Gorchymyn Pysgod Cregyn (Ardal Fôr Benodedig) (Gwahardd Dulliau Pysgota) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Pysgod Cregyn (Ardal Fôr Benodedig) (Gwahardd Dulliau Pysgota) (Cymru) 2003, ISBN 0110906721. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 5, 5A a 15(3) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967[1], ac sydd yn awr wedi eu breinio ynddo[2], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enw a chychwyn 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgod Môr (Ardal Fôr Benodedig) (Gwahardd Dulliau Pysgota) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 9 Mawrth 2003. Dehongli 2. Yn y Gorchymyn hwn -
yr i bwynt y mae ei yn gyfesurynnau yn 04°10'Gor, 51°30'Gog yna tua'r gorllewin i 04°27'Gor, 51°30'Gog, yna tua'r gogledd i 04°27'Gor, 51°36'Gog, yna tua'r gorllewin i 04°42'Gor, 51°36'Gog, ac yna yn union tua'r gogledd ar draws yr Ynys B r i'r arfordir yn Nimbych y Pysgod;
r o dan bwysedd uchel i geg y carthwr a'i gyfeirio yn ôl i fyny'r bibell gan greu sugnedd sy'n peri i ddeunydd, gan gynnwys y pysgod y certhir amdanynt, gael eu codi i wyneb y d r,
Gwaharddiad
(b) caiff fynnu bod unrhyw unigolyn ar y cwch yn dangos unrhyw ddogfen sy'n ymwneud â'r cwch, ei weithredoedd pysgota, neu weithredoedd sy'n ategol iddynt neu i'r bobl ar y cwch, sydd ym meddiant yr unigolyn hwnnw neu yn eiddo iddo a chaiff gymryd copïau o unrhyw ddogfen o'r fath; (c) at ddibenion canfod a yw meistr, perchennog neu siartrwr y cwch wedi cyflawni trosedd o dan adran 5 o'r Ddeddf fel y'i darllenir gyda'r Gorchymyn hwn, caiff archwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a mynnu bod unrhyw unigolyn ar y cwch yn gwneud unrhyw beth sydd, yn nhyb y swyddog, ei angen i hwyluso'r archwiliad, ac (ch) os oes gan y swyddog reswm dros gredu bod trosedd o'r fath wedi ei gyflawni mewn cysylltiad â'r cwch, caiff gipio a chadw unrhyw ddogfen a gyflwynir neu a ddarganfyddir ar y cwch at ddibenion galluogi defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn achos sy'n ymwneud â'r trosedd;
ond nid yw dim byd yn is-baragraff (ch) uchod yn caniatáu i unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol o dan y gyfraith ei chludo ar gwch gael ei chipio a'i chadw ac eithrio pan fo'r cwch wedi ei ddal mewn porthladd.
(b) dal y cwch yn y porthladd neu fynnu bod y meistr yn ei ddal yno;
ac os bydd swyddog o'r fath yn dal cwch neu'n mynnu bod cwch yn cael ei dal rhaid i'r swyddog hwnnw gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig y bydd, neu fod, angen dal y cwch hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig arall a lofnodwyd gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae Adran 5 o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967 yn cynnwys p er i wahardd pysgota am bysgod môr yn llwyr, neu wahardd pysgota am fath penodol o bysgod môr, neu ddull penodol o bysgota, naill ai am bysgod môr yn gyffredinol neu am fathau penodol o bysgod môr. Yn rhinwedd Adran 22 o'r Ddeddf honno mae pysgod môr yn cynnwys pysgod cregyn. Mae Adran 5A o'r Ddeddf yn caniatáu i'r p er i wneud gorchymyn o dan adran 5 gael ei ddefnyddio at ddibenion amgylchedd y môr. Mae'r p er yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn cysylltiad â'r môr tiriogaethol cyfagos at Gymru.Mae'r rhan honno o'r môr oddi ar arfordir De Cymru a ddisgrifir yn erthygl 2 o'r Gorchymyn wedi ei nodi yn Ardal Gwarchodaeth Arbennig ddichonol at ddibenion y Gyfarwyddeb Adar (Cyfarwyddeb y Cyngor 79/409/EEC). Mae'r ardal dan sylw yn safle pwysig i Fôr-hwyaid Duon pan nad ydynt yn magu, ac mae'r Gorchymyn hwn yn gwahardd carthu hydrolig am folysgiaid dwygragennog yn yr ardal honno. Ceir esemptiadau gwyddonol ac eraill yn adran 9 o Ddeddf 1967. Mae'r Gorchymyn yn cynnwys darpariaethau yn ymwneud â gorfodi. Ceir darpariaethau eraill, gan gynnwys rhai ynghylch tramgwyddau, yn Neddf 1967. Notes: [1] 1967 p.84.back [2] Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999 Rhif 672) trosglwyddwyd swyddogaethau "y Gweinidogion" o dan y Ddeddf i'r Cynulliad.back
ISBN 0 11090672 1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 19 March 2003 |