Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2003, ISBN 0110906853. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, a hwythau'n gweithredu ar y cyd wrth arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 7, 8 ac 83 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[1], yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi, cymhwyso, cychwyn a dod i ben 1. Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2003; mae'n gymwys mewn perthynas â Chymru, yn dod i rym ar 4 Mawrth 2003 a bydd ei effaith yn dod i ben ar 1 Awst 2003. Dehongli 2. Yn y Gorchymyn hwn -
(b) sioe neu arddangosfa, (c) llwyth o anifeiliaid i'w traddodi ymlaen i'w cigydda o fewn Prydain Fawr, neu (ch) llwyth o anifeiliaid i'w traddodi ymlaen o fewn Prydain Fawr i'w pesgi neu i'w gorffen,
ac mae'n cynnwys derbyn neu gadw'r anifeiliaid hynny dros dro;
Eithriadau
(b) bod yr anifeiliaid i'w crynhoi ar safle y mae perchennog yr anifeiliaid yn berchen arno neu y mae'n ei feddiannu.
Defnyddio safle ar gyfer crynoadau anifeiliaid
(b) bod yn un y gellir ei diwygio, ei hatal dros dro, neu ei dirymu drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan arolygydd milfeddygol, a (c) bod yn ddarostyngedig i'r cyfryw amodau ag y barna'r arolygydd milfeddygol fod eu hangen i atal cyflwyno clefyd i'r safle trwyddedig neu i atal lledaenu clefyd o fewn y safle trwyddedig neu'r tu allan iddo.
(3) Rhaid i drwydded bennu -
(b) y safle lle y caniateir crynhoi anifeiliaid, ac (c) yr ardal y caniateir i'r anifeiliaid fynd arni ("yr ardal i anifeiliaid").
Cyfyngiad o 27 o ddiwrnodau ar grynhoi anifeiliaid mewn un lle
(b) ar ôl i'r anifail olaf adael y safle, pan fydd yr holl gyfarpar a ddefnyddiwyd gan yr anifeiliaid wedi ei lanhau fel nad oes unrhyw arwydd weledol ei fod wedi'i halogi.
Esemptiad i'r cyfnod cyfyngiad o 27 o ddiwrnodau ar gyfer safle ag ardal i anifeiliaid sydd wedi'i phalmantu
(b) os yw'r ardal i anifeiliaid wedi'i glanhau a'i diheintio, a bod unrhyw ddeunydd gwastraff ar yr ardal i'r anifeiliaid wedi cael ei symud a'i waredu, yn unol â'r erthygl hon.
(2) O ran y gwaith glanhau a diheintio -
(b) rhaid ei orffen ar ôl i'r anifail olaf adael y safle trwyddedig.
(3) Rhaid gwaredu o'r ardal i anifeiliaid yr holl borthiant y daeth yr anifeiliaid i gyffyrddiad ag ef, pob sarn (llaesodr), yr holl garthion, pob deunydd arall sy'n tarddu o anifeiliaid a'r holl halogion eraill -
(b) eu trin fel nad oes perygl o drosglwyddo clefyd, neu (c) eu gwaredu fel nad yw anifeiliaid yn gallu mynd atynt.
(4) Mae'n rhaid ysgubo neu grafu'n lân bob rhan o'r ardal i anifeiliaid (yn cynnwys unrhyw gyfarpar), a'i glanhau drwy olchi a'i diheintio â diheintydd a gymeradwywyd.
(b) oni chafodd y cyfarpar ei ysgubo a'i grafu'n lân, ei lanhau drwy olchi a'i ddiheintio â diheintydd a gymeradwywyd.
Gorchymyn Marchnadoedd, Gwerthiannau a Llociau 1925
(b) Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2002[5]; (c) Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2002[6]); (ch) Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2003[7].
