Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.
Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.
Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.
Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Atgyfeiriadau ac Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003, ISBN 0110906861. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.
I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 390 (Cy.52)
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Atgyfeiriadau ac Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud
25 Chwefror 2003
Yn dod i rym
1 Ebrill 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 323 a 333 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[1] ac adrannau 89(1), 91(1) a 93(2) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990[2] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[3] a phob pwer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso 1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Atgyfeiriadau ac Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003 a byddant yn dod i rym ar 1 Ebrill 2003
(a) adran 77 o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 12 neu 19 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, penderfyniad ar gais a atgyfeiriwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol, ond nid yw'n cynnwys cais y bernir iddo gael ei atgyfeirio i'r Cynulliad Cenedlaethol yn rhinwedd rheoliad 13(3) o Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990[4]; a
(b) adran 78 neu 208 o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 20 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, apêl wedi'i gwneud o dan yr adran honno;
ystyr "apelydd" ("appellant") yw, yn achos:
(a) cais a atgyfeiriwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 77 o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 12 neu 19 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y person a wnaeth y cais hwnnw i'r awdurdod cynllunio lleol;
(b) apêl o dan adran 78 o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 20 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y person y gwrthodwyd ei gais, neu y rhoddwyd caniatad, cytundeb neu gymeradwyaeth i'w gais yn ddarostyngedig i amodau neu nas penderfynwyd ar ei gais, gan yr awdurdod cynllunio lleol; ac
(c) apêl o dan adran 208 o'r Ddeddf Gynllunio, y person y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan adran 207(1) o'r Ddeddf honno;
(a) cais o dan adran 77 o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 12 neu 19 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y corff a ymdriniasai â'r cais pe nas atygyfeirid i'r Cynulliad Cenedlaethol;
(b) apêl o dan adran 78 o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 20 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y corff a oedd yn gyfrifol am benderfynu'r cais a achosodd yr apêl; ac
(c) apêl o dan adran 208 o'r Ddeddf Gynllunio, y corff a gyflwynodd yr hysbysiad o dan adran 207(1) o'r Deddf honno;
ystyr "cais" ("application") yw, mewn perthynas ag:
(a) adran 77 o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 12 neu 19 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y cais a atgyfeiriwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol;
(b) adran 78 o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 20 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y cais sy'n destun yr apêl; ac
(c) adran 208 o'r Ddeddf Gynllunio, yr hysbysiad a gyflwynwyd gan yr awdurdod cynllunio lleol o dan adran 207(1) o'r Ddeddf honno;
mae i "cyfathrebu electronig" yr ystyr a roddwyd i'r term "electronic communication" gan adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000[5];
ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr "y Ddeddf Adeiladau Rhestredig" ("the Listed Buildings Act") yw Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990;
mae cyfeiriadau at adran 12, 19 neu 20 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig yn cynnwys cyfeiriad at yr adrannau hynny fel y'u cymhwysir gan adran 74(3) o'r Ddeddf honno;
ystyr "y Ddeddf Gynllunio" ("the Planning Act") yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
mae cyfeiriadau at adran 78 o'r Ddeddf Gynllunio yn cynnwys cyfeiriad at yr adran honno fel y'i cymhwysir i geisiadau am orchymynion cadw coed a wneir o dan y Ddeddf honno;
mae "dogfen" ("document") yn cynnwys ffotograff, map neu blan;
ystyr "dyddiad dechrau" ("starting date") yw dyddiad:
(a) hysbysiad ysgrifenedig y Cynulliad Cenedlaethol i'r apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol ei fod wedi cael yr holl ddogfennau sy'n ofynnol i'w alluogi i roi ystyriaeth i'r apêl; neu
(b) hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 4 isod, p'un bynnag yw'r diweddaraf;
ystyr "holiadur" ("questionnaire") yw dogfen ar ffurf a ddarperir gan y Cynulliad Cenedlaethol i awdurdod cynllunio lleol at ddibenion achos o dan y Rheoliadau hyn;
ystyr "hysbysiad perthnasol" ("relevant notice") yw, mewn perthynas ag:
(a) cais a atgyfeiriwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 77 o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 12 neu 19 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, cais ysgrifenedig gan yr apelydd i'r mater gael ei benderfynu drwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig; ac
(b) apêl a ddugwyd o dan adran 78 neu 208 o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 20 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynwyd gan yr apelydd, sy'n hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o'i ddymuniad i'r apêl gael ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig; ac
mae "sylwadau ysgrifenedig" ("written representations") yn cynnwys dogfennau ategol.
Cymhwyso'r Rheoliadau 3.
