Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.
Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.
Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.
Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2003, ISBN 0110907582. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.
I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 1718 (Cy.185) (C.72)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2003
Wedi'i wneud
9 Gorffennaf 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y per a roddwyd iddo gan adran 216(3), (4)(b) a (5) o Ddeddf Addysg 2002[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enw, cymhwyso a dehongli 1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2003.
2.
Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru yn unig (ac eithrio mewn perthynas ag adrannau 139 a 197).
3.
Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at Rannau, adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at Rannau ac adrannau o Ddeddf Addysg 2002 a'r Atodlenni iddi.
Diwrnodau penodedig 4.
1 Awst 2003 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
5.
1 Medi 2003 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan II o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
6.
1 Tachwedd 2003 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan III o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2]
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isod
Diddymiadau
Yn Atodlen 22, Rhan 3, diddymu -
Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995[3], adran 28Q(12),
Deddf Addysg 1996[4], adrannau 483(3A), 483A(7), 490, 497A(3), yn adran 580, y cofnodion sy'n ymwneud â "city academy", "city college for the technology of the arts", "city technology college",
Adran 19(6) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 1 isod
Cyrff llywodraethu
Adrannau 27 a 28
Per corff llywodraethu i ddarparu cyfleusterau cymunedol
Adran 29
Swyddogaethau ychwanegol cyrff llywodraethu
Adran 40 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 3 isod
Diwygiadau i Ran 2 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998
Adran 136
Addysg bellach : darparu addysg
Adran 137
Penaethiaid sefydliadau addysg bellach
Adran 138
Hyfforddiant mewn darparu addysg bellach
Adran 139
Cymru : darparu addysg uwch
Adran 140
Addysg bellach : cyffredinol
Adrannau 181 i 185
Lwfansau ar gyfer addysg neu hyfforddiant
Adran 197
Cytundebau a datganiadau partneriaeth
Adran 199
Cludiant ar gyfer personau dros oedran ysgol gorfodol
Adran 202
Sefydliadau addysg bellach : cofnodion
Adran 203
Sefydliadau addysg bellach : deunydd peryglus, etc
Adran 206
Niwsans neu aflonyddwch ar safleoedd addysg
Adran 215(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 21 isod
Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isod
Diddymiadau
Atodlen 1, paragraff 3(1) (ac eithrio paragraff (a)) ac is-baragraffau (3) i (8) i'r graddau y maent yn ymwneud â'r per a roddir gan is-baragraff (1)(b)
Cyrff llywodraethu
Atodlen 3, paragraffau 1 i 5
Diwygiadau i Ran 2 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998
Atodlen 19
Cludiant ar gyfer personau dros oedran ysgol gorfodol
Atodlen 20
Niwsans neu aflonyddwch ar safleoedd addysgol
Atodlen 21,
Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Paragraff 4,
Paragraff 34
Yn Atodlen 22, Rhan 3, diddymu
Diddymiadau
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982[6], adran 40,
Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992[7], yn Atodlen 8, paragraff 90,
Deddf Addysg 1996, adran 509(6), ac yn Atodlen 37, paragraff 55,
Deddf Addysg 1997[8], yn Atodlen 7, paragraff 9(3),
Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[9]), yn Atodlen 30, paragraff 133(b).
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 1 Awst 2003, 1 Medi 2003 ac 1 Tachwedd 2003, y darpariaethau hynny yn Neddf Addysg 2002 a bennir yn Rhannau I i III o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Mae'r cyfeiriadau isod at adrannau ac Atodlenni (heb fanylion pellach) yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlenni iddi.
Yn achos darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn ac sy'n diwygio deddfwriaeth sy'n bodoli eisoes, mae'r cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol yn y darpariaethau hynny i'w darllen, mewn perthynas â Chymru, fel cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru - gweler adran 211.
Dyma fydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan I o'r Atodlen -
Mae adrannau 60 i 64 yn ymwneud â phwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad Cenedlaethol) i gyfarwyddo AALl.
