Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.
Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.
Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.
Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2003, ISBN 0110907477. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.
I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 1635 (Cy.177)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud
24 Mehefin 2003
Yn dod i rym
30 Mehefin 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(e) ac (f), 17(2), 26(3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1], ac a freiniwyd ynddo bellach[2], gan ei fod wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac wedi ymgynghori fel y mae'n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a'r Cyngor[3] ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Teitl, cychwyn a chymhwyso 1.
Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 30 Mehefin 2003 a byddant yn gymwys i Gymru yn unig.
ystyr "Rheoliad 104/2000" ("Regulation 104/2000") yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 104/2000 ar gyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion pysgodfeydd a chynhyrchion dyframaethu[4]);
ystyr "Rheoliad 2065/2001" ("Regulation 2065/2001") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2065/2001 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 104/2000 ynghylch hysbysu defnyddwyr ynglyn â chynhyrchion pysgodfeydd a chynhyrchion dyframaethu[5];
ac mae i unrhyw ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yn Rheoliad 104/2000 neu Reoliad 2065/2001 yr un ystyr ag sydd iddynt yn y Rheoliadau hynny.
Tramgwyddau sy'n ymwneud â hysbysu defnyddwyr 3.
- (1) Bydd unrhyw berson sydd, yn groes i Erthygl 4.1 o Reoliad 104/2000 (gwybodaeth i ddefnyddwyr) o'i darllen ynghyd â rheoliad 2065/2001, yn cynnig ar gyfer eu hadwerthu i'r defnyddiwr terfynol unrhyw un o'r cynhyrchion y mae'r Erthygl honno yn gymwys iddynt yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(2) Bydd person sydd yn methu â chydymffurfio ag Erthygl 8 o Reoliad 2065/2001 (olrhain a rheoli) yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
Rhestrau o ddynodiadau masnachol 4.
- (1) O ran Cymru, y rhestr o ddynodiadau masnachol y mae'n ofynnol i'r Deyrnas Unedig ei llunio a'i chyhoeddi o dan Erthygl 4(2) o Reoliad 104/2000 yw'r un a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, ac yn unol â hynny, y dynodiadau masnachol a nodir yn yr Atodlen honno yw'r enwau a ragnodwyd gan y gyfraith at ddibenion rheoliadau 6(1), 7 ac 8(a) o Reoliadau Labelu Bwyd 1996[6].
(2) Mewn perthynas â rhywogaeth a gynhwysir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn ac mewn rhestr a gyhoeddwyd yn Saesneg o dan Erthygl 4(2) o Reoliad 104/2000 yn effeithiol mewn Aelod-wladwriaeth arall neu mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig, bydd y dynodiad masnachol ar gyfer y rhywogaeth honno yn y rhestr sy'n effeithiol yn yr Aelod-wladwriaeth arall honno neu'r rhan honno o'r Deyrnas Unedig yn un amgen i'r dynodiad masnachol ar gyfer y rhywogaeth honno a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Hepgor cyfeirio at y dull cynhyrchu 5.
Yn yr achos a ddisgrifir yn erthygl 4.2 o Reoliad 2065/2001 (sefyllfa lle mae'n amlwg oddi wrth y dynodiad masnachol a chylch yr haldiad fod y rhywogaeth yn cael ei dal yn y môr) ni fydd yn groes i Erthygl 4.1 o Reoliad 104/2000 i gynnig ar gyfer ei adwerthu i'r defnyddiwr terfynol gynnyrch pysgodfeydd y mae'r Erthygl honno yn gymwys iddo heb fod y cynnyrch wedi'i farcio neu wedi'i labelu â'r dull cynhyrchu.
Meintiau bach o gynhyrchion 6.
