Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Awdurdodau Lleol a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Awdurdodau Lleol a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2003, ISBN 0110907183. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 9(2), (3) a (3A) a 67(5) o Ddeddf Fabwysiadu 1976[1] ac adrannau 12(2), 15(3), 16(1), (2) a (3), 22(1), (2)(a) i (d), (f) i (j), (5)(a) a (c), (7)(a) i (h), (j) a (8)(c), 33, 34(1), 35 a 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[2] a phob p er arall syn ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau Canlynol: - Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Awdurdodau Lleol a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 30 Ebrill 2003. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -
(b) mewn unrhyw achos arall, yw unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu swyddfa o dan ei reolaeth fel y swyddfa briodol mewn perthynas ag awdurdodau lleol.
(b) mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â Rhif , yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad neu'r Atodlen sy'n dwyn y Rhif hwnnw; (c) mewn paragraff at is-baragraff â llythyren neu rif yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y llythyren honno neu'r Rhif hwnnw.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, onid ymddengys bwriad fel arall, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys -
(b) cyflogi person o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau; ac (c) caniatáu i berson weithio fel gwirfoddolwr;
a rhaid dehongli cyfeiriadau at gyflogai neu at berson sy'n cael ei gyflogi yn unol â hynny.
(b) personau sy'n dymuno mabwysiadu plentyn; (c) personau sydd wedi'u mabwysiadu, eu rhieni, eu rhieni naturiol a'u cyn warcheidwaid; (ch) pob person sydd yn gweithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i'r awdurdod sicrhau fod ei wasanaeth mabwysiadu yn cael ei redeg bob amser mewn modd sy'n gyson â'i ddatganiad o ddiben.
(b) pob darpar fabwysiadydd cymeradwy y mae'r awdurdod wedi lleoli plentyn i'w fabwysiadu gyda hwy; ac (c) pob plentyn (yn dibynnu ar ei oedran a'i ddealltwriaeth), y caniateir ei leoli neu sydd wedi'i leoli i'w fabwysiadu gan yr awdurdod.
Adolygu'r datganiad o ddiben a'r arweiniad plant
(b) hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o unrhyw ddiwygiad o'r fath o fewn 28 diwrnod.
Penodi rheolwr 6. - (1) Rhaid i bob awdurdod lleol benodi un o'i swyddogion i reoli'r gwasanaeth mabwysiadu a rhaid iddo hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ddi-oed o'r canlynol -
(b) y dyddiad y mae'r penodiad i ddod yn weithredol.
(2) Rhaid i'r awdurdod hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ddi-oed os yw'r person a benodwyd o dan baragraff (1) yn rhoi'r gorau i reoli'r gwasanaeth mabwysiadu.
(b) o roi sylw i faint yr awdurdod a'i ddatganiad o ddiben -
(ii) bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i reoli'r gwasanaeth mabwysiadu; ac
(c) bod gwybodaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â phob un o'r materion a restrir yn Atodlen 3.
Gofynion cyffredinol
(b) i'r angen am ddiogelu a hybu lles y plant a allai gael eu lleoli, neu sydd wedi'u lleoli, gan yr awdurdod i'w mabwysiadu,
reoli'r gwasanaeth mabwysiadu â gofal, medrusrwydd a medr digonol.
(b) o'r tramgwydd y'i collfarnwyd ohono; ac (c) o'r gosb a osodwyd arno mewn perthynas â'r tramgwydd.
Trefniadau ar gyfer amddiffyn plant 10. Rhaid i bob awdurdod lleol baratoi a gweithredu polisi ysgrifenedig -
(b) sy'n nodi'r weithdrefn i'w dilyn os bydd unrhyw honiad o gam-drin neu esgeuluso.
Staffio
(b) i'r angen am ddiogelu a hybu iechyd a lles y plant a allai gael eu lleoli neu sydd wedi'u lleoli gan yr awdurdod i'w mabwysiadu,
fod nifer digonol o bersonau hyfedr a phrofiadol â chymwysterau addas yn gweithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu.
(b) caniatáu i berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo, weithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu oni bai bod y person hwnnw yn ffit i weithio at ddibenion gwasanaeth mabwysiadu.
