Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi), Porthiant (Gorfodi) a Phorthiant (Sefydliadau a Chyfryngwyr) (Diwygio) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi), Porthiant (Gorfodi) a Phorthiant (Sefydliadau a Chyfryngwyr) (Diwygio) (Cymru) 2003, ISBN 0110907485. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 66(1), 75(1) 76(1), 77(4), 78(6), 79(1) a (2) ac 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970[1], ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol o dan adran 84(1) o'r Ddeddf honno ac o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop a gosod gweithdrefnau ynglyn â diogelwch bwyd[2], a chan ei fod wedi ei ddynodi[3] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno a grybwyllwyd ddiwethaf (i'r graddau na ellir gwneud y Rheoliadau hyn o dan y pwerau yn Neddf Amaethyddiaeth 1970 a nodir uchod), yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Teitl, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi), Porthiant (Gorfodi) a Phorthiant (Sefydliadau a Chyfryngwyr) (Diwygio) (Cymru) 2003a deuant i rym ar 14 Gorffennaf 2003. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Diwygio Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 2. Diwygir Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999[4] o ran Cymru yn unol â rheoliadau 3 i 7. 3. Yn rheoliad 1 (teitl, cychwyn a chymhwyso) yn lle paragraff (2) rhoddir y paragraff canlynol -
4.
Yn lle rheoliad 3 (modd o gymryd, paratoi, marcio, selio a chau samplau) rhoddir y rheoliad canlynol -
3. The manner in which samples of -
(b) feed materials to be sampled pursuant to Directive 2002/70/EC,
are to be taken, prepared, marked, sealed and fastened shall be as prescribed in Schedule 1."
5.
Yn rheoliad 6 (cymhwyso dulliau dadansoddi) -
(b) (in the case of the substances vitamin A and vitamin E) a premixture to be analysed pursuant to Commission Directive 2000/45/EC establishing Community methods of analysis for the determination of vitamin A, vitamin E and tryphophan in feeding stuffs[7]; or (c) (in the case of dioxins and dioxin-like PCBs) a feed material to be analysed pursuant to Directive 2002/70/EC,
and if it is what quantity or proportion of such substance is present or active in such a sample -
(e) in relation to a substance of a class or description listed (whether by itself or by reference to its activity) in column 1 of Annex I to Part II of that Schedule, the relevant method of analysis set out in the Community provision listed in the corresponding entry in column 2 of that Annex shall be used; and (f) in relation to a substance to which the method of analysis specified in Annex II or as the case may be III to Part II of that Schedule relates, that method shall be used.";
6.
Yn union ar ôl rheoliad 6 mewnosodir y rheoliad canlynol -
6A. For the purpose of determining whether dioxins or dioxin-like PCBs are present or active in a sample of a feeding stuff to be analysed pursuant to the Act or of a feed material to be analysed pursuant to Directive 2002/70/EC and if they are what quantity or proportion of dioxins or dioxin-like PCBs are present or active in such a sample -
"point 4 compliant laboratory" means a laboratory which complies with point 4 of Annex II to Commission Directive 2002/70/EC establishing requirements for the determination of levels of dioxins and dioxin-like PCBs in feeding stuffs;", (ii) in section 77(1)(a), for the words "the agricultural analyst for the inspector's area" there were substituted the words "a point 4 compliant laboratory", (iii) in each of sections 77(3) and 78(5), for the words "the agricultural analyst" there were substituted the words "a point 4 compliant laboratory", (iv) in section 77(4), for the words "The agricultural analyst shall analyse the part of a sample which is sent to him" there were substituted the words "A point 4 complaint laboratory shall analyse the part of a sample which is sent to it", (v) section 77(5) were omitted, (vi) in section 78(3), for the words "agricultural analyst's", in both places where they appear, there were substituted the words "point 4 compliant laboratory's", (vii) for section 79(4) and (5) there were substituted the following subsections -
(5) A certificate of analysis by an analyst at a point 4 compliant laboratory shall be signed by that analyst and a certificate of analysis by the Government Chemist shall be signed by him or a person authorised by him to sign the certificate.", and
(b) Part I of Schedule 3 shall have effect as if in the certificate set out there for the words "agricultural analyst for" there were substituted the words "analyst at the"; and
7.
