Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003, ISBN 0110907566. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(a) ac (e), 17(1), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1], ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a'r Cyngor[3] yn pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu'r Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd ac yn pennu gweithdrefnau ynglyn â materion diogelwch bwyd ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cymhwyso a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003; deuant i rym ar 1 Awst 2005 ac maent yn gymwys i Gymru yn unig. Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -
(b) at ddibenion sefydliad arlwyo; neu (c) at ddibenion busnes gweithgynhyrchu;
(b) yn cael ei werthu ar ffurf dogn.
(2) Rhaid ystyried bod ychwanegyn bwyd wedi'i ragbacio at ddibenion y Rheoliadau hyn -
(b) os yw wedi'i roi mewn pecyn cyn cael ei gynnig i'w werthu yn y fath fodd ag i beidio â chaniatáu newid yr ychwanegyn bwyd heb agor neu newid y pecyn.
(3) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac ar eu ffurf Saesneg yng Nghyfarwyddeb 2002/46 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn â'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Gyfarwyddeb honno.
(b) ar ffurf sydd
(ii) yn bodloni'r meini prawf purdeb perthnasol.
(2) Y meini prawf purdeb perthnasol at ddibenion paragraff (1)(b)(ii) yw -
(b) yn absenoldeb meini prawf purdeb o'r fath, y meini prawf purdeb sy'n dderbyniol yn gyffredinol ar gyfer y sylwedd o dan sylw ac sy'n cael eu hargymell gan gyrff rhyngwladol.
(3) Yn achos fitamin neu fwyn nad yw wedi'i restru yng ngholofn 1 o Atodlen 1 neu nad yw ar ffurf a restrir yn Atodlen 2, ni fydd y gwaharddiadau ym mharagraff (1) yn gymwys tan 1 Ionawr 2010 -
(b) os cafodd coflen yn cefnogi'r defnydd ar y sylwedd o dan sylw ei chyflwyno i'r Comisiwn gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd neu unrhyw Aelod-wladwriaeth arall erbyn 12 Gorffennaf 2005; ac (c) nad yw'r Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd wedi rhoi barn anffafriol ynglyn â defnyddio'r sylwedd hwnnw, neu ar ei ddefnyddio ar y ffurf honno wrth gynhyrchu ychwanegion bwyd.
Cyfyngiadau ar werthu sy'n ymwneud â labelu etc ychwanegion bwyd
(b) y gyfran o'r cynnyrch yr argymhellir ei bwyta'n ddyddiol; (c) rhybudd i beidio â chymryd mwy na'r dogn dyddiol penodedig a argymhellir; (ch) datganiad i'r perwyl na ddylid defnyddio ychwanegion bwyd yn lle deiet amrywiol; (d) datganiad i'r perwyl y dylid storio'r cynnyrch y tu allan i gyrraedd plant bach; ac (dd) faint o unrhyw fitamin neu fwyn neu sylwedd arall ag effaith faethol neu ffisiolegol sy'n bresennol yn y cynnyrch.
(3) Rhaid i'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan baragraff (2)(dd) -
(b) cael ei rhoi yn achos fitamin neu fwyn a rhestrir yng ngholofn 1 o Atodlen 1, gael ei roi drwy ddefnyddio'r uned berthnasol a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno; (c) datgan y swm fesul cyfran o'r cynnyrch fel yr argymhellir ei fwyta'n ddyddiol ar label y cynnyrch; (ch) bod yn faint cyfartalog ar sail dadansoddiad y gweithgynhyrchydd o'r cynnyrch; a (d) cael ei mynegi hefyd, yn achos fitamin neu fwyn a restrir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC[7] ar labelu maethiad ar gyfer bwydydd, fel canran (y caniateir ei rhoi hefyd ar ffurf graff) o'r lwfans dyddiol perthnasol a argymhellir ac a bennir yn yr Atodiad hwnnw.
(4) Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os yw dull ei labelu, ei gyflwyno neu ei hysbysu yn cynnwys sôn, naill ai'n ddiamwys neu'n ymhlyg, na all deiet cytbwys ac amrywiol ddarparu meintiau priodol o fitaminau neu fwynau yn gyffredinol.
(b) yn barod i'w ddanfon i sefydliad arlwyo ac wedi'i ragbacio,
os nad yw'r manylion y mae'n ofynnol ei farcio neu ei labelu â hwy o dan reoliad 6 (2) yn ymddangos -
(ii) ar label sydd ynghlwm wrth y pecyn; neu (iii) ar label sydd i'w weld yn glir drwy'r pecyn,
ac eithrio pan werthir i unrhyw un heblaw'r defnyddiwr olaf, y caiff y manylion hyn fel arall ymddangos ar y dogfennau masnachol ynglyn â'r ychwanegyn bwyd os oes modd gwarantu bod y dogfennau hynny, sy'n cynnwys y manylion hyn i gyd, naill ai gyda'r ychwanegyn bwyd y maent yn ymwneud ag ef neu wedi cael eu hanfon cyn i'r ychwanegyn bwyd gael ei anfon, neu'r un pryd â hynny ac ar yr amod bod y manylion sy'n ofynnol o dan reoliad 5(a), (c) ac (e) o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 wedi'u marcio neu wedi'u labelu hefyd ar y pecyn allanol y mae'r ychwanegyn bwyd hwnnw wedi'i werthu gydag ef.
