Rheoliadau Ansawdd Aer (Osôn) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Ansawdd Aer (Osôn) (Cymru) 2003, ISBN 0110907647. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 29 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[1] ac is-adran (2) o adran 2 o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2], a chan ei fod wedi'i ddynodi at ddibenion yr is-adran honno gan Erthygl 2 o Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 2000[3] mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud ag asesu a rheoli ansawdd aer amgylchynol a chydymffurfio â gwerthoedd terfyn, gwerthoedd targed, ac amcanion ansawdd aer, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ansawdd Aer (Osôn) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 9 Medi 2003. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Diffiniadau 2. Yn y Rheoliadau hyn -
Gwerthoedd targed ac amcanion hirdymor
(b) yn rhai parhaus, ac eithrio mewn gorsafoedd cefndir gwledig, lle caniateir defnyddio dulliau mesur eraill.
(7) Caniateir lleihau nifer y pwyntiau samplu sefydlog sy'n ofynnol o dan baragraff (5) ar yr amod -
(b) bod y ffynonellau gwybodaeth ychwanegol y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (a) yn darparu lefel wybodaeth ddigonol ar gyfer asesu ansawdd aer mewn perthynas â gwerthoedd targed, a throthwyon gwybodaeth a rhybuddio; (c) bod nifer y pwyntiau samplu sydd i'w gosod a dosbarthiad y technegau eraill o ran eu lleoliad yn ddigon ar gyfer darganfod y lefel osôn yn unol â'r amcanion ansawdd data a bennir yn Rhan I o Atodlen 5 ac yn arwain at ganlyniadau asesu fel a bennir yn Rhan II o'r Atodlen honno; (ch) bod cyfanswm nifer y pwyntiau samplu ym mhob parth yn un pwynt samplu o leiaf fesul dwy filiwn o drigolion, neu un pwynt samplu fesul 50,000 km2, p'un bynnag sy'n cynhyrchu'r nifer mwyaf o bwyntiau samplu; (d) bod pob parth yn cynnwys o leiaf un pwynt samplu; ac (dd) bod nitrogen deuocsid yn cael ei fesur ym mhob un o'r pwyntiau samplu sy'n weddill ac eithrio mewn gorsafoedd cefndir gwledig.
(8) Ar gyfer pob parth y mae paragraff (7) yn gymwys iddo, rhaid cymryd y ffynonellau gwybodaeth ychwanegol y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (7)(a) i ystyriaeth wrth asesu ansawdd aer mewn perthynas â gwerthoedd targed.
(b) wrth ddewis nifer a lleoliad y gorsafoedd lle mae lefelau rhagsylweddion osôn i'w mesur, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd i ystyriaeth yr amcanion, y dulliau a'r argymhellion sydd wedi'u nodi yn yr Atodlen honno.
(13) Ar gyfer osôn ac ocsidau nitrogen rhaid i fesuriadau cyfaint gael eu safon ar dymheredd o 293K a phwysedd o 101.3kPa.
(b) lefelau osôn, fel y'u hasesir yn unol â rheoliad 4, yn uwch na'r amcanion hirdymor ond yn hafal i'r gwerthoedd targed neu'n is na hwy; (c) lefelau osôn yn bodloni'r amcanion hirdymor.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol baratoi a gweithredu, ar gyfer pob parth sydd wedi'i restru o dan baragraff (1)(a), gynllun neu raglen ar gyfer cyrraedd y gwerthoedd targed erbyn y dyddiad a bennir yn Rhan II o Atodlen 1.
(b) cadw, drwy fesurau cymesur, yr ansawdd aer amgylchynol orau y mae'n barnu ei bod yn gydnaws â datblygu cynaliadwy a lefel uchel o ddiogelwch ar gyfer yr amgylchedd ac iechyd pobl.
Y trothwy gwybodaeth a'r trothwy rhybuddio
(b) ym mhob achos arall, bob dydd o leiaf.
(3) Rhaid bod gwybodaeth sy'n cael ei rhoi ar gael o dan baragraff (1) yn cynnwys -
(ii) y trothwy gwybodaeth; (iii) y trothwy rhybuddio;
ac asesiad byr o effaith y gormodiannau hynny ar iechyd pobl;
(4) Rhaid i'r adroddiadau blynyddol y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (3)(b) ddangos, o leiaf -
(b) ar gyfer llystyfiant, unrhyw ormodiannau uwchlaw'r gwerth targed neu'r amcan hirdymor; ac (c) os yw'n briodol, gwerthusiad byr o effaith y gormodiannau hynny.