Mae adran 60 yn diwygio adran 497A o Ddeddf Addysg 1996 (Deddf 1996) fel bod modd i gyfarwyddyd gyfeirio at holl swyddogaethau AALl; fel bod modd gwneud cyfarwyddyd pellach pan ddaw un blaenorol i ben os caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei fodloni, pe na bai'n gwneud cyfarwyddyd pellach, na fyddai'r AALl yn cyflawni'r swyddogaeth o dan sylw i safon ddigonol; fel bod modd i'r Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo AALl i gymryd camau mwy penodol; ac yn y fath fodd ag i alluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i gyfarwyddo bod swyddogaeth i'w harfer ganddo neu gan ei enwebai. Mae adran 61 yn mewnosod adran 497AA newydd o Ddeddf 1996 sy'n ei gwneud yn ofynnol i AALl gydweithredu â'r Cynulliad Cenedlaethol, neu ei enwebai, os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried gwneud cyfarwyddyd. Mae adran 62 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i adran 497B o Ddeddf 1996. Mae adrannau 63 a 64 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol o dan amgylchiadau penodol i gyfarwyddo AALl i gael cyngor oddi wrth berson penodedig.
Mae adran 178(1) a (4) yn diwygio Deddf Dysgu a Medrau 2000 i estyn ystod arolygiadau ardal at bersonau sydd dros 14 oed.
Mae adran 215 ac Atodlenni 21 a 22 yn gwneud mân ddiwygiadau canlyniadol a diddymiadau.
Dyma fydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan II o'r Atodlen -
Mae adran 27 yn galluogi corff llywodraethu ysgol a gynhelir i ddarparu cyfleusterau neu wasanaethau er budd y gymuned. Mae adran 28 yn gosod terfynau ar arfer y per hwn. Mae adran 19(6) ac Atodlen 1, paragraff 3(1), (3) i (8), ac adran 40 ac Atodlen 3, paragraffau 1 i 5 yn gwneud darpariaeth sy'n dilyn fel canlyniad i gyflwyno'r per hwn.
Mae adran 29 yn ailddeddfu, gyda diwygiadau, adran 39 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (Deddf 1998). Roedd adran 39(1) o Ddeddf 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu sefydlu gweithdrefn cwyno yn unol â rheoliadau, ond ni wnaethpwyd rheoliadau o dan yr adran honno. Mae adran 29(1) a (2) nawr yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu gael gweithdrefn cwyno fel y'i nodir yn yr adran ac yn unol â chyfarwyddyd. Mae adran 29(3) a (4) yn rhoi per i gorff llywodraethu i'w gwneud yn ofynnol i ddisgyblion fynd i unrhyw le y tu allan i'r ysgol at ddibenion y cwricwlwm. Mae adran 29(5) yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu a phennaeth gydymffurfio â chyfarwyddiadau AALl mewn perthynas â iechyd a diogelwch.
Mae adrannau 136 i 140 yn cynnwys pwerau i wneud rheoliadau yngln â chymwysterau athrawon a phenaethiaid addysg bellach, mewn perthynas â chyrsiau sy'n arwain at gymwysterau o'r fath ac mewn perthynas â darparu cyrsiau addysg uwch mewn sefydliadau addysg bellach.
Mae adrannau 181 i 185 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau sy'n darparu ar gyfer talu lwfansau i bersonau cymwys dros oedran ysgol gorfodol sy'n cymryd rhan mewn addysg neu hyfforddiant nad yw'n addysg uwch.
Mae adran 197 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i AALl a chyrff llywodraethu wneud cytundebau partneriaeth, sy'n nodi sut y byddant yn cyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas ag ysgol.
Mae adran 199 ac Atodlen 19 yn diwygio darpariaethau Deddf 1996 yngln â chludiant. Maent yn ei gwneud yn ofynnol i AALl baratoi datganiad polisi sy'n nodi eu trefniadau ar gyfer darparu cludiant ar gyfer dysgwyr ôl-16 neu gefnogaeth ar gyfer cludiant o'r fath.
