Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2003, ISBN 0110906942. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 38, 39 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn, cymhwyso ac effaith 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. (3) Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986[2] yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn. Diwygio paragraff 8A yn Atodlen 1 2. Diwygir paragraff 8A yn Atodlen 1 (Cwynion) yn unol â'r paragraffau canlynol -
(b) ym mharagraph (7)(c) yn lle'r ffigur "10", rhodder y ffigur "20".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 ("y prif Reoliadau") sy'n rheoleiddio'r telerau ynghylch darparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977. Mae Rheoliad 2 yn cynnwys darpariaethau sy'n diwygio'r cyfnod o amser sydd gan gontractwyr, fel y diffinnir hwy yn y prif Reoliadau, i ymateb i gwynion a wneir gan neu ar ran cleifion neu gleifion blaenorol. Caiff yr amser a ganiateir i gontractwyr gydnabod cwynion yn ffurfiol ei leihau o dri diwrnod i ddau ddiwrnod (ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith a gwyliau banc), tra caiff yr amser a ganiateir i roi i achwynydd grynodeb ysgrifenedig o ymchwiliadau a chasgliadau ei gynyddu o 10 i 20 diwrnod gwaith (ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith a gwyliau banc). Notes: [1] 1977 p.49; gweler adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i) i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations". Estynnwyd adran 38 gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), adran 13; gan O.S. 1985/39, erthygl 7; Deddf yr Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("Deddf 1995"), adran 2(1), Atodlen 1, paragraff 27, a Deddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48) ("Deddf 1984"), adran 1. Diwygiwyd adran 39 gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15) ("Deddf 2001"), adrannau 20(1), (5)(a)(b) a 23(1), (4); gan Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17 ) ("Deddf 2002"), adran 2(5), Atodlen 2, Rhan 1, paragraffau 1, 12(1) a (4)(b); gan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), adran 9(4); gan Ddeddf y Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53), adrannau 1 a 2, Atodlen 1, paragraff 52; gan Ddeddf 1984, adran 1, Atodlen 1, Rhan 1, ac adran 24, Atodlen 8, Rhan 1 a Deddf 1995, adran 2(1), Atodlen 1, paragraff 28. Diwygiwyd Adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2); gan Ddeddf 1999, adran 65(1), Atodlen 4, paragraffau 4, 37(1) a 6; gan Ddeddf 2001, adran 67(1), Atodlen 5, Rhan 1, paragraffau 5(1) a 13(b) a chan Ddeddf 2002, adran 6(3)(c). O ran Cymru, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 38 a 39 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 4 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo, O.S. 1999/672.back [2] O.S. 1986/975, yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S.1996/705 sy'n mewnosod paragraffau 8A, B ac C yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau.back
ISBN 0 11090694 2
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 31 March 2003 |