- (1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys os, wedi iddynt ddod i rym, bydd apelydd yn rhoi gwybod i'r Cynulliad Cenedlaethol yn yr hysbysiad perthnasol o ddymuniad i'r apêl gael ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig.
(2) Os na fydd apêl yn cael ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig a bydd yr apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol yn rhoi gwybod i'r Cynulliad Cenedlaethol eu bod yn dymuno iddi gael ei phenderfynu ar y sail honno, bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i'r apêl i unrhyw raddau y caiff y Cynulliad Cenedlaethol eu pennu gan ystyried unrhyw gamau sydd eisoes wedi eu cymryd mewn perthynas â'r apêl.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn peidio â bod yn gymwys i apelau os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi gwybod i'r apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol y bydd yn rhoi cyfle iddynt fod yn bresennol a chymryd rhan mewn gwrandawiad neu ymchwiliad lleol a gynhelir gan berson a benodwyd ganddo at y diben hwnnw.
Hysbysu cael cais 4.
Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedi iddo gael yr hysbysiad perthnasol, roi gwybod yn ysgrifenedig i'r apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol am:
(a) y dyddiad dechrau;
(b) y cyfeirnod a ddyrannwyd i'r apêl; ac
(c) y cyfeiriad y mae unrhyw gyfathrebu ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol i gael ei anfon iddo.
Hysbysu personau sydd â buddiant 5.
- (1) Rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol roi hysbysiad ysgrifenedig o'r apêl, er mwyn i'r personau a ganlyn ei gael o fewn 2 wythnos ar ôl y dyddiad dechrau, i:
(a) unrhyw berson a hysbyswyd neu yr ymgynghorwyd ag ef yn unol â'r Ddeddf Gynllunio, y Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu orchymyn datblygu, yn ôl y digwydd, am yr apêl; a
(b) unrhyw berson arall sydd wedi gwneud sylwadau i'r awdurdod cynllunio lleol am yr apêl.
(2) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1):
(a) nodi enw'r apelydd a chyfeiriad y safle y mae'r apêl yn berthnasol iddo;
(b) disgrifio'r apêl;
(c) nodi'r materion a hysbyswyd i'r apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol o dan reoliad 4;
(ch) nodi yr anfonir copïau o unrhyw sylwadau a wnaethpwyd gan unrhyw berson a grybwyllir ym mharagraff (1) i'r Cynulliad Cenedlaethol ac at yr apelydd;
(d) nodi y caiff unrhyw sylwadau o'r fath eu hystyried gan y Cynulliad Cenedlaethol wrth benderfynu'r apêl oni bai i unrhyw berson a grybwyllwyd ym mharagraff (1) eu tynnu yn ôl o fewn 6 wythnos ar ôl y dyddiad dechrau; ac
(dd) nodi y bydd yn bosibl i sylwadau ysgrifenedig pellach gael eu hanfon i'r Cynulliad Cenedlaethol er mwyn iddo eu cael o fewn 6 wythnos ar ôl y dyddiad dechrau.
Holiadur 6.
- (1) Rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol, a chopïo i'r apelydd, er mwyn iddynt eu cael o fewn 2 wythnos o'r dyddiad dechrau:
(a) holiadur wedi'i gwblhau; a
(b) copi o bob un o'r dogfennau y cyfeirir atynt ynddo.
(2) Rhaid i'r holiadur nodi'r dyddiad yr anfonir ef i'r Cynulliad Cenedlaethol arno.
Sylwadau 7.
- (1) Bernir mai sylwadau'r apelydd, mewn perthynas â'r apêl, yw'r hysbysiad perthnasol a'r dogfennau sy'n mynd ag ef.
(2) Caiff yr awdurdod cynllunio lleol ddewis trin yr holiadur, a'r dogfennau a anfonwyd gydag ef, fel ei sylwadau mewn perthynas â'r apêl ac, os yw'n gwneud hynny, rhaid iddo hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol a'r apelydd yn unol â hynny pan fydd yn anfon yr holiadur i'r Cynulliad Cenedlaethol, ac yn anfon copi ohono at yr apelydd, yn unol â rheoliad 6.
(3) Os nad yw'r awdurdod cynllunio lleol yn dewis gwneud fel a ddisgrifir ym mharagraff (2), rhaid iddo sicrhau bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cael 2 gopi o'r sylwadau ysgrifenedig pellach hynny o fewn 6 wythnos o'r dyddiad dechrau.