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir gan berson heblaw'r awdurdod mewn swydd lle y gallai wrth gyflawni ei ddyletswyddau gael cysylltiad rheolaidd â phlant a allai gael eu lleoli, neu sydd wedi'u lleoli, i'w mabwysiadu gan yr awdurdod.
(b) bod ganddo y cymwysterau, y medrau a'r profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae i'w gyflawni; (c) bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i wneud y gwaith y mae i'w gyflawni; ac (ch) bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael ynglyn â'r person mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir yn Atodlen 3.
(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fydd unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 3, ond nad yw'r dystysgrif wedi ei rhoi.
(b) darparu disgrifiad swydd sy'n amlinellu eu cyfrifoldebau i bob cyflogai sy'n cael ei gyflogi gan yr awdurdod at ddibenion ei wasanaeth mabwysiadu.
(2) Rhaid i'r awdurdod sicrhau bod bob person sy'n cael ei gyflogi gan yr awdurdod at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu -
(b) yn cael ei alluogi o dro i dro i ennill cymwysterau pellach sy'n briodol i'r gwaith y mae'n ei gyflawni.
Gweithdrefn disgyblu'r staff
(b) yn darparu bod y methiant ar ran cyflogai i hysbysu person priodol o ddigwyddiad cam-drin, neu achos lle mae amheuaeth o gam-drin plentyn sydd wedi'i leoli gan yr awdurdod i'w fabwysiadu yn sail ar gyfer cychwyn achos disgyblu.
(2) At ddibenion paragraff (1)(b), mae person priodol yn un o'r canlynol -
(b) un o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol; (c) un o swyddogion yr heddlu; (ch) un o swyddogion y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant; (d) swyddog o'r awdurdod lleol y mae'r plentyn wedi ei leoli i'w fabwysiadu yn ardal yr awdurdod hwnnw pan fydd hwnnw yn awdurdod gwahanol.
Trefniadau ar gyfer absenoldeb y rheolwr
(b) bod unrhyw gofnodion nad ydynt, am unrhyw reswm, yn cael eu cadw ar safle'r awdurdod yn cael eu cadw o dan amodau priodol o ran diogelwch.
Cwynion
yn, yn cynnwys manylion o'r ymchwiliad a wnaed, y canlyniad ac unrhyw gamau dilynol a gymerwyd a bod y cofnod yn cael ei gadw am o leiaf 3 mlynedd o'r dyddiad y'i gwneir; a(b) os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdano, rhaid i bob awdurdod lleol ddarparu iddo ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o unrhyw gwynion a wnaed mewn perthynas â'i gwasanaeth mabwysiadu yn ystod y 12 mis blaenorol ac yngl n â'r camau a gymerwyd (os o gwbl) o ganlyniad i'r ymchwiliad.
Diwygiadau i Reoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002 19. Mae Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002[4] yn cael eu diwygio fel a ganlyn -
(ii) in any other case, any office of the National Assembly.";
(c) yn y diffiniad o "statement of purpose", ar ôl is-adran (e) mewnosodwch -
(g) in relation to an adoption service means the written statement required to be compiled in accordance with regulation 3(1) of the Local Authority Adoption Service and Miscellaneous Amendments (Wales) Regulations 2003".
Diwygiadau i Reoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2002
(3B) In a case where an agency has a branch, or as the case may be, a small branch an additional sum of -
(ii) £300 in respect of each small branch.
(3C) Where an application for registration is made by a voluntary adoption agency that is an existing undertaking, no registration fee shall be payable."
(ii) ar ôl rheoliad 4(2) mewnosodwch "(2A) In the case of an application mentioned in paragraph (1) in respect of a small agency or a small branch the fee shall be £300.
(2B) In the case of an application for the estabishment of a new branch or small branch the fee shall be
(ii) £300 in respect of each proposed new small branch.
(ch) Yn rheoliad 4(3) ar ôl "the establishment" rhoddir "or agency".
12. - (1) Subject to paragraph (2) the annual fee in respect of a voluntary adoption agency is -
(b) in a case where an agency has a branch or as the case may be a small branch, an additional sum of
(ii) £250 in respect of each small branch.
(2) The annual fee in respect of a voluntary adoption agency which is a small agency is £250.
(b) in the case of a new agency provider, the date on which a certificate of registration is issued.
Annual fee - local authorities
(b) in all other cases on the date on which such functions are first discharged."
