Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2003, ISBN 0110906802. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 64(6) a 70(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001[1] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2003. (2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "Deddf 2001" ("the 2001 Act") yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001. (3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig. Y dydd penodedig mewn perthynas ag adran 13 o Ddeddf 2001 2. 17 Mawrth 2003 yw'r dydd penodedig pan fydd adran 13 o Ddeddf 2001 yn dod i rym. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2] John Marek Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol 12 Mawrth 2003 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn pennu mai 17 Mawrth 2003 yw'r dyddiad y mae adran 13 o Ddeddf 2001 i ddod i rym mewn perthynas â Chymru. Mae adran 13 o'r Ddeddf yn ymwneud â gorchmynion ymyrryd ac yn mewnosod adrannau newydd 84A a B yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977. Bydd adran 13, pan fydd wedi ei chychwyn, yn galluogi'r Cynulliad i ymyrryd mewn categorïau penodol o gyrff GIG pan fydd ganddo bryderon ynghylch rheolaeth y corff hwnnw, ynghylch ei allu i gyflawni ei swyddogaethau'n ddigon da neu pan fydd trychineb unigryw wedi digwydd. Bydd adran 84A yn galluogi'r Cynulliad i wneud gorchymyn ymyrryd pan nad yw corff GIG y mae'r adran yn ymwneud ag ef yn cyflawni un neu fwy o'i swyddogaethau yn ddigon da neu pan nad yw'n eu cyflawni o gwbl, neu pan fo diffygion sylweddol yn y modd y rheolir y corff. Cyn gwneud gorchymyn ymyrryd bydd yn rhaid i'r Cynulliad fod wedi'i fodloni ei bod yn briodol iddo wneud hynny. Mae adran 84B yn nodi effaith gorchymyn ymyrryd ynghyd â'r gwahanol ffurfiau ar ymyrraeth. Gall gorchymyn ymyrryd ddarparu ar gyfer symud neu wahardd dros dro aelodau o'r corff GIG dan sylw a phenodi unigolion newydd yn eu lle; mynnu bod corff GIG yn gwneud trefniadau i berson neu gorff arall gyflawni swyddogaethau'r corff hwnnw; datgymhwyso neu addasu unrhyw ddarpariaeth ddeddfwriaethol sy'n gysylltiedig ag aelodaeth neu weithdrefn y corff sy'n destun yr ymyrraeth, a gall gynnwys cyfarwyddiadau i roi effaith lawn i ymyrraeth. Mae darpariaethau canlynol Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 wedi eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru trwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Mae amryw o ddarpariaethau Deddf 2001 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O. S. 2001/2804 (p.95), O.S. 2001/3167 (p.101), O.S. 2001/3294 (p.107), O.S. 2001/3619 (p.117), O.S. 2001/3752 (p.122), O.S. 2001/3738 (p.121), O.S. 2001/4149 (p.133), O.S. 2002/1095 (p.26) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1170 (p.30)), O.S. 2002/1312 (p.36) ac O.S. 2002/2363 (p.77). Notes: [1] 2001 p.15. Ceir diffiniad o "awdurdod perthnasol" ynadran 66 o'r Ddeddf 2001.back
ISBN 0 11090680 2
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 20 March 2003 |