(5) At ddibenion y rheoliad hwn, mae'r "cyfnod cyfartaleddu perthnasol" -
(b) mewn perthynas â'r amcan hirdymor ar gyfer diogelu iechyd, wedi'i nodi yn Rhan III o Atodlen 1; ac (c) mewn perthynas â'r trothwy gwybodaeth a'r trothwy rhybuddio, wedi'i nodi yn Rhan I o Atodlen 7.
(6) Yn ychwanegol at ei darparu i'r cyhoedd, rhaid darparu gwybodaeth y trefnwyd iddi fod ar gael o dan baragraff (3)(c) i unrhyw fwrdd iechyd lleol y mae gormodiant o'r fath yn effeithio ar ei ardal neu y gallai gormodiant o'r fath effeithio ar ei ardal.
(b) unrhyw gynlluniau gweithredu y mae'n eu llunio o dan baragraff (1); ac (c) gwybodaeth am roi'r cynlluniau gweithredu hynny ar waith.
Llygredd trawsffiniol Wrth asesu i ba raddau y cydymffurfiwyd â'r gwerthoedd targed a'r amcanion hirdymor a nodir yn yr Atodlen hon -
(b) rhaid safoni'r cyfaint yn ôl yr amodau tymheredd a phwysedd canlynol: 293K a 101.3kPa; (c) rhaid nodi'r amser mewn Amser Ewropeaidd Canolog; (ch) ystyr "AOT40" (wedi'i fynegi mewn µg/m3)· awr) yw swm y gwahaniaeth rhwng crynodiadau yn ôl yr awr sy'n uwch na 80µg/m3 (sy'n hafal i 40 rhan fesul biliwn) a 80µg/m3 dros gyfnod penodol trwy ddefnyddio'r gwerthoedd 1 awr yn unig a'r rheini wedi'u mesur rhwng 8:00 ac 20:00 Amser Ewropeaidd Canolog bob dydd; (d) er mwyn bod yn ddilys, rhaid i'r data blynyddol ar ormodiannau fodloni'r meini prawf a nodir yn Rhan II o Atodlen 8.
(a) asesir cydymffurfedd â'r gwerthoedd targed yn ôl y gwerth hwn. Hynny yw, 2010 fydd y flwyddyn gyntaf y defnyddir y data ar ei chyfer i gyfrifo cydymffurfedd dros dair neu bum mlynedd fel y bo'n briodol. (b) rhaid dethol crynodiad y cymedr 8 awr dyddiol uchaf drwy archwilio cyfartaleddau cyfredol 8 awr, wedi'u cyfrifo o ddata yn ôl yr awr ac wedi'u diweddaru bob awr. Rhaid priodoli pob cyfartaledd 8 awr sydd wedi'i gyfrifo felly i'r diwrnod y mae'n dod i ben arno - hynny yw, y cyfnod cyfrifo cyntaf ar gyfer unrhyw un diwrnod fydd y cyfnod o 17:00 ar y diwrnod cynt i 01:00 ar y diwrnod hwnnw; y cyfnod cyfrifo olaf ar gyfer unrhyw un diwrnod fydd y cyfnod o 16:00 i 24:00 ar y diwrnod hwnnw. (c) os nad oes modd penderfynu'r cyfartaleddau tair-blynedd neu'r cyfartaleddau pum-mlynedd ar sail set gyflawn ac olynol o ddata blynyddol, rhaid bod isafswm y data blynyddol sy'n ofynnol ar gyfer gwirio cydymffurfedd â'r gwerthoedd targed fel a ganlyn:
(ii) ar gyfer y gwerth targed ar gyfer diogelu llystyfiant, data dilys ar gyfer tair blynedd.
