Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Diwygio) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Diwygio) (Cymru) 2003, ISBN 0110906586. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraffau 1 a 2(2) o Atodlen 9 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] ac adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993[2] sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[3]: Enwi a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 28 Chwefror 2003. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993[4]). Diwygio'r prif Reoliadau 3. - (1) Diwygir y prif Reoliadau fel a ganlyn. (2) Ym mharagraff 1 o Ran 1 o Atodlen 2 yn lle'r nodyn sy'n dwyn y pennawd "Transitional Arrangements" rhodder y canlynol -
Transitional arrangements were in place to phase in the effect of significant changes in liability which arose from the 2000 valuation of non-domestic property. Such transitional arrangements cease to operate from 1 April 2003.".
(3) Ym mharagraff 1 o Ran 1 o Atodlen 2 yn lle'r nodyn sy'n dwyn y pennawd "Rural Rate Relief" rhodder y canlynol -
From 1 April 2002 occupiers of qualifying businesses with a rateable value of £6,000 or less (£9,000 if the business is a public house or petrol station) appearing in a billing authority's rural settlement list are entitled to rate relief at 50 per cent of the full rates bill. Billing authorities have discretion to remit all or part of the remaining 50 per cent. Authorities also have discretion to remit all or part of the rates bills on other property in a settlement on the rural settlement list if the rateable value is £12,000 or less and the authority is satisfied that the property is used for a purpose which benefits the local community.".
(4) Ym mharagraff 1 o Ran II o Atodlen 2 yn lle'r nodyn sy'n dwyn y pennawd "Trefniadau trosiannol" rhodder y canlynol -
Yr oedd trefniadau trosiannol ar waith i raddol-gyflwyno effaith newidiadau sylweddol i'r hyn sy'n daladwy a oedd yn deillio o brisiad 2000 ar eiddo annomestig. Bydd y trefniadau trosiannol hynny yn peidio â gweithredu o 1 Ebrill 2003 ymlaen.".
(5) Ym mharagraff 1 o Ran II o Atodlen 2 yn lle'r nodyn sy'n dwyn y pennawd "Rhyddhad Gwledig rhag Trethi" rhodder y canlynol -
O 1 Ebrill 2002 ymlaen mae gan feddiannydd busnesau perthnasol a'u gwerth trethiannol yn £6,000 neu lai (£9,000 os yw'r busnes yn d tafarn neu'n orsaf betrol) sy'n ymddangos ar restr aneddiadau gwledig yr awdurdod bilio hawl i gael rhyddhad ardrethi ar 50 y cant o'r bil trethi llawn. Mae gan awdurdodau bilio ddisgresiwn i ildio'r cyfan neu ran o'r 50 y cant arall.Mae gan awdurdodau ddisgresiwn hefyd i ildio'r cyfan neu ran o filiau trethi eiddo eraill mewn anheddiad sydd ar y rhestr o aneddiadau gwledig sydd â gwerth trethiannol o £12,000 neu lai a lle bo'r awdurdod yn fodlon bod yr eiddo yn cael ei ddefnyddio at ddiben sydd o fantais i'r gymuned leol.".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 yn darparu ynghylch cynnwys hysbysiadau galw am dalu ardrethi sy'n cael eu cyhoeddi gan awdurdodau bilio yng Nghymru a bod gwybodaeth yn yr iaith briodol yn cyd-fynd â'r hysbysiadau hynny. Mae'r rheoliadau hyn, a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â'r pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraffau 1 a 2(2) o Atodlen 9 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ac adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac sydd bellach yn arferadwy ganddo, yn diwygio'r wybodaeth esboniadol y mae'n rhaid i awdurdodau bilio yng Nghymru ei rhoi i adlewyrchu dileu'r trefniadau trosiannol a newidiadau i'r cynllun rhyddhad ardrethi gwledig. Notes: [1] 1988 p.41; diwygiwyd Atodlen 9, paragraff 2(2), gan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42), adrannau 139 a 194(4), Atodlen 5, paragraffau 1, 44(2), (3), (4), 79(3) ac Atodlen 12, Rhan II.back [3] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
ISBN 0 11090658 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 6 March 2003 |