(4) Rhaid i apelydd sy'n dymuno gwneud unrhyw sylwadau pellach i'r rheini ym mharagraff (1) anfon 2 gopi o'r sylwadau pellach hynny i'r Cynulliad Cenedlaethol er mwyn iddo eu cael o fewn 6 wythnos o'r dyddiad dechrau.
(5) Rhaid dyddio unrhyw sylwadau a wneir i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraffau (3) a (4) â'r dyddiad yr anfonir hwy i'r Cynulliad Cenedlaethol arno.
(6) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl eu cael, anfon at yr apelydd gopi o unrhyw sylwadau a anfonwyd iddo gan yr awdurdod cynllunio lleol, a rhaid iddo anfon i'r awdurdod cynllunio lleol gopi o unrhyw sylwadau a anfonwyd iddo gan yr apelydd.
(7) Rhaid i'r apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol 2 gopi o unrhyw sylwadau ysgrifenedig sydd gan y naill ar sylwadau'r llall er mwyn iddo eu cael o fewn 9 wythnos o'r dyddiad dechrau a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddo eu cael, anfon copi o'r sylwadau pellach hynny i'r parti arall.
(8) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddiystyru gwybodaeth bellach oddi wrth yr apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol nad yw wedi ei chael o fewn 9 wythnos ar ôl y dyddiad dechrau oni bai iddo ofyn am yr wybodaeth bellach honno.
Sylwadau Trydydd Parti 8.
- (1) Caiff person a hysbyswyd o dan reoliad 5(1), ac sy'n dymuno anfon sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol, wneud hynny ar yr amod bod y Cynulliad Cenedlaethol yn eu cael o fewn 6 wythnos o'r dyddiad dechrau.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol:
(a) anfon at yr apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl eu cael, gopi o unrhyw sylwadau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi eu cael oddi wrth unrhyw berson arall mewn perthynas â'r apêl; a
(b) pennu cyfnod o nid llai na 2 wythnos erbyn ei ddiwedd y mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gael unrhyw sylwadau ysgrifenedig ar y sylwadau hynny.
(3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddiystyru sylwadau a wnaethpwyd gan yr awdurdod cynllunio lleol o dan baragraff (2)(b) os yw'r awdurdod wedi methu â rhoi'r hysbysiad sy'n ofynnol gan reoliad 5.
Caniatáu rhagor o amser 9.
Caiff y Cynulliad Cenedlaethol mewn achos penodol roi cyfarwyddiadau sy'n estyn y terfynau amser a ragnodwyd gan y Rheoliadau hyn.
Penderfynu ar gais 10.
- (1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol fynd rhagddo i benderfynu ar apêl gan gymryd i ystyriaeth dim ond y sylwadau ysgrifenedig hynny y mae wedi'u cael o fewn y terfynau amser perthnasol.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, wedi iddo roi i'r apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol hysbysiad ysgrifenedig o'i fwriad i wneud hynny, fynd rhagddo i benderfynu ar apêl er na wnaethpwyd unrhyw sylwadau ysgrifenedig o fewn y terfynau amser perthnasol os ymddengys i'r Cynulliad Cenedlaethol fod ganddo ddigon o ddeunydd ger ei fron i'w alluogi i gyrraedd penderfyniad ar rinweddau'r achos.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr "terfynau amser perthnasol" ("relevant limits") yw'r terfynau amser a ragnodwyd gan y Rheoliadau hyn neu gan unrhyw gyfarwyddyd o dan reoliad 9.
Hysbysu am y penderfyniad 11.
Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu ei benderfyniad ar apêl, a'i resymau dros ddod i'r penderfyniad hwnnw, yn ysgrifenedig:
(a) i'r apelydd;
(b) i'r awdurdod cynllunio lleol;
(c) i unrhyw berson sydd â buddiant; ac
(ch) i unrhyw berson arall sydd wedi gofyn am gael ei hysbysu o'r penderfyniad y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried y mae'n rhesymol ei hysbysu.
Trosglwyddo dogfennau 12.
- (1) Gellir anfon drwy'r post neu drwy gyfrwng cyfathrebu electronig unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol ei hanfon neu yr awdurdodir ei hanfon gan y naill berson at y llall o dan y Rheoliadau hyn a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn, sut bynnag y caiff ei fynegi, fel petai'n cynnwys cyfeiriad at ffurf y mae modd ei chadw ar gyfrifiadur, ei throsglwyddo i gyfrifiadur ac oddi wrth gyfrifiadur, a'i darllen drwy gyfrwng cyfrifiadur.
