Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 2) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 2) 2003, ISBN 0110907450. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 7, 37, 87(2) a (5) ac 88(2) a (4) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[1], yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi, cychwyn, cymhwyso ac estyn diffiniadau 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 2) 2003 a daw i rym ar 5 Mehefin 2003. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru. (3) At ddibenion Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 o'i chymhwyso at y Gorchymyn hwn -
(b) mae'r diffiniadau o glefyd yn is-adrannau (1) a (3) o adran 88 o'r Ddeddf honno yn cael eu hestyn i gynnwys pob clefyd sy'n effeithio ar anifeiliaid a dofednod.
Dehongli
(2) Rhaid i unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig. Gellir ei wneud yn ddarostyngedig i amodau a gellir ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu unrhyw bryd mewn ysgrifen.
(b) colomennod rasio; ac (c) yr anifeiliaid canlynol, os cânt eu magu neu eu cadw mewn caethiwed ar gyfer bridio, cynhyrchu cig neu wyau i'w bwyta, neu er mwyn ailstocio cyflenwadau adar hela: ffowls domestig, tyrcwn, gwyddau, hwyaid, ieir gini, soflieir, colomennod, ffesantod, petris ac adar di-gêl,
ac mae'n rhaid i gyfeiriadau yn yr erthygl hon at "anifail" gael eu dehongli yn unol â hynny.
(b) pob aderyn nas cynhwysir yn erthygl 3; ac (c) anifeiliaid ac adar a bennir yn erthygl 3 yn yr amgylchiadau a nodir yn Atodlen 1,
ac mae'n rhaid i gyfeiriadau yn yr erthygl hon at "anifail" gael eu dehongli yn unol â hynny.
(b) anifail unigol sy'n mynd gyda pherson sy'n gyfrifol am yr anifail yn ystod y daith; neu (c) cludo anifeiliaid anwes sy'n mynd gyda'u perchenogion ar daith breifat.
(3) Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo anifeiliaid, neu beri neu ganiatáu i anifeiliaid gael eu cludo, os yw'r erthygl hon yn gymwys, sicrhau -
(b) bod anifeiliaid marw, sarn (llaesodr) fudr a charthion yn cael eu symud ymaith cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
(4) Rhaid gwneud y glanhau a'r diheintio o dan yr erthygl hon yn unol â pharagraffau 1, 3 a 4 o Atodlen 2.
(b) yn cael eu trin fel bod y perygl o drosglwyddo clefyd yn cael ei ddileu; neu (c) yn cael eu gwaredu fel nad oes modd i anifeiliaid fynd atynt.
(2) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw ddeunydd y mae gofyn ei waredu o dan Orchymyn Sgil-Gynhyrchion Anifeiliaid 1999[2].
(b) ag angen ei lanhau a'i ddiheintio oherwydd y gallai beri perygl o drosglwyddo clefyd,
caiff gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson sydd i'w weld ganddo yn gyfrifol am y cyfrwng cludo neu'r cyfarpar hwnnw.
(b) gwahardd cadw anifeiliaid ar y cyfrwng cludo nes iddo gael ei lanhau a'i ddiheintio; (c) ei gwneud yn ofynnol i'r person y cyflwynir yr hysbysiad iddo lanhau a diheintio'r cyfrwng cludo neu'r cyfarpar o fewn unrhyw gyfnod a bennir yn yr hysbysiad; neu (ch) ei gwneud yn ofynnol i'r person y cyflwynir yr hysbysiad iddo gael gwared ar yr holl borthiant y mae anifeiliaid wedi cael mynd ato, y sarn (llaesodr), y carthion a deunyddiau eraill sy'n tarddu o anifeiliaid yn y modd a bennir yn yr hysbysiad.
(3) Os cyflwynir hysbysiad o dan y paragraff blaenorol, rhaid gwneud y glanhau a'r diheintio yn unol ag Atodlen 2 onid yw'r hysbysiad yn pennu dull arall o lanhau a diheintio. Teithio o fewn un fenter ffermio 1. Erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, sy'n gymwys os yw'r daith wedi ei gwneud o fewn un fenter ffermio sydd o dan un berchnogaeth. Cludo ceffylau penodol 2. Erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, sy'n gymwys mewn cysylltiad â chludo -
(b) ceffylau a gedwir mewn stablau a drwyddedir gan Glwb y Jocis yn ôl ac ymlaen i gyfarfodydd rasio, neu yn ôl ac ymlaen i fan lle mae ceffylau sy'n cael eu cadw yn y stablau hynny yn cael eu hyfforddi i rasio.
Teithio rhwng yr un dau bwynt
(b) yn achos anifail carnog sydd wedi cymryd rhan mewn digwyddiad gyda'r hwyr, neu un sy'n parhau gyda'r hwyr, ar y diwrnod dan sylw, os yw'r daith olaf yn dechrau cyn gynted ag yw'n ymarferol ar ôl diwedd y digwyddiad hwnnw, p'un a yw'n dechrau cyn canol nos ai peidio.