Bydd yr ystyriaethau canlynol yn gymwys i fesuriadau sefydlog:
Ar gyfer gorsafoedd gwledig a gorsafoedd cefndir gwledig, dylid ystyried cydlynu, lle bo'n briodol, â'r gofynion monitro yn Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1091/94 [8] ynghylch diogelu fforestydd y Gymuned rhag llygredd atmosfferig. Dylid dilyn y canllawiau canlynol, cyn belled ag y bo'n ymarferol: 1. dylai'r llif o amgylch profiedydd samplu y fewnfa fod y ddigyfyngiad (yn rhydd mewn cylchran o 2700 o leiaf) heb unrhyw rwystrau sy'n effeithio ar lif yr aer yng nghyffiniau'r samplwr, h.y. i ffwrdd o adeiladau, balconïau, coed ac unrhyw rwystrau eraill a hynny â mwy na dwywaith gymaint y gwahaniaeth rhwng uchder y rhwystr ac uchder y samplwr. 2. yn gyffredinol, dylai pwynt samplu'r fewnfa fod rhwng 1.5m (y parth anadlu) a 4m uwchlaw'r ddaear. Mae safleoedd uwch yn bosibl hefyd ar gyfer gorsafoedd trefol o dan rai amgylchiadau ac mewn mannau coediog. 3. dylai profiedydd y fewnfa fod y bell i ffwrdd o unrhyw ffynonellau megis ffwrneisi a chyrn simneiau hylosgi a mwy na 10m o'r ffordd agosaf, a'r pellter yn cynyddu fel ffwythiant dwysedd traffig. 4. dylai allfa wacáu'r samplwr fod wedi'i leoli er mwyn osgoi ailgylchu nwyon llosg i fewnfa'r samplwr. Gall y ffactorau canlynol gael eu cymryd i ystyriaeth hefyd:
(b) diogelwch; (c) hygyrchedd; (ch) a oes p er trydan a chysylltiadau ffôn ar gael;(d) gwelededd y safle mewn perthynas â'i amgylchoedd; (dd) diogelwch y cyhoedd a'r gweithredwyr; (e) a yw'n ddymunol cyd-leoli pwyntiau samplu ar gyfer gwahanol lygrynnau; ac (f) gofynion cynllunio.
Dylai gweithdrefnau dewis safleoedd gael eu dogfennu'n llawn adeg y dosbarthu drwy gyfrwng megis ffotograffau pwynt-cwmpawd o'r amgylchoedd a map manwl. Dylid adolygu safleoedd yn rheolaidd gan ailadrodd y gwaith dogfennu i sicrhau bod y meini prawf dewis yn cael eu bodloni o hyd. Mae hyn yn gofyn am sgrinio a dehongli'r data monitro'n briodol yng nghyd-destun y prosesau metereolegol a ffotocemegol sy'n effeithio ar grynodiadau osôn sy'n cael eu mesur yn y safle priodol. Isafswm y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog parhaus i asesu ansawdd aer gyda golwg ar gydymffurfedd â'r gwerthoedd targed, yr amcanion hirdymor a throthwyon gwybodaeth a rhybuddio os mesuriadau parhaus yw'r unig ffynhonnell wybodaeth.
(b) 1 orsaf fesul 25,000 km2 yw'r argymhelliad ar gyfer tir cymhleth.
Rhaid i nifer y pwyntiau samplu ar gyfer osôn, mewn cyfuniad â dulliau eraill o asesu ychwanegol megis modelu ansawdd aer a mesuriadau nitrogen deuocsid sydd wedi'u cydleoli, fod yn ddigon i archwilio tuedd llygredd osôn a gwirio cydymffurfedd â'r amcanion hirdymor. Caniateir lleihau nifer y gorsafoedd sydd wedi'u lleoli mewn crynoadau a pharthau eraill i draean o'r nifer a bennir yn Rhan I. Os gwybodaeth o orsafoedd mesuriadau sefydlog yw unig ffynhonnell yr wybodaeth, dylid cadw o leiaf un orsaf fonitro. Os canlyniad hyn, mewn parthau lle ceir asesiad ychwanegol, yw nad oes gan barth unrhyw orsaf ar ôl, rhaid sicrhau drwy gydlynu â nifer y gorsafoedd mewn parthau cymdogol fod asesiad digonol o grynodiadau osôn yn erbyn amcanion hirdymor yn cael ei gynnal. Dylai nifer y gorsafoedd cefndir gwledig fod yn 1 am bob 100,000 km2. Amcanion Prif amcanion mesuriadau rhagsylweddion osôn yw dadansoddi unrhyw duedd mewn rhagsylweddion osôn, gwirio effeithlonrwydd strategaethau lleihau allyriannau, gwirio cysondeb rhestrau allyriannau a helpu i briodoli ffynonellau allyrru i grynodiadau llygredd. Nod ychwanegol yw cynnal dealltwriaeth o brosesau ffufio osôn a gwasgaru rhagsylweddion, yn ogystal â chymhwyso modelau ffotocemegol. Sylweddau Rhaid i fesuriadau rhagsylweddion osôn gynnwys o leiaf ocsidau nitrogen a chyfansoddion organig anweddol priodol (VOCs). Rhoddir rhestr o'r VOCs yr argymhellir eu mesur isod.