Yn Atodlen 2 (dulliau dadansoddi), yn Atodiad I i Ran II, yn union ar ôl y darnau am "Carbonates" mewnosodir yng ngholofnau 1 i 3, yn yr un drefn, yr eitemau isod -
10.
Yn lle rheoliad 8 (addasu cyfeiriadau yn Rhan IV o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 at samplau sydd wedi'u cymryd yn y modd rhagnodedig) rhoddir y rheoliad canlynol -
8. References in Part IV of the Act to samples taken in the prescribed manner shall be taken to refer -
(b) in the case of products other than feeding stuffs, to samples taken in the manner prescribed in section 76(8) of the Act.".
11.
Yn rheoliad 10 (addasu adran 76 o Ddeddf Amaethyddiaeth1970) -
(b) yn lle'r fersiwn addasedig o is-adran (8) o adran 76 Deddf Amaethyddiaeth 1970 sydd wedi'i nodi yn y rheoliad hwnnw rhoddir yr is-adran ganlynol -
(ch) yn union ar ôl y fersiwn addasedig o adran (8) o adran 76 y Ddeddf honno fel y'i nodir yno mewnosodir yr is-adran ganlynol -
12.
Yn lle rheoliad 11 ac 11A (addasuadrannau 77(4) a 78(6) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970) rhoddir y rheoliadau canlynol -
11. For the purpose of the enforcement and administration of the Feeding Stuffs (Wales) Regulations 2001 as amended by the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) (Amendment) (Wales) Regulations 2001, the Feeding Stuffs and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2001, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002 and the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2003 analysis in relation to a sample of a product which falls to be inspected pursuant to Directive 95/53 but is not -
(b) a premixture to which Part A or Part B of Commission Directive 2002/45/EC establishing Community methods of analysis for the determination of vitamin A, vitamin E and tryphophan in feeding stuffs applies; or (c) a feed material to which Annex II to Commission Directive 2002/70/EC establishing requirements for the determination of levels of dioxins and dioxin-like PCBs in feeding stuffs applies,
shall be treated as carried out in the prescribed manner for the purposes of sections 77(4) and 78(6) of the Act if -
(e) where there is no such standard, analysis is carried out in accordance with any scientifically valid method the application of which does not contravene any general principle of the Treaty establishing the European Community.".
11A.
At ddibenion gorfodi a gweinyddu Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001 fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) (Diwygio) (Cymru) 2001, Rheoliadau Porthiant a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2001, Rheoliadau Porthiant (Diwygio) (Cymru) 2002 a Rheoliadau Porthiant (Diwygio) (Cymru) 2003 rhaid trin dadansoddi mewn perthynas â sampl o rag-gymysgedd y mae Rhan A neu Ran B o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2000/45/EC yn sefydlu dulliau dadansoddi Cymunedol ar gyfer penderfynu lefelau fitamin A, fitamin E a thryptoffan mewn porthiant yn gymwys iddo fel dadansoddi sydd wedi'i gyflawni yn y modd rhagnodedig at ddibenion adrannau 77(4) a 78(6) o'r Ddeddf os yw wedi'i gyflawni yn unol â pha un bynnag o'r Rhannau hynny sy'n gymwys yn yr achos o dan sylw.
13.
Yn rheoliad 12 (addasu adran 83 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970) hepgorir y geiriau "(as specified in regulation 7)".
(b) any material appearing to him to be a controlled product used, or intended to be used, for the purpose of animal feeding,
in the like manner as that prescribed in Part II of Schedule 1 to the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) Regulations 1999 as amended by the Feedingstuffs (Zootechnical Products) Regulations 1999, the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) (Amendment) (Wales) Regulations 2001, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002 and the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis), the Feeding Stuffs (Enforcement) and the Feeding Stuffs (Establishments and Intermediaries) (Amendment) (Wales) Regulations 2003 and as modified by the Feeding Stuffs (Wales) Regulations 2001; and paragraph 10 of Part II of Schedule 1 to those Regulations as so amended and modified shall have effect for the purposes of the certificate referred to in regulations 102 and 104(2).