(2) O dan y Rheoliadau pan hyn, fydd yn ofynnol i'r naill berson anfon copi o ddatganiad, hysbysiad sylwadau neu ddogfen arall oddi wrth at y llall, yna, os anfonir y copi hwnnw drwy gyfrwng cyfathrebu electronig, mae unrhyw ofyniad pellach y dylid anfon mwy nag un copi i'w ddiystyru.
Dirymu a darpariaethau trosiannol 13.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), dirymir Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) 1987[6] ("Rheoliadau 1987") i'r graddau eu bod yn gymwys i Gymru[7].
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), dirymir Rhan IV (rheoliadau 11 i 16) o'r Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 1999[8] ("Rheoliadau1999") i'r graddau ei bod yn gymwys i Gymru.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid parhau ag unrhyw apêl y cymhwysir Rheoliadau 1987 neu, yn ôl y digwydd, Rheoliadau 1999 ati, nad yw wedi ei phenderfynu ar y dyddiad pan ddaw'r Rheoliadau hyn rym, o dan Reoliadau 1987 neu Reoliadau 1999 yn ôl y digwydd.
(4) Os caiff penderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol ar apêl y cymhwysir Rheoliadau 1987, neu, yn ôl y digwydd, Rheoliadau 1999, ati ei ddileu wedyn mewn achos o flaen unrhyw lys, rhaid ailbenderfynu'r penderfyniad yn unol â'r Rheoliadau hyn ac nid Rheoliadau 1987 neu, yn ôl y digwydd, Rheoliadau 1999.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[9]
Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod y weithdrefn a'r terfynau amser mewn cysylltiad â phenderfynu -
(a) cais a atgyfeiriwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") o dan adran 77 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ("y Ddeddf Gynllunio");
(b) apêl o dan adran 78 o'r Ddeddf Gynllunio (gan gynnwys achosion pan gymhwyswyd yr adran honno i orchymynion cadw coed);
(c) apêl o dan adran 208 o'r Ddeddf Gynllunio;
(ch) cais am gydsyniad adeilad rhestredig a atgyfeiriwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 12 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 ("y Ddeddf Adeiladau Rhestredig") (heblaw yn rhinwedd rheoliad 13(3) o Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 ("y Rheoliadau Adeiladau Rhestredig")), neu am amrywio neu ryddhau amodau a atgyfeiriwyd iddo o dan yr adran honno fel y'u cymhwyswyd gan adran 19 o'r Ddeddf honno;
(d) apêl o dan adran 20 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig;
(dd) cais am gydsyniad ardal gadwraeth a atgyfeiriwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol, heblaw pan fernir i'r cais gael ei atgyfeirio yn rhinwedd rheoliad 13(3) o'r Rheoliadau Adeiladau Rhestredig, o dan adran 12 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig (gan gynnwys cais y cymhwysir yr adran honno iddo gan adran 19 o'r Ddeddf honno), fel y cymhwysir yr adrannau hynny gan adran 74(3) o'r Ddeddf honno;
(e) apêl o dan adran 20 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, fel y cymhwysir yr adran honno gan adran 74(3) o'r Ddeddf honno,
pan fydd y materion hynny i'w penderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig.
Mae adran 77 o'r Ddeddf Gynllunio yn rhoi per i'r Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo awdurdod cynllunio lleol ("yr awdurdod") i atgyfeirio i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar gyfer penderfyniad, unrhyw gais am ganiatâd cynllunio, neu am gymeradwyaeth sy'n ofynnol o dan orchymyn datblygu, a wnaethpwyd i'r awdurdod.
Mae adran 78 o'r Ddeddf Gynllunio yn rhoi hawl i apelio i'r Cynulliad Cenedlaethol yn erbyn rhai o benderfyniadau cynllunio yr awdurdod ac os bydd yr awdurdod yn methu â hysbysu penderfyniad cynllunio o'r math hwnnw o fewn y cyfnodau a ragnodwyd. Mae'r adran yn gymwys i apelau yn erbyn penderfyniadau i wrthod cydsyniad, rhoi cydsyniad amodol, rhoi cyfarwyddyd o dan orchymyn cadw coed neu wrthod cais am gydsyniad, cytundeb neu gymeradwyaeth sy'n ofynnol o dan gyfarwyddyd o'r math hwnnw (neu fethu â phenderfynu unrhyw un o'r uchod o fewn y terfyn amser gofynnol) mewn perthynas â gorchymynion cadw coed.
