Rheoliadau Diogelu'r Arfordir (Hysbysiadau) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Diogelu'r Arfordir (Hysbysiadau) (Cymru) 2003, ISBN 0110907639. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd i "y Gweinidog" gan adran 5(1), (2) a (3) ac adran 44 o Ddeddf Diogelu'r Arfordir 1949[1], ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â Chymru[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu'r Arfordir (Hysbysiadau) (Cymru) 2003 ac maent yn dod i rym ar 31 Gorffennaf 2003. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn -
Ffurf hysbysiad o gynnig i wneud gwaith diogelu'r arfordir
(b) unrhyw awdurdod harbwr, awdurdod mordwyo, awdurdod gwarchodaeth, neu bwyllgor pysgodfeydd lleol y mae ei ardal yn cynnwys yr ardal lle bydd y gwaith y mae'r hysbysiad yn perthyn iddo yn cael ei wneud neu y bydd fel arall yn debyg o gael ei effeithio gan y gwaith hwnnw; (c) Cyngor Cefn Gwlad Cymru; (ch) os yw'r gwaith y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef yn debygol o effeithio ar unrhyw ran o Loegr neu o'r môr sy'n gyfagos at Loegr, "English Nature", Comisiwn Adeiladau a Henebion Lloegr a'r "Countryside Agency"; a (d) unrhyw berson arall sydd â buddiant mewn unrhyw dir y bydd y gwaith y mae'r hysbysiad yn perthyn iddo yn cael ei wneud arno, neu sy'n debygol o gael ei effeithio gan y gwaith, oni bai nad yw'r awdurdod diogelu'r arfordir yn gwybod pwy ydyw nac yn medru yn rhesymol gadarnhau pwy ydyw.
Hysbysiad o wrthwynebiad
(b) unrhwy gopi o hysbysiad o gynnig i wneud gwaith diogelu'r arfordir, os yw'r person y mae'n rhaid cyflwyno'r hysbysiad iddo yn cytuno i dderbyn cyflwyno'r ddogfen honno trwy gyfathrebiad electronig.
Diddymu Mae Cyngor [rhodder enw'r Cyngor], gan weithredu fel awdurdod diogelu'r arfordir, trwy hyn yn hysbysu, o dan adran 5(1) o'r Ddeddf uchod ei fod yn cynnig gwneud gwaith diogelu'r arfordir yn [rhodder lleoliad y gwaith]. Bydd y gwaith yn cynnwys [rhodder disgrifiad o'r gwaith]. Amcangyfrifir y bydd cost y gwaith yn £[rhodder amcangyfrif o'r gost]. Gellir archwilio manylion y gwaith arfaethedig [ynghyd â chopïau o'r cynllun rheoli'r draethlin berthnasol]*[a mapiau o ardaloedd perygl llifogydd lleol]* yn [rhodder cyfeiriad lle gellir archwilio a'r amserau pryd y gellir gwneud hynny]. [* dileer fel bo angen] Gall unrhyw un wrthwynebu'r gwaith arfaethedig trwy gyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac i'r Cyngor, heb fod yn hwyrach na [rhodder dyddiad heb fod yn llai na 28 diwrnod ar ôl dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad], hysbysiad o wrthwynebiad i'r cynllun. Rhaid i unrhyw hysbysiad o wrthwynebiad i'r cynllun ddatgan seiliau'r gwrthwynebiad a gellir ei gyflwyno trwy law, ei danfon trwy'r post, gan dalu o flaen llaw, neu ei danfon trwy ffacs neu e-bost, fel y bydd yn dod i law heb fod yn hwyrach na'r dyddiad a bennir uchod, i Is-adran Diogelu'r Amgylchedd, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ [rhodder Rhif ffacs a chyfeiriad e-bost cyfredol, y gellir eu cael oddi wrth Is-adran Diogelu'r Amgylchedd, Llywodraeth Cynulliad Cymru] ac i Brif Weithredwr Cyngor [rhodder enw'r Cyngor][rhodder cyfeiriad a Rhif ffacs a chyfeiriad e-bost cyfredol y Cyngor]. [Rhodder enw swyddog priodol y Cyngor] [Rhodder dyddiad yr hysbysiad] (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth, mewn perthynas â Chymru, yngl n â hysbysiadau o gynlluniau i wneud gwaith diogelu'r arfordir a gyhoeddir gan awdurdodau diogelu'r arfordir o dan adran 5(1) o Ddeddf Diogelu'r Arfordir 1949 ("y Ddeddf"), a hysbysiadau o wrthwynebiad i'r fath waith a gyflwynir o dan adran 5(3) o'r Ddeddf. Maent yn disodli Rheoliadau Diogelu'r Arfordir (Hysbysiadau) 1950.Mae rheoliad 3 a'r Atodlen yn rhagnodi ffurf yr hysbysiad y mae'n rhaid i'r awdurdod diogelu'r arfordir ei gyhoeddi. Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad o gynnig i wneud gwaith diogelu'r arfordir, y mae adran 5(1) yn ei gwneud yn ofynnol i'w gyhoeddi a'i gyflwyno i Asiantaeth yr Amgylchedd ac i unrhyw fwrdd draenio mewnol perthnasol, hefyd gael ei gyflwyno i rai cyrff statudol ac i bartïon y mae eu buddiannau yn debyg o gael eu heffeithio gan y gwaith arfaethedig. Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chynnwys a chyflwyno hysbysiadau o wrthwynebiad i gynllun o dan adran 5(3). Mae rheoliad 6 yn awdurdodi cyflwyno hysbysiadau trwy gyfathrebiad electronig. Mae rheoliad 7 yn diddymu, mewn perthynas â Chymru, Reoliadau Diogelu'r Arfordir (Hysbysiadau) 1950 (sydd eisoes wedi eu diddymu mewn perthynas â Lloegr gan Reoliadau Diogelu'r Arfordir (Hysbysiadau) (Lloegr) 2002). Notes: [1] 1949 p.74. Diwygiwyd adran 5(1) gan Ddeddf D r 1989 (p.15), adran 190(1) ac Atodlen 25, paragraff 1, a chan Reoliadau Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (Diwygiadau Canlyniadol 1996 (O.S. 1996/593), rheoliad 2 ac Atodlen 1.back[2] Trosglwyddwyd pwerau "y Gweinidog" o dan adran 5 o'r Ddeddf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1.back [4] O.S. 1950/124, sydd eisoes wedi'i ddiddymu, mewn perthynas â Lloegr, gan O.S. 2002/278.back
ISBN 0 11090763 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 23 July 2003 |