Gorchymyn Gweinyddu Gwasanaeth y Swyddogion Rhenti (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Gweinyddu Gwasanaeth y Swyddogion Rhenti (Cymru) 2003, ISBN 0110907434. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
O ran ardaloedd cofrestru yng Nghymru, gan fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru o'r farn nad yw bellach yn briodol bod penodi, talu a gweinyddu swyddogion rhenti yn un o swyddogaethau awdurdodau lleol[1]; yn awr mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 64B o Ddeddf Rhenti 1977[2] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol - Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gweinyddu Gwasanaeth y Swyddogion Rhenti (Cymru) 2003 a daw i rym ar 1 Mehefin 2003 . (2) Mae'r Gorchymyn yn gymwys i Gymru yn unig. (3) Yn y Gorchymyn hwn -
Diddymu cynlluniau o dan adran 63 o Ddeddf Rhenti 1977 yng Nghymru
(b) pob aelod o staff gweinyddol yn y corff perthnasol a gyflogir yn narpariaeth gwasanaeth y swyddogion rhenti,
a gyflogid yn barhaus gan y corff perthnasol yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, ac eithrio unrhyw staff a wrthwynebodd drosglwyddo eu contractau cyflogaeth yn unol â Rheoliad 5(4A) o Reoliadau 1981, yn effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo fel petai wedi'i wneud yn wreiddiol rhwng y cyflogai perthnasol a'r Cynulliad Cenedlaethol.
er, dyletswydd a rhwymedigaeth y corff perthnasol o dan gontract cyflogaeth y mae Erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, neu mewn cysylltiad ag ef, yn rhinwedd y Gorchymyn hwn, o'r dyddiad trosglwyddo;(b) yn ddarostyngedig i baragraffau (ch) i (e) isod, caniateir i unrhyw beth a wneid cyn y dyddiad trosglwyddo, gan, i neu mewn perthynas â chyflogai perthnasol yngl n â chontract cyflogaeth barhau i gael ei wneud, ar ôl y dyddiad hwnnw gan, i neu mewn perthynas â'r person hwnnw;(c) yn ddarostyngedig i baragraffau (ch) i (e) isod, bernir bod unrhyw beth a wneid cyn y dyddiad trosglwyddo gan, i neu mewn perthynas â chorff perthnasol yngl n â chontract cyflogaeth neu gyflogai perthnasol, wedi'i wneud gan, i neu mewn perthynas â'r Cynulliad Cenedlaethol o'r dyddiad trosglwyddo;(ch) yn ddarostyngedig i baragraff (d), pan wnaed penodiad cyflogai perthnasol yn ddarostyngedig i hawliau, rhwymedigaethau, pwerau a dyletswyddau, mae unrhyw un o'r hawliau, y rhwymedigaethau, y pwerau a'r dyletswyddau hynny a fodolai yn union cyn y dyddiad trosglwyddo yn parhau i fodoli; (d) yn ddarostyngedig i baragraff (dd), trosglwyddir pob un o hawliau, rhwymedigaethau, pwerau a dyletswyddau y sywddog priodol neu'r corff perthnasol y bu penodiad cyflogai perthnasol yn ddarostyngedig iddo, yn rhinwedd y Gorchymyn hwn, i'r Cynulliad Cenedlaethol yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau angenrheidiol er mwyn galluogi eu cymhwyso mewn perthynas â'r Cynulliad Cenedlaethol yn lle'r swyddog priodol, neu yn ôl fel y digwydd, y corff perthnasol; (dd) nid yw paragraff (d) yn trosglwyddo nac yn effeithio fel arall -
(ii) ar rwymedigaethau unrhyw berson i dalu iawndal i gyflogai perthnasol neu mewn perthynas ag ef a'r rheini'n rhwymedigaethau sy'n codi o unrhyw beth a wnaed, neu fethiant â'i wneud, cyn y dyddiad trosglwyddo, ac
(e) nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy'n effeithio ar unrhyw hawl sydd gan gyflogai perthnasol i derfynu ei benodiad ond nid yw'r hawl honno yn codi oherwydd y trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol y mae'r Gorchymyn hwn yn ei beri.
Trosglwyddo Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau
(b) penderfynu ar dâl swyddogion rhenti gan ystyried unrhyw sylwadau oddi wrth bersonau y mae'n eu derbyn yn gynrychiolwyr swyddogion rhenti; ac (c) talu, neu pan fydd yn briodol, sicrhau bod y pensiynau, y lwfansau a'r arian rhodd yn cael eu talu i swyddogion rhenti neu mewn perthynas â hwy yn unol â'u statws fel gweision sifil a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol ac yn unol ag adran 1 o Ddeddf Blwydd-dal 1972[5] neu gynllun wedi'i wneud o dan yr adran honno.
Gweinyddu swyddogion rhenti
(b) dyrannu gwaith rhwng swyddogion rhenti; ac (c) goruchwylio ymddygiad swyddogion rhenti.