(3) Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys i deithiau rhwng dwy farchnad.
(b) nad yw'r cyfrwng cludo yn ymadael â'r sioe cyn y daith yn ôl; (c) mai'r anifeiliaid a gludwyd i'r sioe yw'r unig anifeiliaid ar y cyfrwng cludo pan yw yn y sioe; (ch) nad yw'r cyfrwng cludo ar y daith yn ôl ond yn cludo'r anifeiliaid a gludasai i'r sioe; a (d) bod y cyfrwng cludo yn dychwelyd o'r sioe yn uniongyrchol i'r safle tarddiad.
Dadlwytho dros dro Lefel y glanhau a'r diheintio 1. Rhaid gwneud yr holl lanhau a diheintio er mwyn lleihau, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, y perygl o drosglwyddo'r clefyd. Y rhannau o'r cyfrwng cludo y mae angen eu glanhau 2. - (1) Yn achos anifeiliaid nad ydynt yn cael eu cludo mewn cynhwysydd -
(b) rhaid glanhau'r canlynol os ydynt wedi eu baeddu -
(ii) unrhyw ran arall o'r cyfrwng cludo; a (iii) unrhyw gyfarpar.
(2) Yn achos anifeiliaid a gludwyd mewn cynhwysydd, rhaid glanhau'r tu mewn i'r cynhwysydd p'un a yw wedi ei faeddu ai peidio, a rhaid glanhau'r tu allan i'r cynhwysydd ac unrhyw rannau o'r cyfrwng cludo sy'n cario'r cynhwysydd os ydynt wedi'u baeddu. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu a disodli Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) 2003 ('Gorchymyn 2003') (O.S. 2003/482 (Cy.68)). Mae'r Gorchymyn hwn, sydd yn gymwys i Gymru, yn gweithredu paragraff 8 o Bennod I o'r Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 91/628/EEC ar ddiogelu anifeiliaid wrth eu cludo (OJ Rhif L340, 11.12.91, t. 17) a weithredwyd gynt gan baragraff 26 o Atodlen 1 i Orchymyn Lles Anifeiliaid (Cludiant) 1997 (O.S. 1997/1480). Mae'n gweithredu hefyd Erthygl 12.1(a), ail gilosodiad Cyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC am broblemau iechyd sy'n effeithio ar y fasnach mewn anifeiliaid buchol a moch o fewn y Gymuned (cydgyfnerthwyd y Gyfarwyddeb hon yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 97/12/EC, OJ Rhif L109, 25.4.97, t.1). Dyma'r prif newidiadau ers Gorchymyn 2003 a gynhwysir yn y Gorchymyn hwn -
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu, ar ôl cludo unrhyw anifeiliaid carnog, a ffowls domestig, tyrcwn, gwyddau, hwyaid, ieir gini, soflieir, colomennod, ffesantod, petris ac adar di-gêl, fod rhaid glanhau a diheintio'r cyfrwng cludo a'r cyfarpar a gludir ganddo yn unol ag Atodlen 2 cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ond beth bynnag o fewn dim mwy na 24 awr (erthygl 3(3)). Cyn taith yn cludo unrhyw rai o'r anifeiliaid hyn, mae'n ei gwneud yn ofynnol i gyfrwng cludo fod wedi ei lanhau a'i ddi-heintio ers iddo gael ei ddefnyddio ddiwethaf i gludo unrhyw rai o'r anifeiliaid hyn (erthygl 3(4)). Mae hefyd yn pennu, hyd yn oed os yw hynny wedi ei wneud, bod rhaid glanhau a diheintio'r rhannau sydd wedi eu baeddu eto cyn i'r anifeiliaid hynny gael eu cludo os yw'r cyfrwng cludo wedi ei faeddu fel y byddai'n peri perygl o drosglwyddo clefyd (erthygl 3(5)). Mae'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n cludo anifeiliaid symud ymaith unrhyw anifeiliaid marw, sarn (llaesodr) fudr a charthion o'r cyfrwng cludo cyn gynted ag y bo'n ymarferol (erthygl 3(6)). Notes: [1] 1981 p. 22. Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf 1981 i "the Ministers" (fel y'u diffinnir yn adran 86 o'r Ddeddf honno) i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau ar y cyd "the Ministers" a oedd yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban mewn perthynas â Chymru i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141). Cafodd pob un o swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd eu trosglwyddo ymhellach wedyn i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794).back [2] O.S. 1999/646 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/1735 (Cy.122).back [3] O.S. 2003/482 (Cy.68).back [4] O.S. 1978/32, fel y'i diwygiwyd.back
ISBN 0 11090745 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 19 June 2003 |