- (1) At ddibenion Erthygl 4(1) o Reoliad 104/2000 o'i darllen ynghyd ag Erthygl 7 o Reoliad 2065/2001, rhaid i'r meintiau bach o gynhyrchion y caniateir eu gwerthu'n uniongyrchol i ddefnyddwyr fod yn gynhyrchion na fydd eu gwerth yn uwch nag 20 Ewro am bob pryniant.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, bernir bod y cyfeiriad at 20 Ewro yn gyfeiriad at werth cyfatebol y nifer hwnnw o Ewros mewn sterling, wedi'u trosi drwy gyfeirio at y gyfradd drosi a gyhoeddir yn flynyddol ar ddiwrnod gwaith cyntaf y mis Medi blaenorol yng nghyfres C o Gyfnodolyn Swyddogol y Cymunedau Ewropeaidd neu, os na chyhoeddir cyfradd ynddo ar y diwrnod hwnnw, y gyfradd a gyhoeddir ynddo gyntaf ar ôl hynny.
Gwybodaeth ychwanegol sy'n ymwneud â chylch yr haldiad 7.
Caiff y mynegiad o gylch yr haldiad sy'n ofynnol o dan Erthygl 4(1)(c) o Reoliad 104/2000, os yw'r amgylchiadau a ddisgrifir yn Erthygl 5(1)(c) o Reoliad 2065/2001 yn gymwys, fynegi'r amryw Aelod-wladwriaethau neu drydydd gwledydd y cafodd y cynnyrch ei ffermio ynddynt.
Dynodiadau Masnachol Dros Dro 8.
- (1) At ddibenion Erthygl 2 o Reoliad 2065/2001 (dynodiadau masnachol dros dro), yr Asiantaeth Safonau Bwyd ("yr Asiantaeth") fydd yr awdurdod cymwys.
(2) Rhaid i'r Asiantaeth lunio a chyhoeddi rhestr o ddynodiadau masnachol dros dro yn unol â'r Erthygl 2 a enwyd.
Gorfodi 9.
Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.
Cymhwyso amryw ddarpariaethau'r Ddeddf 10.
Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad y dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran o'r Ddeddf yn gyfeiriad at y Rheoliadau hyn ac at y darpariaethau hynny yn Rheoliad 104/2000 a Rheoliad 2065/2001 y mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â hwy -
(a) adran 3 (rhagdybiaeth bod bwyd wedi'i fwriadu i bobl ei fwyta);
(b) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(c) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y bo'n gymwys at ddibenion adran 8, 14 neu 15;
(ch) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(d) adran 32 o'r Ddeddf (pwerau mynediad);
(dd) adran 33(1) (rhwystro swyddogion etc.);
(e) adran 33(2) gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at "any such requirement as is mentioned in subsection (1) (b) above" yn gyfeiriad at urhyw ofyniad o'r fath a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y cymhwysir hi gan is-baragraff (dd) uchod;
(f) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y cymhwysir hi gan is-baragraff (dd) uchod;
(ff) adran 35(2) a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y cymhwysir hi gan is-baragraff (e) uchod;
(g) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);
(ng) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
Dirymu 11.
Dirymir paragraff 1 o Atodlen 1 i Reoliadau Labelu Bwyd 1996 (enwau rhagnodedig pysgod a physgod cregyn) i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7]
1.
- (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3) o'r paragraff hwn, y dynodiad masnachol ar gyfer unrhyw rywogaeth o bysgod a bennir yng ngholofn 2 o'r Tabl canlynol fydd enw a bennir ar gyfer y rhywogaeth honno yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 1 o'r Tabl a enwyd.
(2) Caniateir defnyddio enw arferol ar gyfer unrhyw rywogaeth o bysgod sydd wedi cael ei mygu neu gael ei rhoi drwy broses debyg, onid yw enw'r rhywogaeth yng ngholofn 2 o'r Tabl canlynol yn cael ei ddilyn gan seren. Mewn achosion o'r fath rhaid i'r enw a ddefnyddir ar gyfer y bwyd pan gaiff y pysgod eu mygu fod naill ai -
(a) yn enw a bennir ar gyfer y rhywogaeth honno yng ngholofn 1 o'r Tabl a enwyd gyda'r gair "smoked" o'i flaen; neu
(b) ac eithrio yn achos Salmo Salar (L.), "smoked Pacific salmon".