(2) Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon i sefydliad arlwyo ac nad yw wedi'i ragbacio os nad yw'r manylion y mae'n ofynnol eu marcio neu eu labelu â hwy o dan reoliad 6(2) yn ymddangos -
(b) ar docyn neu hysbysiad y mae'n hawdd i ddarpar brynwr ei ddirnad yn y man lle mae'n dewis yr ychwanegyn bwyd hwnnw; neu (c) mewn dogfennau masnachol sy'n ymwneud â'r ychwanegyn bwyd os oes modd gwarantu bod y dogfennau yn naill ai gyda'r ychwanegyn bwyd y maent yn ymwneud ag ef neu wedi cael eu hanfon cyn hynny, neu'r un pryd ag anfon yr ychwanegyn bwyd hwnnw.
(3) Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os nad yw'r manylion y mae'n ofynnol marcio neu labelu ychwanegyn bwyd â hwy o dan reoliad 6(2) yn hawdd i'w deall, yn hollol ddarllenadwy, yn annileadwy a, phan fydd bwyd yn cael ei werthu i'r defnyddiwr olaf, rhaid i'r manylion hynny gael eu marcio mewn man amlwg mewn ffordd sy'n eu gwneud yn hawdd i'w gweld.
(b) yn achos allforio i Aelod-wladwriaeth, bod y ddeddfwriaeth yn cydymffurfio â darpariaethau Cyfarwyddeb 2002/46.
Cymhwyso amryw o ddarpariaethau'r Ddeddf
(b) adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi'i fwriadu i bobl ei fwyta); (c) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall); (ch) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adrannau 8, 14 neu 15; (d) adran 22 (amddiffyniad o gyhoeddi wrth gynnal busnes); (dd) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol); (e) adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion); (f) adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at "any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above" yn gyfeiriad at unrhyw ofynion o'r fath a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan baragraff (e) uchod; (ff) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan baragraff (e) uchod; (g) adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (f) uchod; (ng) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac (h) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
A. Fitaminau 1. FITAMIN A
(b) retinyl asetad (c) retinyl palmitad (ch) beta-caroten
2.
FITAMIN D
(b) ergocalsifferol
3.
FITAMIN E
(b) DL-alffa-tocofferol (c) D-alffa-tocofferyl asetad (ch) DL-alffa-tocofferyl asetad (d) D-alffa-sycsinad asid tocofferyl
4.
FITAMIN K
5.
FITAMIN B1
(b) thiamin mononitrad
6.
FITAMIN B2
(b) ribofflafin 5'-ffosffad, sodiwm
7.
NÏASIN
(b) nicotinamid
8.
ASID PANTOTHENIG
(b) D-pantothenad, sodiwm (c) decspanthenol
9.
FITAMIN B6
(b) pyridocsin 5'-ffosffad
10.
ASID FFOLIG
11.
FITAMIN B12
(b) hydrocsocobalamin
12.
BIOTIN
13.
FITAMIN C
(b) sodiwm-L-asgorbad (c) calsiwm-L-asgorbad (ch) potasiwm-L-asgorbad (d) L-asgorbyl 6-palmitad
B. Mwynau (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.) 1. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu yng Nghymru Gyfarwyddeb 2002/46/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyd-ddynesu cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynglyn ag ychwanegion bwyd. 2. Mae'r Rheoliadau yn ymwneud â gwerthu (fel y'i diffinnir yn rheoliad 2(1)) ychwanegion bwyd sy'n cael eu gwerthu fel bwyd a'u cyflwyno fel y cyfryw (rheoliad 3). Diffinnir ychwanegyn bwyd fel bwyd sy'n cael ei werthu ar ffurf dogn ac sydd wedi'i fwriadu i ychwanegu at ddeiet normal ac yn ffynhonnell grynodedig o fitamin neu fwyn neu sylwedd arall ag effaith faethol neu ffisiolegol, naill ai ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad (rheoliad 2(1)). 3. Mae'r Rheoliadau - a hynny o 1 Awst 2005 ymlaen -
(b) yn gwahardd gwerthu ychwanegyn bwyd y defnyddiwyd fitamin neu fwyn wrth ei gynhyrchu, oni bai bod gofynion cyfansoddi penodol wedi'u bodloni, yn ddarostyngedig i ddarpariaeth drosiannol (rheoliad 5(3) a'r Atodlenni), (c) yn gwahardd gwerthu ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo oni bai bod gofynion penodol ynglyn â labelu, cyflwyno a hysbysebu'r cynnyrch wedi'u bodloni (rheoliadau 6 a 7).
4.
Mae Erthygl 6(2) o'r Gyfarwyddeb (sy'n dweud bod rhaid peidio â phriodoli i ychwanegion bwyd, wrth eu labelu, eu cyflwyno a'u hysbysebu, nodweddion atal, trin neu iacháu clefyd dynol, na chyfeirio at nodweddion o'r fath) eisoes wedi'i roi ar waith yn Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (rheoliad 40(1) ac Atodlen 6, Rhan I, paragraff 2). Notes: [1] 1990 p.16.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau yr Ysgifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir ar y Cyd ag adran 40(3) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.back [3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back [4] OJ Rhif L183, 12.7.2002, t.51.back [5] OJ Rhif L311, 28.11.2001, t.67.back [6] O.S. 1996/1499, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/141, 1398, 2424, 1999/747, 1136, 1483, 1540, 1603, 2000/1925 (Cy.134), 2001/1232 (Cy.66), 1440 (Cy.102), 2679 (Cy.220), 3909 (Cy.321), 2002/329 (Cy.42). .back [7] OJ Rhif L276, 6.10.90, t.40.back
ISBN 0 11090756 6
| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 21 July 2003 |