Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru 2003, ISBN 0110907043. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 105, 108, 150 a 152 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000[1]: Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru 2003 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003. (2) Yn y Rheoliadau hyn -
(3) Oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, at ddibenion y rheoliadau hyn mae person yn preswylio yng Nghymru os yw'n preswylio yno dros dro neu yn barhaol.
(b) os nad yw'r cofrestriad wedi'i ddileu neu wedi'i dynnu'n ôl yn unol â rheoliad 5; ac (c) os y'u hadnabyddir wrth yr enw "Cyfrif Dysgu Unigol Cymru".
Ystyr Person Cymwys
(b) wedi setlo yn y Deyrnas Unedig o fewn ystyr adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971[3]; (c) yn ffoadur, yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers cael ei gydnabod yn ffoadur, neu ei fod yn briod, yn blentyn neu'n llys-blentyn i ffoadur o'r fath; (ch) yn berson sydd -
(ii) wedi cael caniatâd i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny; a (iii) wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig drwy gydol y cyfnod ers cael caniatâd i ddod i mewn neu i aros,
neu, ei fod yn briod, yn blentyn neu'n llys-blentyn i berson o'r fath; neu
(4) Y trydydd amod yw bod y person naill ai -
(b) yn preswylio y tu allan i Gymru dros dro ond yn preswylio fel arfer yng Nghymru (oni bai bod rheoliad 10 yn gymwys).
(5) Y pedwerydd amod yw bod y person heb gyrraedd safon cymhwyster addysgol sy'n uwch na Lefel 2 neu ei chyfwerth fel y nodwyd yn y fframwaith cymwysterau cenedlaethol[4].
(b) os yw'r deiliad cyfrif dysgu unigol yn cyrraedd safon cymhwyster addysgol sy'n Lefel 3 neu'n uwch, neu'n ei chyfwerth, fel y nodwyd yn y fframwaith cymwysterau cenedlaethol; neu (c) os nad yw'r deiliad cyfrif dysgu unigol yn preswylio fel arfer yng Nghymru mwyach.
(3) Caiff deiliad cyfrif dysgu unigol dynnu ei gofrestriad gyda gweinyddydd cyfrifon dysgu yn ôl ar unrhyw adeg.
(b) os yw'r addysg neu'r hyfforddiant yn dod o fewn rheoliad 7; ac (c) os yw'r deiliad cyfrif dysgu unigol, adeg talu'r grant, yn preswylio fel arfer yng Nghymru.
Yr addysg a'r hyfforddiant y gellir talu grant ar eu cyfer
(b) yn cael eu darparu gan berson sydd wedi ei gymeradwyo gan weinyddydd cyfrifon dysgu ac nad yw ei gymeradwyaeth wedi'i thynnu'n ôl.
(2) Yn y rheoliad hwn, "addysg eithriedig" yw -
(b) unrhyw gategori arall o addysg a bennir o bryd i'w gilydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Swm y grant
(ii) os nad yw'r deiliad cyfrif dysgu unigol yn ymgymryd â'r addysg neu'r hyfforddiant, neu (iii) os na chydymffurfir ag unrhyw delerau eraill y talwyd y grant arnynt; neu
(b) gan y deiliad cyfrif dysgu unigol -
(ii) os yw'n dod i'r amlwg nad oedd yr amodau a gynhwysir yn rheoliad 6(a) neu (c) wedi eu bodloni adeg talu'r grant.
(4) Gall grantiau gael eu talu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu gan weinyddydd cyfrifon dysgu o dan drefniadau a wneir gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru ac os gwneir trefniadau o'r fath caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru dalu tâl neu symiau i dalu ei gostau i'r gweinyddydd cyfrifon dysgu.
(b) os yw'r aelod o'r lluoedd arfog yn gwasanaethu mewn sefydliad y tu allan i'r Deyrnas Unedig, ymdrinnir â'r aelod hwnnw fel pe bai'n preswylio yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig lle bu'n gwasanaethu yn fwyaf diweddar, gan ddiystyru unrhyw sefydliad lle bu'n gwasanaethau am gyfnod o lai na mis;
(2) ymdrinnir â charcharor a ddelir dan ddedfryd o fewn y Deyrnas Unedig fel pe bai'n preswylio yng Nghymru os -
(b) os yw'r man neu'r sefydliad lle mae'r carcharor yn preswylion'n barhaol yng Nghymru yn union cyn dechrau'r ddedfryd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dirymu Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol (Cymru) 2000, yn diffinio'r trefniadau ymgymhwyso y cyfeirir atynt yn adran 105 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 ac yn darparu ar gyfer talu grantiau i bersonau sy'n ddeiliaid cyfrif dysgu unigol neu mewn perthynas â hwy. Mae rheoliadau 3 i 5 yn ymdrin â threfniadau ymgymhwyso (sydd i'w hadnabod fel "Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru"). Rhaid i'r trefniadau hyn fod ar ffurf cofrestru gan berson cymwys gyda'r gweinyddydd cyfrifon dysgu sef corff a gymeradwyir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Y corff a gymeradwyir ar hyn o bryd yw Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant. Mae rheoliad 4 yn nodi amodau cymhwyster sy'n cynnwys preswylio yng Nghymru (neu breswylio dros dro y tu allan i Gymru adeg cofrestru ond preswylio fel arfer yng Nghymru). Yn rheoliadau 6 i 9 darperir ar gyfer talu grantiau mewn perthynas â deiliaid cyfrif dysgu unigol. Mae rheoliad 6 yn darparu ar gyfer y p er i dalu grantiau. Mae rheoliad 7 yn darparu y gall grantiau gael eu talu mewn perthynas ag addysg neu hyfforddiant a bennir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru heblaw addysg uwchradd neu unrhyw gategori arall o addysg a eithrir gan y Cynulliad Cenedlaethol. Yn rheoliad 8 darperir mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy'n penderfynu swm y grant ac mae rheoliad 9 yn cynnwys amrywiaeth o ddarpariaethau atodol, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer talu'r grant i'r person sy'n darparu'r addysg neu'r hyfforddiant ac ar gyfer y posibilrwydd o adennill, oddi wrth y person sy'n darparu'r addysg neu'r hyfforddiant neu oddi wrth y deiliad cyfrif dysgu unigol, y grant a dalwyd o dan rai amgylchiadau.Yn rheoliad 10 ceir darpariaethau ar gyfer penderfynu ar breswylfa aelodau'r lluoedd arfog a Charcharorion a ddelir dan ddedfryd. Notes: [1] 2000 p.21.back [2] O.S. 2000/3384 (Cy.222).back [3] 1971 p.77; diwygiwyd ei fod a mewnosodwyd is-adran (2A), gan Ddedf Cenedligrwydd 1981 (p. 61), adran 39 ac Atodlen 4.back [4] Yn unol â swyddogaethau'r awdurdodau rheoleiddio mewn perthynas â chymwysterau allanol ac yn unol â pholisi cenedlaethol, cyhoeddir y fframwaith cymwysterau cenedlaethol ar y cyd gan Awdurdod Cymwysterau, Cyricwlwm ac Asesu Cymru, yr Awdurdod Cymwysterau a Chyricwlwm (Lloegr) a'r Cyngor Cyricwlwm, Arholiadau ac Asesu (Gogledd Iwerddon). Rhestrir cymwysterau yn ôl categori a lefel. Gellir cael y fframwaith ar www.accac.org.uk.back
ISBN 0 11090704 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 7 April 2003 |