Dulliau cyfeirio Y dull cyfeirio ar gyfer dadansoddi ocsidau nitrogen fydd y dull sydd wedi'i bennu yn Rhan II o Atodlen 6 i Reoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2002, O. S. 2002/3183 (Cy.299). Lleoli Dylid cymryd mesuriadau mewn ardaloedd trefol a maestrefol yn benodol mewn unrhyw safle monitro sydd wedi'i sefydlu yn unol â gofynion Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2002 ac y bernir eu bod yn briodol mewn perthynas â'r amcanion monitro yn yr Atodlen hon. Mae'r amcanion ansawdd data canlynol ar gyfer yr ansicrwydd sy'n cael ei ganiatáu ar gyfer dulliau asesu, yr isafsymiau amser a'r gwaith cofnodi data yn sgil mesur yn cael eu nodi er mwyn arwain rhaglenni sicrwydd ansawdd;
Rhaid cloriannu ansicrwydd y dulliau mesur (ar gyfwng hyder o 95%) yn unol â'r egwyddorion sydd wedi'u nodi yn "Guide to the Expression of Uncertainty of Measurements" (ISO 1993) neu'r fethodoleg yn ISO 5725-1 "Accuracy (trueness and precision) of measurement methods and results" (ISO 1994)[9] neu safon gyfatebol. Mae'r canrannau ar gyfer ansicrwydd yn y tabl wedi'u rhoi ar gyfer mesuriadau unigol, wedi'u cyfartaleddu dros y cyfnod ar gyfer cyfrifo gwerthoedd targed ac amcanion hirdymor, ar gyfer cyfwng hyder o 95%. Dylai'r ansicrwydd ar gyfer mesuriadau sefydlog parhaus gael ei ddehongli fel pe bai'n gymwysadwy o gwmpas y crynodiad sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer y trothwy priodol. Mae'r ansicrwydd ar gyfer modelu ac amcangyfrif gwrthrychol yn golygu'r uchafswm amrywiadau ar y lefelau crynodiadau a gyfrifir ac a fesurir, dros y cyfnod ar gyfer cyfrifo'r trothwy priodol, heb gymryd amseriad digwyddiadau i ystyriaeth. Ystyr "ystod amser" yw canran yr amser y dylid ei ystyried wrth fesur y llygryn ar gyfer pennu'r gwerth trothwy. Ystyr "cofnodi data" yw'r gymhareb o'r amser y mae'r offeryn yn cynhyrchu data dilys ar ei gyfer, i'r amser y mae'r paramedr ystadegol neu'r gwerth agregedig i'w gyfrifo ar ei gyfer. Nid yw'r gofynion ar gyfer isafsymiau cofnodi data ac isafsymiau ystod amser yn cynnwys colli data wrth i'r offer gael eu calibradu yn rheolaidd neu eu cynnal a'u cadw fel rhan o'r drefn. Dylai'r wybodaeth ganlynol gael ei llunio ar gyfer parthau neu grynoadau y defnyddir ffynonellau heblaw mesuriadau ynddynt i ychwanegu at gwybodaeth o fesuriadau;
Y dull ffotometrig UV fydd y dull cyfeirio ar gyfer dadansoddi osôn (ISO FDIS 13964)[10]. Y dull cyfeirio ffotometrau UV fydd y dull cyfeirio ar gyfer calibradu offerynnau osôn (ISO FDIS 13964, VDI 2468, B1.6)[11].
Dylai'r manylion sydd i'w darparu cyn gynted â phosibl i'r cyhoedd ar raddfa ddigon mawr gynnwys: 1. Gwybodaeth am unrhyw ormodiant y sylwyd arno:
(b) y math o drothwy yr aed yn uwch nag ef (y trothwy gwybodaeth neu'r trothwy rhybuddio); (c) yr amser y dechreuodd y gormodiant a'i hyd; ac (ch) y crynodiad cymedrig 1 awr ac 8 awr uchaf.
2.
Y darogan ar gyfer y prynhawn, y diwrnod neu'r diwrnodau canlynol:
(b) y newid disgwyliedig mewn llygredd (h.y. gwella, sefydlogi neu waethygu)
3.
