002, t.6.back [22] OJ Rhif L183, 12.7.2002, t.10.back [23] OJ Rhif L284, 22.10.2002, t.7.back [24] OJ Rhif L333, 10.12.2002, t.5.back [25] OJ Rhif L37, 13.2.2003, t.12.back [26] OJ Rhif L46, 20.2.2003, t.15.back [27] OJ Rhif L96, 12.4.2003, t.11.back [28] OJ Rhif L96, 12.4.2003, t.14.back
ISBN 0 11090766 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 23 July 2003 |