Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2003, ISBN 0110906985. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e) ac (f), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac sydd yn awr wedi'u breinio ynddo[2], ac yntau wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor[3] sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd ac yn gosod gweithdrefnau mewn materion sy'n ymwneud â diogelwch bwyd ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enw, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r Rheolidau hyn yw Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2003; deuant i rym ar 24 Mawrth 2003 ac maent yn gymwys i Gymru yn unig. Diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 2. Caiff Rheoliadau Labelu Bwyd 1996[4]) eu diwygio (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) yn unol â rheoliadau 3 i 5. 3. Yn rheoliad 14 (enwau cynhwysion) yn lle paragraff (4) rhoddir y paragraff canlynol -
4.
Yn Rheoliad 50 (darpariaeth drosiannol) mewnosodir ar y diwedd y paragraff canlynol -
(b) the matters constituting the offence would not have constituted an offence under these Regulations if the amendments made by regulations 3 and 5 of the Food Labelling (Amendment) (Wales) Regulations 2003 had not been in operation when the food was sold, marked or labelled.".
5.
Yn Atodlen 3 (enwau generig mewn rhestr gynhwysion) -
(b) yn dilyn y cyfeiriadau at berlysieuyn, perlysiau neu berlysiau cymysg mewnosodir colofn 1 (enw generig), colofn 2 (cynhwysion) a cholofn 3 (amodau defnyddio enw generig)) yn y drefn honno -
Note 1 The connective tissue content is calculated on the basis of the ratio between collagen content and meat protein content. The collagen content means the hydroxyproline content multiplied by a factor of 8.".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) 1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996, fel y'u diwygiwyd ("y prif Reoliadau") i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru. Mae'r Rheoliadau hynny yn cwmpasu Prydain Fawr yn ei chyfanrwydd. 2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu yng Nghymru Gyfarwyddeb y Comisiwn 2001/101/EC (OJ Rhif L310, 28.11.2001, t.19) sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyd-ddynesiad cyfreithiau Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud â labelu, cyflwyno a hysbysebu bwydydd. Mae'r Rheoliadau yn caniatáu defnyddio'r term generig "meat" gydag enw rhywogaeth yr anifail y mae'n tarddu ohono (neu dermau cyfatebol megis "pork" neu "beef") ar gyfer cyhyrau ysgerbydol rhywogaethau mamalaidd a rhywogaethau adar mewn rhestrau cynhwysion, yn ddarostyngedig i amodau penodol (rheoliadau 2, 3 a 5). Mae'r rheolau yn rheoliad 19 o'r prif Reoliadau ar ddynodi swmp cynhwysion neu gategorïau penodol o gynhwysion yn gymwys mewn perthynas â'r enw generig hwnnw. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn mewnosod darpariaeth drosiannol mewn perthynas â'r enw generig hwnnw er mwyn rhoi ar waith Gyfarwyddeb 2002/86/EC ar gyfer bwyd sy'n cael ei werthu, ei farcio neu ei labelu cyn 1 Gorffennaf 2003 (rheoliad 4). 3. Paratowyd arfarniad rheoliadol a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trawsosod yn nodi sut y mae prif elfennau Cyfarwyddeb 2001/101/EC a Chyfarwyddeb 2002/86/EC i gael eu trawsosod yn y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Ty Southgate, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW. Notes: [1] 1990 p.16.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau a fu gynt yn arferadwy gan "yr Ysgrifennydd Gwladol" i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) o'i ddarllen gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).back [3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back [4] O.S. 1996/1499; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1998/1398, 1999/747, 1136, 1483, 2000/768.back [5] OJ Rhif L243, 11.10.95, t.7.back [7] OJ Rhif L121, 29.7.64, t. 2012 (OJ/SE 1963-64 t.185).back
ISBN 0 11090698 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 3 April 2003 |