Gwybodaeth am y math o boblogaeth o dan sylw, yr effeithiau posibl ar iechyd a'r ymddygiad a argymhellir:
(b) disgrifiad o'r symptomau tebygol; (c) y rhagofalon yr argymhellir bod y boblogaeth o dan sylw yn eu cymryd; ac (ch) lle i ddod o hyd i wybodaeth bellach.
4.
Rhaid i'r wybodaeth a ddarperir o dan yr Atodlen hon gynnwys hefyd:
(b) nodyn am y prif sectorau ffynhonnell; ac (c) argymhellion ar gyfer gweithredu i leihau allyriannau.
Rhaid sicrhau a chydgasglu'r wybodaeth ganlynol am lefelau osôn:
(b) y cymedr uchaf 8 awr dyddiol.
Yn y Rhan hon, mae canraddau i'w cyfrifo drwy ddefnyddio'r dull a bennir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 97/101/EC[12]. Mae'r meini prawf canlynol i'w defnyddio ar gyfer gwirio dilysrwydd wrth agregu data a chyfrifo paramedrau ystadegol:
* sef nifer yr oriau o fewn cyfnod amser diffiniad yr AOT40 (hynny yw, 8:00 i 20:00 Amser Ewropeaidd Canolog o 1 Mai i 31 Gorffennaf bob blwyddyn, i ddiogelu llystyfiant ac o 1 Ebrill i 30 Medi bob blwyddyn i ddiogelu fforestydd). (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu, yng Nghymru, Gyfarwyddeb 2002/3/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor yngl n ag osôn mewn aer amgylchynol.Mae Rheoliad 3 yn gosod gwerthoedd targed ac amcanion hirdymor ar gyfer crynodiadau osôn mewn aer amgylchynol ("lefelau osôn") er mwyn diogelu iechyd pobl a llystyfiant. Mae Rheoliad 4 yn gosod dyletswydd ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") i sicrhau bod crynodiadau osôn a rhagsylweddion osôn mewn aer amgylchynol yn cael eu hasesu ym mhob parth yng Nghymru yn unol â'r dulliau a bennir yn y rheoliad hwnnw. Mae'r rheoliad yn darparu bod y dull asesu priodol ar gyfer pob parth i'w benderfynu drwy gyfeirio at hanes lefelau osôn yn y parth hwnnw yn ystod y pum mlynedd blaenorol. Mae'n pennu, drwy gyfeirio at Ran I o Atodlen 3, isafswm nifer y pwyntiau samplu sy'n ofynnol mewn parthau lle defnyddir mesuriadau sefydlog parhaus fel yr unig ddull asesu, ac yn ei gwneud yn ofynnol i fesuriadau nitrogen deuocsid gael eu gwneud mewn nid llai na hanner o'r pwyntiau samplu hynny. Mae'n darparu manylion hefyd am yr amgylchiadau lle caniateir lleihau nifer y pwyntiau samplu sefydlog sy'n ofynnol o dan Ran I o Atodlen 3, ac am y modd y mae rhaid asesu ansawdd aer o dan yr amgylchiadau hynny. Mae'r rheoliad yn pennu, drwy gyfeirio at Ran II o Atodlen 3, isafswm nifer y pwyntiau samplu sy'n ofynnol mewn parthau lle caniateir i ddulliau mesur heblaw mesuriadau sefydlog parhaus gael eu defnyddio. Mae'n nodi hefyd, drwy gyfeirio at Atodlen 6, y dulliau cyfeirio ar gyfer dadansoddi osôn a chalibradu offerynnau osôn ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau data ar grynodiadau'r rhagsylweddion osôn sydd wedi'u rhestru yn Atodlen 4. Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio rhestr o barthau yng Nghymru: lle mae lefelau osôn yn uwch na'r gwerthoedd targed; lle mae lefelau osôn yn uwch na'r amcanion hirdymor ond yn hafal i'r gwerthoedd targed neu'n is na hwy; a lle mae lefelau osôn yn bodloni'r amcanion hirdymor. Mae'r rheoliad yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol baratoi cynlluniau gweithredu ar gyfer pob parth yn y categori cyntaf a'u rhoi ar waith er mwyn cyrraedd y gwerth targed o fewn y dyddiad penodedig, lle mae modd sicrhau hynny drwy fesurau cymesur, a threfnu bod cynlluniau o'r fath ar gael i'r cyhoedd. Mae'n ei gwneud yn ofynnol hefyd i'r Cynulliad Cenedlaethol baratoi a gweithredu mesurau cost-effeithiol ar gyfer parthau yn yr ail gategori, gan anelu at gyflawni'r