Gorchymyn Gwahardd Cadw neu Ollwng Pysgod Byw (Rhywogaethau Penodedig) (Diwygio) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Gwahardd Cadw neu Ollwng Pysgod Byw (Rhywogaethau Penodedig) (Diwygio) (Cymru) 2003, ISBN 0110906616. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael. R CROYW
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 1(1) o Ddeddf Pysgod Byw (Cymru a Lloegr) 1980[1] a phob p er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw; ac, yn unol ag adran 1(2) o'r Ddeddf honno, ar ôl ymgynghori â Chyngor Cefn Gwlad Cymru ac English Nature ac unrhyw bersonau eraill y mae'n barnu eu bod yn briodol; ac am ei fod o'r farn y gallai'r rhywogaethau o bysgod byw y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddynt gystadlu ag unrhyw bysgod d r croyw, pysgod cregyn neu eogiaid yng Nghymru, neu eu disodli, eu hysglyfaethu neu niweidio eu cynefin, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:Teitl, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gwahardd Cadw neu Ollwng Pysgod Byw (Rhywogaethau Penodedig) (Diwygio) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 1 Mawrth 2003. (2) Mae'r gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig. Diwygio 2. Diwygir Gorchymyn Gwahardd Cadw neu Ollwng Pysgod Byw (Rhywogaethau Penodedig) 1998[2] fel a ganlyn -
(b) yn lle'r Atodlen (sy'n pennu'r rhywogaethau o bysgod y gwaherddir eu cadw neu eu gollwng ac eithrio o dan drwydded) rhoddir yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Gwahardd Cadw neu Ollwng Pysgod Byw (Rhywogaethau Penodedig) 1998 ("Gorchymyn 1998"), mewn perthynas â Chymru - (1) drwy ddarparu mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru fydd yr awdurdod trwyddedu mewn perthynas â'r gwaharddiad yng Ngorchymyn 1998 ar gadw neu ollwng pysgod penodedig ac eithrio o dan drwydded (erthygl 2(a)); a (2) drwy roi Atodlen newydd yn lle'r un a gynhwysir yng Ngorchymyn 1998 sy'n pennu'r rhywogaethau o bysgod y bydd y Gorchymyn hwnnw yn gymwys iddynt (erthygl 2(b)). Mae'r Atodlen newydd yn ychwanegu at y rhywogaethau a bennwyd yn yr Atodlen wreiddiol. Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn a'i adneuo yn llyfrgell y Cynulliad Cenedlaethol. Gellir cael copïau oddi wrth y canlynol: Y Gangen Bysgodfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQ Notes: [1] 1980 p.27. Trosglwyddwyd pwerau'r Gweinidog o dan adran 1 o'r Ddeddf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 2 iddo (O.S. 1999/672).back
ISBN 0 11090661 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 6 March 2003 |