(b) in paragraph 1 of Part II of Schedule 1 the expression ", except where section 68(2)(b) of the Act applies" were omitted.".
16.
Yn lle paragraffau (a) a (b) o reoliad 99 (rhannu samplau) rhoddir y paragraffau canlynol -
(b) send one part for analysis to the agricultural analyst for the area of the competent body which authorised the authorised person to carry out the official check in the course of which the sample was taken.".
17.
Yn lle paragraff (1) o reoliad 106 (dulliau dadansoddi) rhoddir y paragraff canlynol -
(b) to which the method of analysis specified in Annex II or as the case may be III to Part II of Schedule 2 to the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) Regulations 1999 as so amended and modified relates,
is present or active in it, or what quantity or proportion of such a substance is present or active in it, the provisions specified in Part I of Schedule 2 to those Regulations as so amended and modified, under the heading "GENERAL PROVISIONS" shall have effect, in the like manner as they have effect under those Regulations as so amended and modified in relation to feeding stuffs, and -
(d) in relation to a substance to which the method of analysis specified in Annex II or as the case may be III to Part II of Schedule 2 to those Regulations as so amended and modified relates, the method of analysis applicable to that substance shall be used,
and where more than one Community provision is specified in column 2 of Annex I to Part II of Schedule 2 to those Regulations as so amended and modified in relation to the same substance, the notes to that Annex shall have effect to specify which is the relevant method.".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) 1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 (O.S. 1999/1663, fel y'u diwygiwyd eisoes), Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999 (O.S. 1999/2325, fel y'u diwygiwyd eisoes) a Rheoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chyfryngwyr) 1999 (O.S. 1999/1872, fel y'u diwygiwyd eisoes) i'r graddau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. 2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/70/EC sy'n gosod gofynion ar gyfer penderfynu lefelau diocsinau a biffenylau polyclorinedig (PCBs) tebyg i ddiocsinau mewn porthiant (OJ Rhif L209, 6.8.2002, t.15). 3. Mae'r Rheoliadau -
(ii) yn lle'r hen reoliad 3 rhoi rheoliad 3 diwygiedig sy'n gwneud y gofynion o ran y modd rhagnodedig o gymryd a thrafod samplau, gofynion a oedd gynt yn gymwys i samplau porthiant yn unig, yn gymwys hefyd i ddeunyddiau bwyd i'w samplu yn unol â Chyfarwyddeb 2002/70/EC ac yn dileu'r cyfeiriad at baragraff 10 o Ran II o Atodlen 1 i Reoliadau 1999 (rheoliad 4), (iii) diwygio rheoliad 6 fel ei fod bellach yn cynnwys darpariaethau sydd, o'u darllen ynghyd â darpariaethau a ychwanegwyd gan y Rheoliadau at Atodlen 2 i Reoliadau 1999, yn pennu'r dull dadansoddi sydd i'w ddefnyddio i benderfynu a yw diocsinau a PCBs tebyg i ddiocsinau yn bresennol neu'n actif mewn sampl o borthiant neu ddeunydd bwyd sydd i'w ddadansoddi yn unol â Chyfarwyddeb 2002/70/EC (ac os felly faint neu ba gyfran ohono) ac yn cymhwyso i'r penderfyniad hwnnw ddarpariaethau penodedig yn Rhan I o Atodlen 2 i Reoliadau 1999 (rheoliadau 5 a 7), a (iv) addasu Rhan IV o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 (1970 p.40, "Deddf 1970") yn y fath fodd ag i ddarparu, er mwyn penderfynu a yw diocsinau a PCBs tebyg i ddiocsinau yn bresennol neu'n actif mewn sampl o borthiant neu ddeunydd bwyd sydd i'w ddadansoddi yn unol â Chyfarwyddeb 2002/70/EC (ac os felly faint neu ba gyfran ohono), fod y sampl i'w gyflwyno i labordy sy'n bodloni gofynion penodedig y Gyfarwyddeb honno ac i'w ddadansoddi gan y labordy hwnnw; a chymhwyso i'r penderfyniad hwnnw ddarpariaethau penodedig yn Rhannau I a II o Atodlen 3 i Reoliadau 1999 (rheoliad 6), a