(3) Ni fydd is-baragraff (1) o'r paragraff hwn, o'i ddarllen ynghyd â'r Tabl canlynol, yn gymwys i bysgod a reoleiddir gan Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2136/89[8] sy'n gosod safonau marchnata cyffredin ar gyfer sardîns wedi'u preserfio, neu Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1536/92[9] sy'n gosod safonau marchnata cyffredin ar gyfer tiwna a bonito wedi'u preserfio.
(i) Column 1
(ii) Column 2
Commercial designation
Species of fish
(3) Sea Fish
Anchovy
All species of the family Engraulidae
Barracuda
All species of Sphyraena
Barramundi
(a)Lates calcarifer
Bass or Sea bass
Dicentrarchus labrax (L.)
Japanese sea bass
Lateolabrax japonicus
Spotted sea bass
Dicentrarchus punctatus
Southern rock bass
Paralabrax callaensis
Bigeye
All species of Priacanthus
Bluefish or Tailor
Pomatomus saltatrix
Bogue
Boops boops
Bonito
All species of Sarda
All species of Euthynnus, with the exception of Euthynnus (Katsuwonus) pelamis
All species of Auxis
Brill
Scophthalmus rhombus (L.)
Brisling
Sprattus sprattus (L.) when canned
Catfish or Rockfish or Wolffish
All species of Anarhichas
Cobia
Rachycentron canadum
Cod or Codling
Gadus morhua
Pacific cod or Cod
Gadus macrocephalus
Greenland cod or Cod
Gadus ogac
Saffron cod
Eleginus gracilis
Red cod
Pseudophycis bachus
Blue cod
Parapercis colias
Coley or Saithe or Coalfish
Pollachius virens (L.)
Conger
All species of Conger
Croaker or Drum or Jewfish
All species of the family Sciaenidae
Dab
Limanda limanda (L.)
Yellowtail dab
Limanda ferruginea
Pacific sand dab
(ii) Citharichthys sordidus
Dogfish or Flake or Huss or Rigg or Rock Salmon or Rock Eel
All species of Galeorhinus
All species of Mustelus
All species of Scyliorhinus
Galeus melastomus Rafin.
Squalus acanthias (L.)
Dory or John Dory or St Peter's fish
Zeus faber (L.)
Eel
All species of Anguilla
Emperor
All species of Lethrinus
Escolar or Snake Mackerel
(iii) All species of the family Gempylidae
Flounder
Platichthys flesus (L.)
Flying fish
All species of the family Exocoetidae
Greenling
(a) Ophiodon elongatus
Grouper
All species of Mycteroperca
All species of Epinephelus
Gurnard
All species of the family Triglidae
Peristedion cataphractum (L.)
Haddock
Melanogrammus aeglefinus (L.)
Hake
All species of Merluccius
Alternatively, the following may be used
Cape hake
(iv) Merluccius capensis
Merluccius paradoxus
White hake
Urophycis tenuis
Halibut
Hippoglossus hippoglossus (L.)
Hippoglossus stenolepis
Black halibut or Mock halibut
Reinhardtius hippoglossoides (Walbaum)
Herring
Clupea harengus (L.)
Hilsa
2.Tenualosa ilisha
Hoki
Macruronus novaezelandiae
Chilean hoki
Macruronus magellanicus
Jack or Scad or Horse Mackerel or Trevally
All species of Caranx
All species of Hemicaranx
All species of Seriola
All species of Trachurus
All species of Decapterus
Kingklip
(ii) Genypterus capensis
Ladyfish
All species of the family Elopidae
Ling
All species of Molva
Lumpfish or Lumpsucker
Cyclopterus lumpus
Mackerel
All species of Scomber
King Mackerel or Kingfish
Scomberomorus cavalla
Mahi Mahi
(iii) Coryphaena hippurus
Marlin
All species of Makaira
Megrim
All species of Lepidorhombus
Milkfish
Chanos chanos
Monk(fish) or Angler(fish)
Lophius piscatorius (L.)
