Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2003, ISBN 0110906748. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 113(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992[1] a pharagraffau 1(1) a 5(1), (2) a (4) o Atodlen 4 iddi, a rheiny'n bwerau sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enw a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2003. Cymhwyso a Dehongli 2. - (1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. (2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y Prif Reoliadau" ("the Principal Regulations") yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992[3]. (3) Bydd i'r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr â'r termau Saesneg cyfatebol yn y prif Reoliadau. Diwygio'r Prif Reoliadau 3. Mae'r Prif Reoliadau yn cael eu diwygio fel a ddarperir yn Rheoliad 4. Atafaelu enillion: credydau treth 4. Yn Rheoliad 32(1) (dehongli etc) o'r Prif Reoliadau, yn y diffiniad o "earnings", mewnosodwch ar ôl is-baragraff (v) -
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 (fel y'u diwygiwyd) yn rhagnodi'r pwerau y caiff awdurdodau lleol eu defnyddio i gasglu ac adennill treth gyngor. Mae Rheoliad 32(1) o'r Rheoliadau hynny yn cael ei ddiwygio yn y fath fodd ag i hepgor o'r diffiniad o "earnings" Gredyd Treth Plant a Chredyd Treth Gweithio, o fewn ystyr "Child Tax Credit" a "Working Tax Credit" yn Neddf Credydau Treth 2002. Notes: [1] 1992 (p.14).back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
ISBN 0 11090674 8
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 20 March 2003 |