Mae adran 208 o'r Ddeddf Gynllunio yn rhoi hawl i berson y cyflwynwyd iddo hysbysiad gorfodi cadw coed o dan adran 207(1) o'r Ddeddf honno apelio i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Mae adran 12 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig yn rhoi'r per i'r Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo awdurdod cynllunio lleol i atgyfeirio i'r Cynulliad Cenedlaethol unrhyw gais am gydsyniad adeilad rhestredig a wnaethpwyd i'r awdurdod. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r atgyfeiriadau hyn, ac eithrio pan fernir i'r atgyfeiriad gael ei wneud gan awdurdod cynllunio lleol mewn perthynas â'i gais ei hun, o dan reoliad 13 o'r Rheoliadau Adeiladau Rhestredig.
Mae adran 19 o'r Ddeddf honno yn galluogi person i wneud cais i'r awdurdod am amrywio neu ryddhau amodau a gynhwysir mewn cydsyniad adeilad rhestredig y mae'r awdurdod hwnnw eisoes wedi ei roi ac mae adran 20 o'r Ddeddf honno yn rhoi hawl i berson sy'n tybio iddo gael cam gan benderfyniad gan yr awdurdod apelio i'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae adran 74 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig yn cymhwyso'r swyddogaethau hynny i gydsyniadau ardal gadwraeth.
Mae gan y ceisydd neu, fel y digwydd, yr apelydd, a'r awdurdod, yr hawl, mewn unrhyw achos apêl, ymddangos gerbron person a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol, a chael ei wrando gan y person hwnnw, ond yn lle hynny cânt gytuno i'r apêl gael ei benderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig a dogfennau ategol.
Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol yn rheoliad 13 o'r Rheoliadau hyn, Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) 1987 (O.S. 1987/701) ("Rheoliadau 1987"), a dirymu Rhan IV (rheoliadau 11 i 16) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 1999 (O.S. 1999/1892) ("Rheoliadau 1999"), mewn perthynas â Chymru.
Dirymwyd Rheoliadau 1987 a'u disodli mewn perthynas â Lloegr gan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Lloegr) 2000 (O.S. 2000/1628). Mae Rhan IV o Reoliadau 1999 yn parhau mewn grym yn Lloegr.
Mae'r prif newidiadau sy'n cael eu cyflwyno gan y rheoliadau hyn fel a ganlyn:
(a) maent yn gymwys i achosion pan fydd gofyn i gais cynllunio gael ei atgyfeirio i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 77 o'r Ddeddf Gynllunio (y weithdrefn "galw i mewn"), i hawl apelio o dan adran 78 o'r Ddeddf Gynllunio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i gymryd y penderfyniadau hynny (ac i apelau y mae adran 78 wedi'i chymhwyso iddynt gan ddeddfwriaeth gorchymyn cadw coed), hawl apelio o dan adran 208 o'r Ddeddf Gynllunio yn erbyn cyflwyno hysbysiad gorfodi gorchymyn cadw coed gan awdurdod cynllunio lleol ac i geisiadau ac apelau sy'n perthyn i gydysyniad adeilad rhestredig neu amrywio neu ryddhau amodau a gynhwysir mewn cydsyniad adeilad rhestredig (ac i'r darpariaethau hynny sy'n gymwys i ardaloedd cadwraeth) o dan y Ddeddf Adeiladau Rhestredig;
(b) rhaid i'r awdurdod hysbysu ymgynghoreion statudol a phersonau sydd â buddiant am yr apêl o fewn 2 wythnos o'r dyddiad dechrau ac mae'r per i wneud sylwadau cyfrinachol wedi'i dynnu (rheoliad 5);
(c) gosodwyd terfynau amser caeth ar gyfer cyflwyno sylwadau a sylwadau pellach ar y sylwadau rheiny. Mae'n ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon ymlaen gopïau o sylwadau a sylwadau ar y rheiny i'r partion eraill cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl eu cael (rheoliad 7);
(ch) mae terfynau amser wedi eu hestyn er mwyn i bartïon sydd â buddiant ac sydd wedi'u hysbysu anfon sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol ac mae gan y Cynulliad Cenedlaethol y per i ddiystyru sylwadau wedi'u gwneud gan yr awdurdod cynllunio lleol am sylwadau personau sydd â buddiant pan na fydd yr awdurdod cynllunio lleol wedi hysbysu personau sydd â buddiant yn gywir (rheoliad 8);
(d) rhoddwyd per i'r Cynulliad Cenedlaethol ddiystyru sylwadau ysgrifenedig nad yw wedi eu cael o fewn y terfynau amser perthnasol (rheoliad 10); ac
(dd) awdurdodwyd anfon dogfennau drwy gyfrwng cyfathrebu electronig (rheoliad 12).