Mae adran 202 yn cynnwys pwerau i wneud rheoliadau yngln â chofnodion addysgol sefydliadau addysg bellach.
Mae adran 203 yn cynnwys pwerau i wneud rheoliadau yngln â defnyddio offer a deunyddiau peryglus mewn sefydliadau addysg bellach.
Mae adran 206 ac Atodlen 20 yn diwygio Deddf 1996 a Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 i estyn y darpariaethau yngln â niwsans neu aflonyddwch ar safleoedd addysgol i ysgolion arbennig na chynhelir mohonynt, ysgolion annibynnol, safleoedd sy'n cael eu darparu gan AALl ar gyfer hyfforddiant mewn gweithgareddau sy'n ymwneud â chwaraeon, gweithgareddau adloniadol neu weithgareddau awyr agored ac i sefydliadau o fewn y sector addysg bellach.
Mae adran 215 ac Atodlenni 21 a 22 yn gwneud mân ddiwygiadau canlyniadol a diddymiadau.
Dyma fydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan III o'r Atodlen -
Mae adran 43 yn mewnosod adran 47A newydd o Ddeddf 1998, sy'n ei gwneud yn ofynnol i AALl sefydlu fforymau ysgol. Bydd y rhain yn cynrychioli cyrff llywodraethu a phenaethiaid ac yn cynghori'r AALl ar faterion sy'n ymwneud â'i gyllideb ysgolion.
NODYN AM ORCHMYNION CYCHWYN BLAENOROL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru trwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth
Y Dyddiad Cychwyn
Rhif O.S.
Adrannau 14 i 17
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Adran 18(2)
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Adran 49
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adrannau 54 i 56
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 75 (yr rhannol)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 Cy.301)
Adrannau 97 a 98
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 99(1)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 100 (yn rhannol)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 101 (yn rhannol)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 103
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adrannau 105 i 107
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 108 (yn rhannol)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 109
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adrannau 111 i 118
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 119
1 Hydref 2002
2002/2439
Adran 120(1) a (3) i (5)
1 Hydref 2002
2002/2439
Adran 121
1 Hydref 2002
2002/2439
Adran 130 (yn rhannol)
1 Hydref 2002
2002/2439
Adran 131
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adrannau 132 a 133
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 134 (yn rhannol)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 135
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 141
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adrannau 142 i 144
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Adran 145
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 146 (yn rhannol)
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Adran 148 (yn rhannol)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 149
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Adran 150
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Adran 151(2)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 152 (yn rhannol)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 179 (yn rhannol)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 180
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 188 (yn rhannol)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 189 (yn rhannol)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adrannau 191 i 194
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 195 (yn rhannol)
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
(yn llawn)
1 Medi 2003
2002/3185 (Cy.301)
Adran 196
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Adran 200
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Adran 201 (yn rhannol)
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Adran 215 (yn rhannol)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)
1 Medi 2003
2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 5
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 10, paragraffau 1, 6, 11 a 15.
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 11
1 Hydref 2002
2002/2439
Atodlen 12, paragraffau 1, 2, 4(1) a (3), 6 a 7
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Paragraff 12(1) a (2)
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 13, paragraffau 1 i 3, 5, 6, 7(1) a (3) ac 8
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 16, paragraffau 4 i 9
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 17, paragraffau 5(1) i (4), (6) a 6 i 8
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 18, paragraffau 1, 4, 5 a 7
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Paragraff 8 (yn rhannol)
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Paragraffau 13 i 15
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Paragraffau 2, 3, 6, 8 (yn llawn), 9 i 12 ac 16 i 18
1 Medi 2003
2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 21 (yn rhannol)
1 Hydref 2002
2002/2439
(yn rhannol)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 22 (yn rhannol)
1 Hydref 2002
2002/2439
(yn rhannol)
9 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)
1 Medi 2003
2002/3185 (Cy.301)
Mae amryw o ddarpariaethau Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2002/2002 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2018, O.S. 2002/2439, O.S. 2002/2952, O.S. 2003/124 ac O.S. 2003/1115.