Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2003, ISBN 0110907426. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(a), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2] ac yntau wedi parchu yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau ar gyfer materion sy'n ymwneud â dioglewch bwyd[3] ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2003 a byddant yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 30 Mai 2003. Diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 2. Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995[4]), yn y diffiniad o "Directive 96/77/EC"[5], yn lle'r geiriau "and Commission Directive 2001/30/EC" rhoddir y geiriau ", Commission Directive 2001/30/EC[6] and Commission Directive 2002/82/EC"[7]. Diwygiadau canlyniadol 3. - (1) Hepgorir paragraff (2) o reoliad 9 (diwygiadau canlyniadol) Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2002[8]. (2) Yn y Rheoliadau a restrir isod, i'r graddau y maent yn ymestyn i Gymru, dylid dehongli cyfeiriadau at Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 fel cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 1997[9]), Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 1999[10], Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 2000[11]), Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2001[12], Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2002 a'r Rheoliadau hyn:
Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig 1976[14]); Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled 1976[15]; Rheoliadau Suddion Ffrwythau a Nectarau Ffrwythau 1977[16]); Rheoliadau Llaeth Tewychedig a Llaeth Sych 1977[17]; Rheoliadau Jam a Chynhyrchion Tebyg 1981[18]; Rheoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 1984[19]; Rheoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 1992[20]; Rheoliadau Labelu Bwyd 1996[21]).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995, fel y'u diwygiwyd eisoes ("y prif Reoliadau"), sy'n ymestyn i Brydain Fawr. Mae'r Rheoliadau yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/82/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 96/77/EC sy'n gosod meini prawf purdeb pendodol ar ychwanegion bwyd heblaw am liwiau a melyswyr (OJ Rhif L292,28.10.2002.p.1). Mae'r Rheoliadau yn pennu meini prawf purdeb newydd mewn perthynas â'r ychwanegion a bennwyd yn yr Atodlen i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/ 82/EC (rheoliad 2) ac yn gwneud diwygiadau cysylltiedig i Reoliadau penodol mewn perthynas â chyfeiriadau yn y Rheoliadau hynny at y prif Reoliadau (rheoliad 3). Ni pharatowyd arfarniad rheoliadol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Notes: [1] 1990 p. 16.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers" i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), fel y caiff ei ddarllen gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999.back [3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back [4] O.S. 1995/3187, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/1413, O.S. 1999/1136, O.S. 2001/1787 (Cy.128) ac O.S. 2002/329 (Cy.42).back [5] OJ Rhif L339, 30.12.1996, t.1.back [6] OJ Rhif L146, 31.5.2001, t.1.back [7] OJ Rhif L292, 28.10.2002, t.1.back [8] O.S. 2002/329 (Cy.42).back [11] O.S. 2001/1440 (Cy.102).back [13] O.S. 1966/1073; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.back [14] O.S. 1976/509; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.back [15] O.S. 1976/541; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.back [16] O.S. 1977/927; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.back [17] O.S. 1977/928; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.back [18] O.S. 1981/1063; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.back [19] O.S. 1984/1566; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.back [20] O.S. 1992/1978; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.back [21] O.S. 1996/1499; y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
ISBN 0 11090742 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 16 May 2003 |