(b) yn diwygio Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999 drwy -
(ii) gwneud diwygiadau canlyniadol i'r Rheoliadau hynny (rheoliadau 10 ac 11(a) a (b)); (iii) darparu bod samplau sydd wedi'u cymryd yn unol ag adran 76 o Ddeddf 1970 (fel y'i addaswyd at ddibenion y Rheoliadau hynny) i'w hystyried yn samplau sydd wedi'u cymryd yn y modd rhagnodedig at ddibenion Rhan IV o'r Ddeddf honno (rheoliad 11(c)); (iv) addasu ymhellach adran 76(9) o Ddeddf 1970 fel y'i haddaswyd at ddibenion y Rheoliadau hynny drwy fewnosod ynddi gyfeiriad at adran 76(10) fel y'i haddaswyd felly (rheoliad 11 (ch)); (v) rhoi rheoliadau diwygiedig 11 ac 11A (sy'n ymwneud â dadansoddi at ddibenion adrannau 77(4) a 78(6) o Ddeddf 1970) yn lle'r hen reoliadau 11 ac 11A, a'r cyntaf o'r rhain yn cael ei ddiwygio i gynnwys cyfeiriad at ddeunyddiau bwyd y mae Atodiad II i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/70/EC yn gymwys iddynt a'r ail yn cael ei ailddeddfu gyda gwelliannau drafftio (rheoliad 12); a (vi) mewnosod rheoliad 11B newydd, sy'n pennu o dan ba amgylchiadau, at ddibenion gorfodi Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001 y mae dadansoddi mewn perthynas â samplau o ddeunyddiau bwyd y mae Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/70/EC yn gymwys iddynt i'w drin fel dadansoddi sydd wedi'i gyflawni yn y modd penodedig at ddibenion adrannau 74(4) a 78(6) o ddeddf 1970 (rheoliad 12); ac
(c) yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chyfryngwyr) 1999 (rheoliadau 14 i 17).
4.
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn ac mae copi wedi'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi sy'n nodi sut mae prif elfennau Cyfarwyddeb 2002/70/EC yn cael eu trosi i'r gyfraith ddomestig drwy'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth Uned Bwyd Anifeiliaid yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Caerdydd CF10 1EN. Notes: [1] 1970 p. 40. Yn adran 66(1) ceir diffiniadau'r ymadroddion "the Ministers", "prescribed" a "regulations". Diwygiwyd diffiniad "the Ministers" gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), Atodlen 5, paragraff 1. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidogion "the Ministers", i'r graddau y maent yn arferadwy mewn cysylltiad â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672.back [2] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. O dan Erthygl 3 o Reoliad (EC) 178/2002 mae cyfraith bwyd, "food law", yn ymestyn i borthiant a gynhyrchir ar gyfer, neu a roddir i, anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd.back [4] O.S. 1999/1663, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1999/1871, O.S. 2001/343 (Cy. 15), O.S. 2001/2253 (Cy. 163) ac O.S. 2002/1797 (Cy. 172).back [5] OJ No. L162, 15.4.76, t.1.back [6] OJ No. L209, 6.8.2002, t.15.back [7] OJ Rhif L174, 13.7.2000, t.32.back [8] O.S. 1999/2325. Wedi'i addasu gan O.S. 2000/656 a'i ddiwygio gan O.S. 2001/2253 (Cy. 163), O.S. 2001/3461 (Cy. 280), O.S. 2002/1797 (Cy. 172) a 2003/ .back [9] O.S. 1999/1871 (y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn).back [10] O.S. 1999/1872, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2000/656, O.S. 2001/2253 (Cy. 163), O.S. 2002/1797 (Cy. 172) ac O.S. 2003/989 (Cy. 138).back
ISBN 0 11090748 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 11 July 2003 |