Diwygiadau i Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983
(b) yn is-baragraff (2)(a) ar ôl y geiriau "specified offence" mewnosodwch y geiriau "committed at the age of 18 or over".
1. Nodau ac amcanion yr awdurdod lleol mewn perthynas â'r gwasanaeth mabwysiadu. 2. Enw a chyfeiriad y rheolwr. 3. Cymwysterau a phrofiad perthnasol y rheolwr. 4. Nifer y staff sy'n cael eu cyflogi gan yr awdurdod at ddibenion gwasanaeth mabwysiadu'r awdurdod, eu cymwysterau a'u profiad perthnasol. 5. Strwythur trefniadol y gwasanaeth mabwysiadu. 6. System sydd wedi'i sefydlu i fonitro a gwerthuso'r ddarpariaeth o ran gwasanaethau er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau a ddarparwyd gan yr awdurdod yn effeithiol a bod ansawdd y gwasanaeth mabwysiadu o safon briodol. 7. Y gweithdrefnau ar gyfer recriwtio, paratoi, asesu, cymeradwyo a chefnogi darpar rieni mabwysiadol. 8. Crynodeb o'r weithdrefn gwyno a sefydlwyd yn unol ag adran 26 o Ddeddf Plant 1989 [11] a Gorchymyn Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn Gwyno) 1990[12]. 9. Cyfeiriad a Rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol. 1. Crynodeb o'r datganiad o ddiben. 2. Crynodeb o'r gweithdrefnau pan fydd mabwysiadu wedi'i nodi fel y cynllun priodol ar gyfer plentyn. 3. Crynodeb o'r gweithdrefnau cwyno a sefydlwyd yn unol ag adran 26 o Ddeddf Plant 1989 a Gorchymyn Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn Gwyno) 1990. 4. Manylion ynghylch sut y gall plentyn gael gafael ar wasanaethau eiriolwr sy'n annibynnol ar yr awdurdod i'w gynorthwyo i ddwyn cwyn neu i gyflwyno sylwadau o dan y gweithdrefnau cwyno y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 3. 5. Cyfeiriad a Rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol. 6. Enw, cyfeiriad a Rhif ffôn Comisiynydd Plant Cymru[13]. 1. Prawf adnabod gan gynnwys ffotograff diweddar. 2. Naill ai -
(b) mewn unrhyw achos arall, tystysgrif record troseddol a roddwyd o dan adran 113 o Ddeddf yr Heddlu 1997,
gan gynnwys, i'r graddau y mae Deddf yr Heddlu 1997 yn caniatáu hynny, y materion a bennir yn adran 113(3A) neu 115(6A) o'r Ddeddf honno[15]). Cofnod ar gyfer pob person sy'n gweithio ar gyfer yr awdurdod gan gynnwys - 1. Enw llawn. 2. Rhyw. 3. Dyddiad geni. 4. Cyfeiriad cartref. 5. Cymwysterau sy'n berthnasol i waith sy'n cynnwys plant, a phrofiad o waith o'r fath. 6. Y dyddiadau pan fydd y person yn dechrau cael ei gyflogi felly a phan fydd ei gyflogaeth yn dod i ben. 7. A yw'r person yn cael ei gyflogi gan yr awdurdod lleol o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau, neu a yw'n cael ei gyflogi gan rywun heblaw'r awdurdod. 8. Disgrifiad swydd y person ac a yw'n gweithio'n amser llawn neu'n rhan amser a nifer yr oriau y mae'n cael ei gyflogi bob wythnos gan wasanaeth mabwysiadu'r awdurdod neu'n cael ei gontractio bob wythnos i'r gwasanaeth. 9. Yr hyfforddiant y mae'r person yn ymgymryd ag ef, y gwaith o'i oruchwylio a'i werthuso, y camau disgyblu (os o gwbl) a gymerwyd yn ei erbyn a chanlyniad y camau hynny, cofnodion o gwynion (os o gwbl) a gyflwynwyd yn ei erbyn neu yngl n ag ef a chanlyniad y g yn honno ac unrhyw gofnodion eraill mewn perthynas â'i gyflogaeth.