Cynllun Fordd Ymuno Traffordd yr M4 (Cyffordd 44, Loô n-Las) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Cynllun Fordd Ymuno Traffordd yr M4 (Cyffordd 44, Loô n-Las) 2003, ISBN 0110906608. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16, 17 a 326 o Ddeddf Priffyrdd 1980[1] a phob p er galluogi arall[2] yn gwneud y Cynllun hwn: - 1. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei awdurdodi i ddarparu ar hyd y llwybr a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn ffordd arbennig ar gyfer defnydd traffig Dosbarth 1 ac 11 a nodir yn Atodlen 4 i Ddeddf Priffyrdd 1980. 2. Mae llinell ganol y ffordd arbennig hon wedi ei dynodi â llinell drwchus ddu dangosir fel "A" ar y plan a adneuwyd. 3. Bydd y darn o'r ffordd arbennig a ddisgrifir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau rhesog bras dangosir fel "B" ar y plan a adneuwyd yn peidio â bod yn gefnffordd a chaiff ei dosbarthu fel ffordd Ddi-ddosbarth o'r dyddiad y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn hysybysu Dinas a Sir Abertawe fod y ffordd arbennig newydd ar agor i draffig trwodd. 4. Yn y Cynllun hwn: - (1) Mae pob mesur o bellter wedi'i fesur ar hyd llwybr y briffordd berthnasol;
(ii) ystyr "y ffordd arbennig" ("the special road") yw'r briffordd a grybwyllir yn erthygl 1 o'r Gorchymyn hwn; (iii) ystyr "y plan a adneuwyd" ("the deposited plan") yw'r plan a rifwyd HA16/1 NAFW 1 a elwir Cynllun Ffordd Ymuno Traffordd yr M4 (Cyffordd 44, Lôn-Las) 2003, ac sydd wedi ei lofnodi ar ran y Gweinidog dros yr Amgylchedd ac wedi'i adneuo drwy awdurdod Storfa ac Adferiad Cofnodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru, (RSRU) Neptune Point, Ocean Way, Caerdydd.
5.
Daw'r Cynllun hwn i rym ar 28 Mawrth 2003 a'i enw yw Cynllun Ffordd Ymuno Traffordd yr M4 (Cyffordd 44, Lôn-Las) 2003. Llwybr o'i chyffordd â chylchfan y gylchfan newydd yng nghyffordd 44 i gyfeiriad y gogledd am bellter o tua 36 metr. Y darn o Ffordd Arbennig sydd yn peidio â bod yn Gefnffordd yw'r darn hwnnw o'r ffordd ymuno tua'r gorllewin yng nghyffordd 44 o'i chyffordd â'r gylchfan bresennol sydd yn ymestyn i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain am bellter o tua 162 metr. Notes: [1] 1980 p.66back [2] Yn rhinwedd O.S. 1999/672 erthygl 2 ac Atodlen 1, rhoddwyd y pwerau hyn bellach i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymruback
ISBN 0 11090660 8
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 6 March 2003 |