Rheoliadau Bwrdd Iechyd Lleol Powys (Swyddogaethau Ychwanegol) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Bwrdd Iechyd Lleol Powys (Swyddogaethau Ychwanegol) 2003, ISBN 0110906977. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16BB(2), (3) a (5) a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 [1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwrdd Iechyd Lleol Powys (Swyddogaethau Ychwanegol) 2003 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003 ac maent yn gymwys i Gymru yn unig. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall -
(b) rheolaeth gwasanaethau iechyd cymunedol a ddarperir gan Ysbyty Bronllys, Bronllys, Powys, LD3 0LU a pherchenogaeth y tir a'r adeiladau cysylltiedig; ac (c) swyddogaethau rheolwyr o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983[4].
Swyddogaethau i'w harfer gan Fwrdd Iechyd Lleol Powys (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Rhoddodd Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) 2003 (O.S. 2003/150 (Cy.20)) swyddogaethau penodedig i Fyrddau Iechyd Lleol a sefydlwyd ar gyfer pob ardal yng Nghymru yn unol ag adran 16BA o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi swyddogaethau ychwanegol i Fwrddd Iechyd Lleol Powys, sef swyddogaethau a gyflawnid gynt gan Ymddiriedolaeth Gofal Iechyd Gwasanaeth Iechyd Gwladol Powys ("yr ymddiriedolaeth"). Diddymwyd yr ymddiriedolaeth gan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gofal Iechyd Gwasanaeth Iechyd Gwladol Powys (Diddymu) 2003 (O.S. 2003/817 (Cy.102)). Notes: [1] 1977 p.49. Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a chan Ddeddf 1999, Atodlen 4, a pharagraff 37(6). Mewnosodwyd adran 16BB gan adran 6 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17)back [2] Sefydlwyd o dan adran 16BA(1) o Dddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 gan O.S./2003/148 (Cy.18).back [3] Trosglwyddwyd asedau, hawliau a rhwymedigaethau Ymddiriedolaeth Gofal Iechyd Gwladol Powys i'r Bwrdd gan Orchymyn y Byrddau Iechyd Lleol (Trosglwyddo Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/473 (Cy.63)).back [4] 1983 p.20 ("Deddf 1983"); mae i'r ymadrodd "rheolwyr" yr ystyr a roddir i "managers" gan adran 145(1) o Ddeddf 1983.back
ISBN 0 11090697 7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 3 April 2003 |