Gorchymyn Diogelu Anifeiliaid (Anesthetyddion) Diwygio (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Diogelu Anifeiliaid (Anesthetyddion) Diwygio (Cymru) 2003, ISBN 0110907620. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 1 o Ddeddf Diogelu Anifeiliaid (Anesthetyddion) 1954[1] ac a freiniwyd ynddo bellach[2], ar ôl ymgynghori â Choleg Brenhinol y Llawfeddygon Milfeddygol ac â'r personau hynny y mae'n ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru eu bod yn cynrychioli'r buddiannau amaethyddol, y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol eu bod yn briodol, yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Teitl, cymhwyso a chychwyn 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diogelu Anifeiliaid (Anesthetyddion) Diwygio (Cymru) 2003, mae'n gymwys mewn perthynas â Chymru a daw i rym ar 18 Gorffennaf 2003. Diwygio Deddf Diogelu Anifeiliaid (Anesthetyddion) 1954 2. Ym mharagraff 6 o Atodlen 1 (Gweithrediadau a Eithrir) i Ddeddf Diogelu Anifeiliaid (Anesthetyddion) 1954 yn lle'r geiriau "in Wales, 4 weeks" rhoddir "in Wales, 8 days"[3]. Llofnodwyd ar ran y Cynulliad o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4] D.Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 16 Gorffennaf 2003 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio paragraff 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Diogelu Anifeiliaid (Anesthetyddion) 1954 (1954 p.46) yn ei chymhwysiad i Gymru drwy ostwng yr oedran na cheir ysbaddu moch wedi'r oedran hwnnw heb anesthetydd o 4 wythnos i 7 diwrnod er mwyn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2001/93/EC (OJ Rhif L 316, 1.12.2001 t. 36). Ceir yr amodau sy'n gymwys i gadw moch yn Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2001, fel y'u diwygiwyd. Notes: [1] 1954 p. 46.back [2] Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] Diwygiwyd paragraff 6 ynghylch Lloegr gan Orchymyn Diogelu Anifeiliaid (Anesthetyddion) (Diwygio) (Rhif 2) (Lloegr) 2003. (O.S. 2003/1328).back
ISBN 0 11090762 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 23 July 2003 |