Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2003, ISBN 0110907507. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 62, 143(1) a 2 a (146)(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] a pharagraffau 1 a 3 o Atodlen 9 iddi ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2]: Enwi a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 10 Gorffennaf 2003. Cymhwyso a Dehongli 2. - (1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. (2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr y "Prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) 1989[3]. Diwygio'r Prif Reoliadau 3. Diwygir y Prif Reoliadau fel a ganlyn -
(ii) "(in which case the order shall be in the form specified as Form B in that Schedule, or a form to the like effect)";
(b) yn rheoliad 17(1) hepgorir ", and shall be in the form specified as Form C in Schedule 2, or in a form to the like effect"; a
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) 1989 (fel y'u diwygiwyd) (y "Rheoliadau") yn rhagnodi'r pwerau sydd gan awdurdodau lleol i gasglu ac adennill ardrethi annomestig. Yn benodol, mae rheoliadau 13(1) a 17(1) o'r Rheoliadau ac Atodlen 2 iddynt yn rhagnodi'r ffurflenni Gorchymyn Dyled a Gwarant Traddodi y mae'n rhaid i Lysoedd Ynadon eu defnyddio yn dilyn ceisiadau iddynt gan awdurdodau lleol ar gyfer gorchmynion neu warantau o'r fath. Mae Adran yr Arglwydd Ganghellor yn ddiweddar wedi gwneud arolwg o'r ffurflenni a ddefnyddir mewn Llysoedd Ynadon ac maent yn awr yn dymuno defnyddio set newydd o ffurflenni sydd i gyd i fod yn gyson o ran eu harddull. Fel rhan o'r broses hon, mae'n angenrheidiol anghymhwyso'r ffurf ar Orchymyn Dyled a Gwarant Traddodi a grybwyllir uchod. Mae'r Rheoliadau hyn yn dileu'r gofyniad ei bod yn rhaid i Lysoedd Ynadon ddefnyddio'r ffurf ar Orchymyn Dyled a Gwarant Traddodi penodedig neu ffurf sydd ag effaith tebyg mewn cysylltiad â chasglu ac adennill ardrethi annomestig. Notes: [1] 1988 p.41. Adran 143(2) fel y'i diwygiwyd gan adran 139 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42) a pharagraffau 72 a 79(3) o Atodlen 5 iddi. Paragraff 2 o Atodlen 9 i Ddeddf 1988 fel y'i diwygiwyd gan adran 117 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p.14) a pharagraff 87(1) o Atodlen 13 iddi ac adrannau 139 a 194(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42) a pharagraffau 1, 44(2) i (4) a 79(3) o Atodlen 5 a Rhan II o Atodlen 12 iddi. Paragraffau 3 a 4 o Atodlen 9 i Ddeddf 1988 fel y'i diwygiwyd gan adran 117(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14) a pharagraffau 87(2) a (3) o Atodlen 13 iddi.back [2] Gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back [3] O.S. 1989/1058. Diwygiwyd Rheoliad 13(1) o Reoliadau 1989 gan reoliad 7(3) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Amrywiol Ddarpariaethau) 1990 (O.S. 1990/145). Diwygiwyd Atodlen 2 o Reoliadau 1989 gan Erthygl 3 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol (Diddymiadau, Arbediadau a Diwygiadau Canlyniadol) 1993 (O.S. 1993/616) a Rhan II o Atodlen 2 iddi a rheoliad 3(2)(c) o Reoliadau Taliadau Cymunedol ac Ardrethu Annomestig (Amrywiol Ddarpariaethau) 1992 (O.S. 1992/474). Mae yna ddiwygiadau eraill i Reoliadau 1989 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
ISBN 0 11090750 7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 16 July 2003 |