(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan Ddeddf Fabwysiadu 1976 ("Deddf 1976") a Deddf Safonau Gofal 2000 ("Deddf 2000") ac maent yn gymwys i awdurdodau lleol Cymru. Maent yn darparu fframwaith rheoliadol newydd ar gyfer gwasnaethau mabwysiadu awdurdodau lleol. Mae Rhan II o Ddeddf 2000 yn darparu bod gwaith cofrestru ac arolygu sefydliadau ac asiantaethau, gan gynnwys gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol, yn cael ei wneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"). Mae Rhan III o Ddeddf 2000 yn darparu bod gwaith arolygu gwasanaethau awdurdodau lleol yn cael ei wneud gan y Cynulliad Cenedlaethol. Caiff Rhannau II a III o Ddeddf 2000 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) eu dwyn i rym mewn perthynas â gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol ar 30 Ebrill 2003. Mae Rheoliadau 3 a 4 yn darparu bod rhaid i bob awdurdod lleol sy'n darparu gwasanaethau mabwysiadu fod â datganiad o ddiben, sy'n disgrifio nodau ac amcanion y gwasanaeth, ac arweiniad plant. Rhaid i'r gwasanaeth gael ei gyflawni mewn modd sy'n gyson â'r datganiad o ddiben. Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth yngl n â'r personau sy'n rheoli'r gwasanaeth, ac yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth foddhaol fod ar gael mewn perthynas â'r materion a ragnodir yn Atodlen 3.Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth yngl n â rhedeg y gwasanaeth, staffio a ffitrwydd y gweithwyr, addasrwydd y safle ac yngl n â chwynion a chadw cofnodion.Mae Rhan 4 yn ymdrin ag amryw o ddiwygiadau. Mae Rheoliadau 19 a 20 yn gwneud y diwygiadau angenrheidiol i'r darpariaethau mewn rheoliadau sy'n ymwneud â gofynion cofrestru a thalu ffioedd yn yr un modd â sefydliadau ac asiantaethau eraill sy'n cael eu rheoleiddio o dan Ddeddf 2000. Mae rheoliad 21 yn newid y gofyniad bod rhaid cael gafael ar wybodaeth am gollfarnau troseddol a rhybuddion a gafwyd gan bersonau 18 oed neu drosodd, yn hytrach na rhai dros 18 oed. Notes: [1] 1976 p.36 Yn adran 9 o Ddeddf 1976 diwygiwyd is-adran (2) a mewnosodwyd is-adran (3A) gan adran 116 a pharagraff 5 (6)(c) o Atodlen 4 i Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14) ("Deddf 2000"). Mae'r pwerau hyn yn arferadwy gan y Gweinidog priodol, a ddiffinnir yn adran 9(5) o Ddeddf 1976, mewn perthynas â Chymru fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac mewn perthynas â Lloegr fel yr Ysgrifennydd Gwladol ac mewn perthynas â Lloegr a Chymru fel yr Ysgrifennydd Gwladol a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn gweithredu ar y cyd. Diwygiwyd is-adrannau (2) a (3) a mewn osodwyd is-adran (5) gan adran 139(2) pharagraff 4(1)(b) o Atodlen 4 i Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2003 p.38.back [4] O.S. 2002/919 (Cy. 107).back [6] O.S. 2002/921 (Cy.109).back [8] Am y diffiniad o "social worker" gweler a.55(2)(a) o Ddeddf 2000.back [9] O.S.1983/1964 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1997/649, O.S. 1997/2308 ac O.S. 2001/3443 (Cy.278).back [11] 1989 p.41. Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Plant) 1991 (O.S.1991/894 fel y'u diwygiwyd gan O.S.1991/2033, O.S.1993/3069 ac O.S.2001/2874) yw'r rheoliadau cyfredol.back [13] Gweler adran 72 o Ddeddf 2000.back [14] 1997 p.50. Mae swydd o fewn adran 115(3) os yw'n golygu bod y person wrthi'n rheolaidd yn gofalu am bersonau o dan 18 oed, yn eu hyfforddi, yn eu goruchwylio neu os yw'r personau hynny o dan ei ofal ef yn unig.back [15] Mae adran 113(3A) a 115(6A) wedi'u mewnosod yn Neddf yr Heddlu 1997 gan adran 8 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999(p.14) ac wedi'i diwygio gan adrannau 104, 106 a 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 25 o Atodlen 4 iddi.back
ISBN 0 11090718 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 11 April 2003 |