Dyletswyddau trwyddedai 1. - (1) Rhaid i'r trwyddedai sicrhau bod unrhyw berson sy'n mynd ar y safle trwyddedig yn cael gwybod bod y safle'n drwyddedig o dan y Gorchymyn hwn, pa un ai trwy gyfrwng system o hysbysiadau y gwneir hynny neu mewn rhyw ffordd arall. (2) Rhaid i'r trwyddedai ddarparu baddonau traed ac ynddynt ddiheintydd wedi'i gymeradwyo ar y ffordd allan o'r ardal i anifeiliaid ac mewn unrhyw fae llwytho a dadlwytho, a darparu cyfleusterau ar y safle ar gyfer newid, golchi a diheintio dillad a gwaredu dillad y gellir eu taflu. (3) Mae'n rhaid i'r trwyddedai -
(b) sicrhau, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol, nad yw anifeiliaid yn gadael yr ardal i anifeiliaid ac eithrio ar gerbyd.
Y dyletswyddau sydd ar bersonau sy'n bresennol mewn crynhoad anifeiliaid
(b) newid ei ddillad am ddillad glân; neu (c) eu taflu; neu (ch) ymadael â'r safle trwyddedig.
(3) Os bydd person y tu allan i'r ardal i anifeiliaid yn gwisgo dillad allanol ac arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi eu halogi gan garthion anifeiliaid neu halogion eraill sy'n deillio o anifeiliaid, caiff arolygydd gyflwyno iddo hysbysiad yn rhoi iddo'r dewis o -
(b) newid ei ddillad am ddillad glân, (c) gwaredu dillad y gellir eu taflu, neu (ch) ymadael â'r safle trwyddedig a hynny ar ei union.
Esgidiau i'w gwisgo yn yr ardal i anifeiliaid (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn cymryd lle Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002. Nid yw'n gymwys yn yr amgylchiadau a nodir yn erthygl 3 (anifeiliaid a grynhoir ar safle y mae eu perchennog yn berchen arno). Rhaid wrth drwydded ar gyfer crynoadau anifeiliaid (erthygl 4). Mae'n pennu na chaiff crynhoad anifeiliaid ddigwydd ond ar ôl i 27 o ddiwrnodau fynd heibio ar ôl i'r olaf o'r anifeiliaid adael y safle hwnnw ac i'r cyfarpar ar y safle gael ei lanhau fel nad oes arno arwyddion gweledol ei fod wedi ei halogi (erthygl 5). Os ar safle wedi'i balmantu y crynhoir yr anifeiliaid mae erthygl 6 yn gwneud darpariaeth ar gyfer glanhau a diheintio'r safle hwnnw ac yn ei gwneud yn bosibl i grynhoad ddigwydd o fewn y terfyn amser arferol. Mae'n gosod dyletswyddau ar y personau sy'n bresennol mewn crynhoad anifeiliaid (erthygl 7 a'r Atodlen). Mae'n gosod cyfyngiadau yn sgil crynhoad anifeiliaid (erthygl 8). Mae'n datgymhwyso dros dro ac yn cymryd lle Gorchymyn Marchnadoedd, Gwerthiannau a Llociau 1925 (OS 1925/1349) (erthygl 9). Fe'i gorfodir gan yr awdurdod lleol neu'r Ysgrifennydd Gwladol (erthygl 10). Mae peidio ag ufuddhau i'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o'r Ddeddf Iechyd Anifeiliaid, ac mae'r gosb am hynny yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honno. Bydd effaith y Gorchymyn hwn yr dod i ben ar 1 Awst 2003. Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn. Notes: [1] 1981 p.22. Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf 1981 i "the Ministers" (fel y'u diffinnir yn adran 86 o'r Ddeddf honno) i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau ar y cyd "the Ministers" a oedd yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban mewn perthynas â Chymru i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141). Cafodd pob un o swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd eu trosglwyddo ymhellach wedyn i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794).back [2] O.S. 1978/32 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1999/919 ac, mewn perthynas â Chymru O.S. 2001/641 (Cy.31).back [3] O.S.1925/1349 fel y'i diwygiwyd gan O.S.1926/546; O.S.1927/982 ac O.S. 1996/3265.back [5] O.S. 2002/1358 (Cy.134).back [6] O.S.2002/2060 (Cy.209).back [7] O.S. 2003/169 (Cy.29).back
ISBN 0 11090685 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 25 March 2003 |