Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2003, ISBN 0110907205. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 22(1) a (7)(a) a 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[1] ar ôl ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae'n barnu eu bod yn briodol[2] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2003 a deuant i rym ar 7 Ebrill 2003. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Diwygio Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002 2. - (1) Mae Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002[3] yn cael eu diwygio yn unol â'r rheoliad hwn. (2) Yn rheoliad 5 (arweiniad defnyddiwr gwasanaeth) -
(b) ym mharagraff (2)(c) yn lle "." rhoddir ";"; (c) ar ôl paragraff (2)(c) mewnosodir yr is-baragraff canlynol -
(ii) darparu copi o'r fath i'r person hwnnw.".
(3) Ar ôl rheoliad 5, mewnosodir y rheoliad canlynol -
5A. - (1) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i bob defnyddiwr gwasanaeth ddatganiad ynghylch -
(ii) nyrsio; (iii) gofal personol;
(b) y cyfleusterau a'r gwasanaethau y mae'r ffioedd y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) yn daladwy ar eu cyfer; ac
(2) Yn achos defnyddiwr gwasanaeth y mae ei lety yn dechrau ar ôl 7 Ebrill 2003, rhaid darparu'r datganiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1) ar neu cyn y dydd y daw'r person hwnnw yn ddefnyddiwr gwasanaeth.
(b) unrhyw amrywiad yn y materion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1)(b) ac (c).
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5) -
(b) os yw Bwrdd Iechyd Lleol yn gwneud taliad o'r fath, rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i'r defnyddiwr gwasanaeth ddatganiad ynghylch dyddiad a swm y taliad.
(5) Nid yw'r cyfeiriadau ym mharagraff (4) at daliad yn cynnwys taliad -
(b) os yw'r taliad yn ymwneud ag unrhyw gyfnod pan fo llety yn cael ei ddarparu o dan y trefniadau hynny i'r defnyddiwr gwasanaeth yn y cartref gofal.".
(4) Yn rheoliad 39(2)(d)yn lle "cartref plant" rhoddir "cartref gofal". (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002 ("Rheoliadau 2002") er mwyn darparu bod rhaid i berson sydd wedi'i gofrestru mewn perthynas â chartref gofal ddarparu'r wybodaeth ganlynol i ddefnyddiwr gwasanaeth -
(b) manylion unrhyw gynnydd yn y ffioedd neu amrywiad arall yn y materion y cyfeirir atynt yn y datganiad, a rhaid i'r wybodaeth hon gael ei darparu o leiaf fis cyn y bydd effaith i'r cynnydd neu'r amrywiad; (c) datganiad ynghylch taliadau penodol a wnaed gan Awdurdod Iechyd mewn perthynas â nyrsio a ddarparwyd i'r defnyddiwr gwasanaeth gan y cartref.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau 2002 i ddarparu bod rhaid i berson sydd wedi'i gofrestru mewn perthynas â chartref drefnu bod copi o'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth i'r cartref ar gael i bawb sy'n gofyn am gopi, ac maent yn cywiro gwall drafftio yn Rheoliadau 2002. Notes: [1] 2000 p.14. Mae'r pwerau yn arferadwy gan y Gweinidog priodol (gweler y diffiniad o "regulations" yn adran 121(1) o Ddeddf 2000). Mae "appropriate Minister" wedi'i ddiffinio yn adran 121(1) fel y Cynulliad mewn perthynas â Chymru, ac fel yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae "Assembly" wedi'i ddiffinio yn adran 5(b) fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru.back [2] Gweler adran 22(9) o Ddeddf 2000 ynglyn â'r gofyniad i ymgynghori.back [3] O.S. 2002/324 (Cy.37), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2622 (Cy.254) ac O.S. 2002/2935 (Cy.277).back
ISBN 0 11090720 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 14 April 2003 |