Rheoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor (Cymru) (Diwygio) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor (Cymru) (Diwygio) 2003, ISBN 0110907469. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 9(2), 9(3) a 9(5) o Ddeddf Mabwysiadu 1976[1] a phob p er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw.Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor (Cymru) (Diwygio) 2003. (2) Mae'r rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Mehefin 2003. (3) ystyr "y prif Reoliadau" ("the Principal Regulations") yw Rheoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor (Cymru) 2001[2]. (4) Mae'r rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Diwygio'r Prif Reoliadau 2. - (1) Yn rheoliad 2 o'r Prif Reoliadau (Dehongli) tynnir y cyfeiriad at "Rheoliadau 2001" a'r diffiniad. (2) Yn rheoliad 3(1)(a) o'r Prif Reoliadau (Dyletswyddau asiantaeth fabwysiadu a swyddogaethau panel mabwysiadu mewn perthynas â darpar fabwysiadydd), tynnir y geiriau "rheoliad 3(2)(a) o Reoliadau 2001" a rhoi yn eu lle y geiriau "rheoliadau a wnaed o dan adran 56A o Ddeddf Mabwysiadu 1976[3]". Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4] D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 24 Mehefin 2003 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiadau i Reoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor (Cymru) 2001 ("Rheoliadau Cymru") i adlewyrchu newidiadau arfaethedig i adran 56A o Ddeddf Mabwysiadu 1976 pan ddaw'r rhannau perthnasol o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 i rym. Effaith y newidiadau hynny yw bod Rheoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor 2001, y mae Rheoliadau Cymru 2001 yn cyfeirio atynt, yn peidio â bod yn effeithiol. Mae'r rheoliadau hyn yn tynnu'r cyfeiriad hwnnw a rhoi yn ei le gyfeiriad at reoliadau a wnaed o dan adran 56A o Ddeddf Mabwysiadu 1976. Notes: [1] 1976 p.36 ("Deddf 1976"). Mae swyddogaethau'r Gwasanaeth Mabwysiadu sydd wedi eu nodi yn adran 1 o Ddeddf 1976, y mae'r pwerau o dan adran 9(2) a (3) yn cael eu harfer mewn perthynas â hwy, wedi eu diwygio gan adran 9 o Ddeddf Mabwysiadu (Agweddau Rhyngwladol) 1999 (p.18) ("Deddf 1999").back [2] O.S. 2001/1272 (Cy.71).back [3] 1976 p. 36. Mewnosodwyd adran 56A gan adran 14 o Ddeddf Mabwysiadu (Agweddau Rhyngwladol) 1999 (p.18). Bydd rheoliadau 2001, a wnaed o dan adran 56A, yn peidio â bod yn effeithiol o'r diwrnod pan ddaw i rym adran 56A newydd a gaiff eu cyflwyno gan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p. 38).back
ISBN 0 11090746 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 2 July 2003 |