(aa) Lophius americanus
Cape monk(fish) or Cape angler(fish)
(a) Lophius vomerinus
Red mullet
(iv) All species of Mullus
Goatfish
All other species of the family Mullidae
Grey mullet
All species of Mugil
All species of Liza
All species of Chelon
Opah or Moonfish
All species of Lampris
Orange roughy
(v) Hoplostethus atlanticus
Parrotfish
All species of the family Scaridae
Picarel
Spicara smaris
Pilchard
Sardina pilchardus (Walbaum)
Pacific pilchard
Sardinops sagax that has been caught in the Pacific Ocean.
South Atlantic pilchard
Sardinops sagax that has been caught in the South Atlantic Ocean.
Plaice
Pleuronectes platessa (L.)
American plaice
Hippoglossoides platessoides (Fabr.)
Pollack or Pollock or Lythe
Pollachius pollachius (L.)
Pacific pollack or Pacific pollock or Alaska pollack or Alaska pollock
Theragra chalcogramma (Pallas)
Pomfret or Butterfish
All species of Brama
All species of Stromateus
All species of Pampus
Poor cod
(vi) Trisopterus minutus
Pout or Pout Whiting or Pouting or Bib
Trisopterus luscus
Rainbow runner
(vii) Elagatis bipinnulata
Redfish or Ocean perch or Rose fish
All species of Sebastes
All species of Helicolenus
Sablefish
3.Anoplopoma fimbria
Sailfish
All species of Istiophorus
Sardine
Small Sardina pilchardus (Walbaum)
Sardinella
All species of Sardinella
Scabbard fish or Sabre or Sabre fish or Silver sabre or Black sabre
Lepidopus caudatus
Aphanopus carbo
Sea bream or Porgy
All species of the family Sparidae except Boops boops
Sild
Small Clupea harengus (L.), when canned
Small Sprattus sprattus (L.), when canned
Skate or Ray or Roker
All species of Raja
Smelt or Sparling
All species of Osmerus
Snapper
All species of the family Lutjanidae
Alternatively, the following may be used
Jobfish
All species of Aphareus
All species of Aprion
All species of Pristipomoides
Snook
All species of Centropomus
Sole or Dover sole
Solea solea (L.)
Butter sole
Isopsetta isolepis
Californian sole
Parophrys vetulus
Lemon sole
Microstomus kitt (Walbaum)
Petrale sole
Eopsetta jordani
Rex sole or Long-finned sole
Glyptocephalus zachirus
Rock sole
Lepidopsetta bilineata
Pacific sole
Microstomus pacificus
Torbay sole or Witch
Glyptocephalus cynoglossus (L.)
Sprat
Sprattus sprattus (L.), except when canned
Swordfish
Xiphias gladius
Tarpon
All species of the family Megalopidae
Threadfin bream
All species of Nemipterus
Toothfish or Icefish
Dissostichus mawsoni
Dissostichus eleginoides
Tuna or Tunny
All species of Thunnus
Skipjack tuna (or tuna)
Katsuwonus pelamis
Albacore tuna (or tuna)
Thunnus alalunga
Yellowfin tuna (or tuna)
Thunnus albacares
Bluefin tuna (or tuna)
Thunnus thynnus
Bigeye tuna (or tuna)
Thunnus obesus
Turbot
Psetta maxima
Wahoo
(ii) Acanthocybium solandri
Whitebait
Small Clupea harengus (L.)
Small Sprattus sprattus (L.)(except when canned)
Whiting
Merlangius merlangus (L.)
Blue whiting
Micromesistius poutassou (Risso)
Southern blue whiting
Micromesistius australis
Winter flounder
Pseudopleuronectes americanus (Walbaum)
4.
