Gorchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) (Diwygio) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) (Diwygio) 2003, ISBN 0110906969. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 27(9) a 154(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru[1] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) (Diwygio) 2003 a daw i rym ar 1 Ebrill 2003 yn union ar ôl i'r prif Orchymyn ddod i rym. (2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "y prif Orchymyn"("the principal Order") yw Gorchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2003[2]. (3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig. Diwygio'r prif Orchymyn 2. - (1) Diwygir y prif Orchymyn yn unol â pharagraffau canlynol yr erthygl hon. (2) Yn erthygl 2 (dehongli) mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol:
(b) y mae ei waith o dan y contract hwnnw wedi cynnwys cyflawni swyddogaethau awdurdod iechyd Cymreig cyn y dyddiad trosglwyddo; ac (c) a gafodd gynnig cyflogaeth ac a'i derbyniodd cyn y dyddiad trosglwyddo gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru.".
(3) Ar ôl erthygl 4 (trosglwyddo cyflogeion perthnasol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru), ychwaneger yr erthygl ganlynol -
4A. Pan fydd cyflogai sy'n trosglwyddo yn dechrau cyflogaeth gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru ar y dyddiad trosglwyddo bydd y cyfnod cyflogaeth gyda'i gyflogwr yn union cyn y dyddiad trosglwyddo yn -
(b) yn cael ei drin fel cyflogaeth barhaus gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru at ddibenion adran 218(3) Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996.".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2003 ac yn darparu ar gyfer parhad cyflogaeth rhai cyflogeion mewn awdurdodau lleol ac awdurdodau heddlu yng Nghymru a oedd yn cyflawni swyddogaethau awdurdod iechyd cyn 1 Ebrill 2003 ac sydd wedi derbyn cyflogaeth gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru wrth i'r awdurdod iechyd gael ei ddiddymu. Notes: [1] 1998 p.38.back [2] O.S. 2003/813 (Cy.98).back
ISBN 0 11 090696 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 3 April 2003 |