Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) (Diwygio) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) (Diwygio) (Cymru) 2003, ISBN 0110907523. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 34(5) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[1] ac sydd yn awr yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2003. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Diwygio rheoliad 4 o Reoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) 1991 2. Yn rheoliad 4 o Reoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) 1991[3] -
(b) yn lle'r geiriau "furnish the authority with a copy of it at the authority's office" rhodder "furnish that authority with a copy of it at that authority's office".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) 1991 (O.S. 1991/2839) ("y prif Reoliadau"), fel y'u diwygiwyd gan O.S. 1996/672 ac fel y'u diwygiwyd ymhellach, fel y maent yn gymwys i Gymru a Lloegr, gan O.S. 2000/1973 ac O.S. 2002/1559, i ganiatáu i awdurdodau casglu gwastraff gyflwyno i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo gadw disgrifiad ysgrifenedig o wastraff a nodyn trosglwyddo o dan y prif Reoliadau hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw roi i'r awdurdod casglu gwastraff yn ei swyddfa, o fewn cyfnod penodedig, y disgrifiadau ysgrifenedig hynny o'r gwastraff a'r nodiadau trosglwyddo a bennir yn yr hysbysiad hwnnw. Notes: [1] 1990 p.43; mae yna ddiwygiadau eraill i adran 34 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn perthynas â Chymru, yn rhinwedd erthygl 2 ac Atodlen 1 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) .back [3] O.S. 1991/2839, fel y'i diwygiwyd gan reoliad 23 o O.S. 1996/972 ac, fel y mae'n gymwys i Gymru a Lloegr, gan reoliad 39 ac Atodlen 10, Rhan 2, paragraff 26 o O.S. 2000/1973 a rheoliad 19 o O.S. 2002/1559. Diwygiwyd y Rheoliadau hefyd, mewn perthynas â'r Alban, gan reoliad 36 o O.S.A. 2000/323, ac mewn perthynas â Lloegr, gan reoliad 3 o O.S. 2003/63.back
ISBN 0 11090752 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 16 July 2003 |