(2) Rhaid i swyddogion rhenti gyflawni'r dyletswyddau swyddogion rhenti y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn eu cyfarwyddo i'w cyflawni.
(b) yr eir iddo mewn perthynas â chodiadau mewn pensiynau sy'n daladwy i swyddogion rhenti (a benodir felly) neu mewn perthynas â hwy yn rhinwedd Deddf (Codi) Blwydd-dal 1971[6], neu (c) yr eir iddo mewn perthynas ag unrhyw dir neu adeiladau neu unrhyw fuddiant mewn unrhyw dir neu adeiladau a ddefnyddid yn union cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, at ddibenion gwasanaeth y swyddogion rhenti pan nad yw'r corff perthnasol wedi gallu dod o hyd i ddefnydd arall i'r eiddo neu ei waredu fel arall wedi i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
(3) Rhaid dosrannu pob swm o wariant a grybwyllir ym mharagraff (1) uchod gan gyfeirio at y dyddiad trosglwyddo.
(b) yn is-adran (1)(a) hepgorwch "and county boroughs"; (c) ar ôl is-adran (1) mewnosodwch:
11.
Yn is-adran (4) o adran 63 o'r Ddeddf ar ddiwedd paragraff (b) ychwanegwch "or, in relation to Wales, any rent officer appointed by the National Assembly for Wales.".
(b) ar ôl is-adran (4) ychwanegwch -
Darpariaethau atodol a chysylltiedig (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu, yn unol â'r pwerau sy'n arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") o dan adran 64B o Ddeddf Rhenti 1977, bod penodi, talu, a gweinyddu swyddogion rhenti yng Nghymru yn swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn hytrach na swyddogaethau awdurdodau lleol. Mae Erthygl 2 o'r Gorchymyn yn diddymu, ar 1 Mehefin 2003 ("y dyddiad trosglwyddo"), gynlluniau ar gyfer ardaloedd cofrestru rhenti yng Nghymru wedi'u gwneud o dan adran 63 o Ddeddf Rhenti 1977. Mae Erthyglau 3 a 4 yn darparu ar gyfer trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol gontractau cyflogaeth swyddogion rhenti a staff gweinyddol sy'n cael eu cyflogi gan wasanaeth y swyddogion rhenti (y cyfeirir atynt fel "y cyflogeion perthnasol") yn union cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym. Mae Erthygl 5 yn trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol yr eiddo (heb gynnwys buddiannau mewn tir neu adeiladau) a ddelir a'r iawnderau a'r rhwymedigaethau yr oedd gan y cyrff perthnasol hawl iddynt neu yr oeddent yn ddarostyngedig iddynt, mewn cysylltiad â gwasanaeth y swyddogion rhenti. Mae Erthygl 6 yn darparu bod gan y Cynulliad Cenedlaethol y p er i benodi, talu cyflogau a phensiynau, lwfansau ac arian rhodd i swyddogion rhenti neu mewn perthynas â hwy.Mae Erthygl 7 yn gwneud darpariaeth o ran gweinyddu a goruchwylio swyddogion rhenti. Mae Erthygl 8 yn darparu y bydd Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981 yn gymwys i drosglwyddo contractau cyflogaeth y cyflogeion perthnasol o'r cyrff perthnasol i'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae Erthygl 9 yn gwneud darpariaeth i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu am wariant penodol y mae'r cyrff perthnasol yn mynd iddo o ganlyniad i'r Gorchymyn hwn. Mae Erthyglau 10, 11 a 12 yn diwygio Deddf Rhenti 1977. Mae Erthygl 13 yn gwneud darpariaethau atodol a chysylltiedig ac yn diddymu paragraff 3(2) o Atodlen 8 i Ddeddf Llwyodraeth Leol (Cymru) 1994. Notes: [1] Gweler adran 64B(1) o Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42); mewnosodwyd adran 64B gan adran 120 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) a Rhan II o Atodlen 14 iddi.back
[2]
Gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru arfer y p [4] O.S. 1981/1794 fel y'i diwygiwyd gan reoliad 2 o Reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) (Diwygio) 1987 (O.S. 1987/442), adran 7(2) o Ddeddf Gwaith Dociau 1989 (p.13), adrannau 33 a 51 o Ddeddf Diwygio Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993 (p.19) ac Atodlen 10 iddi, rheoliadau 8, 9 ac 11 o Reoliadau Diswyddiadau Torfol a Throsglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) (Diwygio) 1995 (O.S. 1995/2587), adran 1 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth (Datrys Anghydfodau) 1998 (p.8), rheoliadau 2, 8, 9 a 10 o Reoliadau Diswyddiadau Torfol a Throsglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) (Diwygio) 1999 (O.S. 1999/1925), a rheoliadau 2 a 3 o Reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) (Diwygio) 1999 (O.S. 1999/2402).back
ISBN 0 11090743 4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 28 May 2003 |