(a) Salmon and Freshwater Fish
Bacha
Eutropiichthys vacha
Batashi
Pseudeutropius atherinoides
Carp
All species of the family Cyprinidae
Alternatively the following may be used
Mowrala
Amblypharyngodon mola
Banspata
Danio devario
Bata
Labeo bata
Kalibous
Labeo calbasu
Ghania
Labeo gonius
Ruhi
Labeo rohita
Punti
Puntius sarana
Chelapata
Salmostoma bacaila
Catfish or American catfish or Channel catfish
All species of the family Ictaluridae
Catfish
All species of the family Clariidae
All species of the family Siluridae
All species of the family Bagridae
Alternatively the following may be used
Magur
(i) Clarias batrachus
Gulsha
Mystus bleekeri
Buzuri
Mystus tengara
Tengra
Mystus vittatus
Pabda
Ompok pabda
Ayre
Sperata aor
Boal
Wallago attu
Chapila
Gudusia chapra
Char
All species of Salvelinus
Kakila
Xenentodon cancila
Keski
Corica soborna
Khalisha
Colisa fasciatus
Koi
Anabas testudineus
Largebaim
Mastacembelus armatus
Meni
Nandus nandus
Nile Perch
(ii) Lates niloticus
Pacific dory or Vietnamese sole
(aa) Pangasius bocourti
Patabaim
Macrognathus aculeatus
Queen fish
Botia dario
(b)River cobbler
(iii) Pangasius micronemus
(iv) Pangasius hypophthalmus
Salmon or Atlantic salmon
Salmo salar (L.)*
Cherry salmon or Pacific salmon
Oncorhynchus masou*
Chum salmon or Keta salmon
Oncorhynchus keta (Walbaum)*
Medium red salmon or Coho salmon or Silver salmon
Oncorhynchus kisutch (Walbaum)*
Pink salmon
Oncorhynchus gorbuscha (Walbaum)*
Red salmon or Sockeye salmon
Oncorhynchus nerka (Walbaum)*
Spring salmon or King salmon or Chinook salmon or Pacific salmon
Oncorhynchus tshawytscha (Walbaum)*
Shol
Channa striata
Taki
Channa punctata
Tilapia
All species of TilapiaAll species of Oreochromis
Trout or Brown trout
Salmo trutta (L.) which has spent all of its life in fresh water
Sea trout or Salmon trout
Salmo trutta (L.) which has spent part of its life in sea water
Cut-throat trout or trout
Oncorhynchus clarki
Rainbow trout or Steelhead trout or trout
Oncorhynchus mykiss
(b)
(c) Shellfish
Abalone or Ormer
All species of Haliotis
Clam or Hard shell clam
Mercenaria mercenaria (L.)
Venus verrucosa (L.)
Clam or Razor clam
All species of Ensis and Solen
Geoduck or Geoduck clam
(b)Panopea abrupta
Surf clam
All species of Spisula
Cockle
All species of Cerastoderma
Crab
All species of the order Brachyura
All species of the family Lithodidae
Crayfish
All species of the family Astacidae
All species of the family Parastacidae
All species of the family Austroastacidae
All species of the family Cambaridae
Cuttlefish
All species of Sepia
Rossia macrosoma
Lobster
All species of Homarus
Slipper lobster
All species of the family Scyllaridae
Squat lobster
All species of the family Galatheidae
Crawfish or Spiny lobster or Rock lobster
All species of Panulirus
All species of Palinurus
All species of Jasus
Indian ocean lobster
Puerulus sewelli
Mussel
All species of the family Mytilidae
Octopus
All species of Octopus
Oyster
All species of Crassostrea
All species of Ostrea
Oyster or Portuguese oyster
Crassostrea angulata (Lmk.)
Oyster or Pacific oyster or Rock oyster
Crassostrea gigas (Thunberg)
Oyster or Native oyster
Ostrea edulis (L.)
