Rheoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2003, ISBN 0110906578. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[1], a phob p er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:Enw, cychwyn a dehongli 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2003 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2003. (2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2001[2]. Diwygio'r Prif Reoliadau 2. - (1) Diwygir y prif Reoliadau yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliad hwn. (2) Yn rheoliad 5(2), dilëir paragraff (ch). (3) Yn rheoliad 8(1) yn lle "30 diwrnod" rhoddir "60 diwrnod". (4) Yn rheoliad 8(2), dilëir paragraff (ch). (5) Yn rheoliad 8(3) yn lle "ym Mharc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ" rhoddir "yn y cyfeiriad a nodir yn y penderfyniad a roddir o dan reoliad 7(2) uchod". (6) Yn rheoliad 11(1) yn lle "30 diwrnod" rhoddir "60 diwrnod". (7) Yn rheoliad 11(3) yn lle "ym Mharc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ" rhoddir "yn y cyfeiriad a nodir yn y penderfyniad a roddir o dan reoliad 10(2) uchod". Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3] D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 26 Chwefror 2003 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Fe sefydlwyd cyfundrefn apelau amaethyddol ar gyfer Cymru gan Reoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2001. Mae'r Rheoliadau presennol yn diwygio'r Rheoliadau hynny drwy ddileu'r gofyniad i geiswyr roi rhesymau am eu cais am adolygiad yng nghamau 1 a 2 o'r broses apelau. Maent hefyd yn estyn y cyfnod i wneud cais yng nghamau 2 a 3 o'r broses o 30 diwrnod i 60 diwrnod ac yn cynnwys elfen o hyblygrwydd i'r cyfeiriad ar gyfer anfon cais. Notes: [1] 1972 p.68. Dynodwyd y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion adran 2(2) gan Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 1999 (O.S. 1999/2788).back [2] O.S. 2001/2537 (Cy.212).back
ISBN 0 11090657 8
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 6 March 2003 |