amcanion hirdymor. Yn ychwanegol, mae'r rheoliad yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i sicrhau, ym mhob parth yn y trydydd categori, fod lefelau osôn yn cael eu cadw islaw'r amcanion hirdymor a'u bod yn cael eu cynnal drwy fesurau cymesur. Mae rheoliad 6 yn gosod y trothwy gwybodaeth a'r trothwy rhybuddio ar gyfer osôn, drwy gyfeirio at Ran I o Atodlen 7. Mae rheoliad 7 yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i sicrhau bod gwybodaeth gyfoes am lefelau osôn yn cael ei rhoi ar gael i'r cyhoedd fel mater o drefn. Rhaid i'r wybodaeth hon gynnwys nodyn am yr holl ddigwyddiadau pan aeth lefelau osôn yn uwch na'r amcan hirdymor a'r trothwyon penodedig, ynghyd â gwerthusiad o effaith y gormodiannau hynny ar iechyd pobl; adroddiadau blynyddol cynhwysfawr; a gwybodaeth amserol am ormodiannau gwirioneddol neu ddaroganedig uwchlaw'r trothwy rhybuddio. Mae'r rheoliad yn ei gwneud yn ofynnol i bob gwybodaeth o'r fath fod yn glir, yn ddealladwy ac yn hygyrch. Mae rheoliad 8 yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i lunio cynllun gweithredu ar gyfer pob parth lle bo risg o fynd yn uwch na'r trothwy rhybuddio, os yw'n penderfynu bod posibilrwydd sylweddol o leihau'r risg honno neu leihau hyd neu ddifrifoldeb unrhyw ormodiant o'r fath. Mae'r rheoliad yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol drefnu bod canlyniadau ei benderfyniadau, y cynlluniau gweithredu y mae'n eu llunio, a gwybodaeth am roi'r cynlluniau gweithredu hynny ar waith, ar gael i'r cyhoedd. Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r Ysgrifennydd Gwladol pan fydd lefelau osôn mewn unrhyw barth yng Nghymru yn mynd yn uwch na gwerth targed neu amcan hirdymor, a'i bod yn ymddangos i'r Cynulliad fod y gormodiant hwn yn deillio'n bennaf o allyriannau rhagsylweddion mewn un o Aelod Wladwriaethau eraill yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n gosod dyletswydd hefyd ar y Cynulliad Cenedlaethol i gymryd unrhyw gamau sydd o fewn ei bwerau i roi eu heffaith i unrhyw gydgynllun gweithredu neu gydraglen, neu gydgynllun gweithredu byrdymor, a luniwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol ac Aelod-wladwriaeth arall i gydymffurfio ag Erthygl 8(1) neu (2) o Gyfarwyddeb 2002/3/EC. Mae Rheoliad 10 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud yn siwr fod yr wybodaeth a bennir yn Rhan I o Atodlen 8 yn cael ei sicrhau a'i chydgasglu. Mae'r meini prawf ar gyfer agregu data a chyfrifo'r paramedrau ystadegol a bennir yn Rhan II o Atodlen 8 yn gymwys i'r wybodaeth hon. Mae Rheoliad 11 yn dirymu Rheoliadau Monitro Osôn a Gwybodaeth am Osôn 1994, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru. Notes: [1] 1998 p.38.back [4] 1977 p.49. Mewnosodwyd adran 16BA gan adran 6(1) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17).back [5] O.S. 2002/3183 (Cy.299).back [6] OJ L 67, 9.3.2002, t.14.back [8] OJ L 125, 18.5.1994, t.1.back [9] Gellir cael copïau o'r cyhoeddiadau hyn gan y Corff Safonau Rhyngwladol oddi wrth adran werthiannau Sefydliad Safonau Prydain naill ai dros y ffôn ar 020 8996 9001 neu drwy'r post oddi wrth y BSI, Standards House, 389 Chiswick High Road, Llundain, W4 4AL.back [10] Gellir cael copïau o'r cyhoeddiad hwn gan y Corff Safonau Rhyngwladol oddi wrth adran werthiannau Sefydliad Safonau Prydain naill ai dros y ffôn ar 020 8996 9001 neu drwy'r post oddi wrth y BSI, Standards House, 389 Chiswick High Road, Llundain, W4 4AL.back [12] OJ L 35, 5.2.1997, t.14.back
ISBN 0 11090764 7
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 23 July 2003 |