Prawn or Shrimp
Whole fish (of a size which, when cooked, have a count of less than 397 per kg) or tails (of a size which, when peeled and cooked, have a count of less than 1,323 per kg) of -
all species of the family Palaemonidae,
all species of the family Penaeidae, and
all species of the family Pandalidae
All species of the family Palaemonidae
All species of the family Penaeidae
Where the count is less than
123 per kg (head on/shell on) or less than
King prawn
198 per kg (head off/shell on) or less than 242 per kg
(head off/shell off)
(ii) Penaeus monodon
Penaeus semisulcatus
(iii) Penaeus esculentus
Penaeus kerathurus
Tiger prawn
(aa) Penaeus japonicus
(bb) Parapenaeopsis hardwickii
(a)Parapenaeopsis sculptilis
Scallop or King scallop
(iv) Pecten maximus
Atlantic scallop or Scallop
Placopecten magellanicus
Queen scallop or Queen or Scallop
Chlamys (Aequipecten) opercularis
Scallop or Common scallop
All species of the family Pectinidae
Scampi or Norway lobster or Dublin Bay prawn or Langoustine
Nephrops norvegicus (L.)
Pacific scampi
Metanephrops andamanicus
Metanephrops challengeri
Metanephrops thomsoni
Shrimp
Whole fish (of a size which, when cooked, have a count of 397 per kg or more) or tails (of a size which, when peeled and cooked, have a count of 1,323 per kg or more) of -
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Teitl 1, Pennod 2 o Reoliad y Cyngor (EC) 104/2000 ar gyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion pysgodfeydd a chynhyrchion dyframaethu fel y'i cymhwysir i Reoliad y Comisiwn (EC) 2065/2001 sy'n gosod rheolau manwl ar gymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) 104/2000 ynglyn â hysbysu defnyddwyr ynghylch cynhyrchion pysgodfeydd a chynhyrchion dyframaethu
Mae Teitl 1 o Bennod 2 o Reoliad y Cyngor (EC) 104/2000 yn gosod gofynion ynghylch darparu gwybodaeth am ddynodiad masnachol, dull cynhyrchu a chylch haldiad cynhyrchion pysgodfeydd a chynhyrchion dyframaethu penodol sy'n cael eu cynnig ar gyfer eu hadwerthu i'r defnyddiwr terfynol. Mae'n darparu ymhellach fod Aelod-wladwriaethau i fod i lunio a chyhoeddi rhestr o ddynodiadau masnachol ar gyfer o leiaf y rhywogaethau a restrir yn Atodiadau I i IV o'r Rheoliad. Mae Rheoliad y Comisiwn (EC) 2065/2001 yn disgrifio'n fanylach yr wybodaeth sydd i'w darparu i ddefnyddwyr a'r esemptiadau y ceir eu caniatáu. Mae'n darparu hefyd ynglyn â'r wybodaeth angenrheidiol sydd i'w darparu ym mhob rhan o'r broses farchnata.
Mae'r Rheoliadau hyn -
- yn darparu rhestr, mewn perthynas â Chymru, o'r dynodiadau masnachol y mae'n ofynnol i'r Deyrnas Unedig eu llunio (rheoliad 4 a'r Atodlen) ac yn darparu ymhellach ar gyfer caniatáu dynodiadau masnachol dros dro (rheoliad 8);
- yn gwneud darpariaeth ynghylch llacio'r gofynion o dan amgylchiadau penodol mewn perthynas â gwybodaeth am y dull cynhyrchu (rheoliad 5); yn achos pysgotwyr neu gynhyrchwyr dyframaethu yn gwerthu meintiau bach yn uniongyrchol i ddefnyddwyr (rheoliad 6) ac mewn perthynas â chynnwys gwybodaeth ychwanegol am gylch yr haldiad (rheoliad 7);
- yn creu tramgwyddau ac yn rhagnodi cosbau (rheoliad 3), yn pennu awdurdodau gorfodi (rheoliad 9) ac yn ymgorffori darpariaethau penodedig Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 10);
- yn dirymu'r gofynion labelu pysgod a nodir ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i Reoliadau Labelu Bwyd 1996 mewn perthynas â Cymru (rheoliad 11).
Mae arfarniad rheoliadol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn ac wedi'i adneuo yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau o'r Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.