Gorchymyn y Tafod Glas (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Gorchymyn y Tafod Glas (Cymru) 2003, ISBN 0 11090651 9. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, drwy arfer ar y cyd y pwerau a roddwyd gan adrannau 1, 7(1), 8(1), 15(4), 17(1), 23, 25, 32(2), 34(7), 35(1) a (3), 36(2) a (5), 83(2) a 88(2) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[1], yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Tafod Glas (Cymru) 2003 a daw i rym ar 19 Chwefror 2003. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig. Dehongli 2. Yn y Gorchymyn hwn -
Estyn y diffiniad o "glefyd"
(b) ymatal rhag symud unrhyw anifail i'r tir ac i'r adeiladau, neu oddi arnynt, lle mae'r anifail, ac eithrio fel yr awdurdodir gan arolygydd.
(2) Rhaid i unrhyw berson sy'n dadansoddi samplau a gymerwyd o unrhyw anifail neu garcas ac sy'n dod o hyd i dystiolaeth o wrthgyrff neu antigenau i'r clefyd neu i unrhyw frechlyn ar gyfer y clefyd hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol ar unwaith.
(b) llunio stocrestr o'r holl anifeiliaid ar y tir ac yn yr adeiladau a chofnodi, ar gyfer pob rhywogaeth -
(ii) y nifer sydd yn fyw ac y mae'n ymddangos i'r meddiannydd neu'r ceidwad eu bod wedi'u heintio â'r clefyd; a (iii) y nifer sy'n fyw y mae'n ymddangos i'r meddiannydd neu'r ceidwad nad ydynt wedi'u heintio â'r clefyd;
(c) bod y stocrestr hon yn cael ei chadw'n gyfoes i gymryd cyfrif o'r anifeiliaid sy'n cael eu geni ac yn marw ac yn cael ei dangos i'r arolygydd ar ei gais.
(2) Caiff arolygydd drwy unrhyw hysbysiad a ddyroddir o dan baragraff (1), -
(b) yn ei gwneud yn ofynnol i'r meddiannydd neu'r ceidwad gydymffurfio â mesurau rheoli fectorau penodedig; ac (c) yn ei gwneud yn ofynnol i ddifa, claddu, neu waredu carcasau.
(3) Caiff arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol hefyd gyflwyno hysbysiad o'r fath i feddiannydd tir ac adeiladau sydd oherwydd ei leoliad, sefyllfa ddaearyddol neu gysylltiadau â thir ac adeiladau lle gwyddys neu yr amheuir bod y clefyd yno (yng Nghymru neu yn rhywle arall) sy'n rhoi sail dros amau fod y clefyd yno, bod y lle'n agored iddo neu fod presenoldeb fectorau yno.
(b) gwneud y profion hynny a chymryd y samplau hynny (gan gynnwys samplau gwaed) o unrhyw anifail, carcas neu beth y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol at ddibenion diagnosis; (c) marcio at ddiben adnabod unrhyw anifail, carcas neu beth; ac (ch) casglu fectorau a gosod trapiau i gasglu fectorau.
(2) Caiff swyddog a awdurdodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol, sydd yn mynd i unrhyw ran o dir ac adeiladau y cyflwynwyd hysbysiad o dan erthygl 8, naill ai y mae arolygydd milfeddygol yn mynd ag ef yn unol ag erthygl 16(c) neu gyda chaniatâd y meddiannydd -
(b) gweithredu'r mesurau rheoli fectorau hynny y mae'r arolygydd milfeddygol yn barnu eu bod yn angenrheidiol.
(3) Caiff arolygydd milfeddygol, drwy hysbysiad ysgrifenedig, a gyflwynir i feddiannydd tir ac adeiladau neu i geidwad unrhyw anifeiliaid ar y tir ac yn yr adeiladau -
(b) yn ei gwneud yn ofynnol i ddifa, claddu, gwaredu neu drin unrhyw beth; (c) yn ei gwneud yn ofynnol i lanhau a diheintio unrhyw ran o'r tir a'r adeiladau neu unrhyw berson, anifail neu beth ar y tir ac yn yr adeiladau; ac (ch) yn ei gwneud yn ofynnol i feddiannydd, unrhyw lawfeddyg milfeddygol a roddodd sylw i unrhyw anifail ar y tir ac yn yr adeiladau ac unrhyw berson arall fu â gofal unrhyw anifail arall neu a fu mewn cysylltiad ag ef i'w hysbysu am unrhyw anifail arall neu dir ac adeiladau eraill y gall unrhyw anifail o'r fath fod wedi dod i gysylltiad â hwy.
Mesurau pan gaiff y clefyd ei gadarnhau
(b) unrhyw ardal arall y mae Prif Swyddog Milfeddygol yn ei phenderfynu gan roi sylw i ffactorau epidemiolegol, daearyddol, ecolegol a meteorolegol.
(2) Rhaid i'r hysbysiad hwnnw ei gwneud yn ofynnol i'r meddiannydd gydymffurfio â'r gofynion a nodir yn erthygl 8(1) a chaiff osod gofynion yn unol ag erthygl 9(3) ac ag unrhyw ofynion eraill y mae'r arolygydd yn barnu eu bod yn angenrheidiol.
(b) symud unrhyw anifail, carcas, ofwm, semen neu embryo ar ffyrdd cyhoeddus neu breifat (heblaw ffyrdd sy'n gwasanaethu tir ac adeiladau).
Pwerau arolygwyr a swyddogion mewn ardal heintiedig
(b) cyfarwyddo'r meddiannydd neu'r ceidwad i gadw anifeiliaid i'w defnyddio yn anifeiliaid rhybuddio neu ganiatáu cyflwyno anifeiliaid rhybuddio i'r tir a'r adeiladau hynny.
Cigydda anifeiliaid
(b) yn methu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r trwyddedau, hysbysiadau neu gyfarwyddiadau hynny neu ag unrhyw amod yn unrhyw un o'r darpariaethau hynny; (c) yn achosi neu'n caniatáu unrhyw fynd yn groes neu fethu â chydymffurfio o'r fath; (ch) yn difrodi, ymyrryd neu symud unrhyw drapiau a osodwyd i gasglu fectorau o dan erthygl 9; (d) yn difwyno, dileu neu dynnu oddi yno unrhyw farc a wnaed gan arolygydd milfeddygol o dan erthygl 9,
yn cyflawni tramgwydd yn erbyn y Ddeddf.
(b) y cyfarpar hwnnw y mae'n barnu ei fod yn angenrheidiol; ac (c) unrhyw berson arall y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol at unrhyw ddiben mewn perthynas â gweithredu a gorfodi'r Gorchymyn hwn.
(2) Ni fydd unrhyw ofyniad a osodir gan neu o dan y Gorchymyn hwn yn gymwys os cyflwynir caniatâd gan arolygydd milfeddygol.
(b) yn achos trwydded, hysbysiad, cyfarwyddyd neu ganiatâd cyffredinol, yn y dull y mae'r Ysgrifennydd Gwladol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, arolygydd milfeddygol neu arolygydd (yn ôl y digwydd) yn barnu'r mwyaf priodol er mwyn dwyn sylw'r sawl a effeithir ganddo neu ganddi ato.
Gorfodi (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/75/EC sy'n gosod darpariaethau penodol ar gyfer rheoli a difodi clefyd y tafod glas (OJ Rhif 327, 22.12.2000, t.74). Mae'n gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig. Mae erthyglau 1, 2 a 3 yn cynnwys darpariaethau rhagarweiniol, gan gynnwys diffiniadau o dermau penodol a ddefnyddir yn y Gorchymyn. Mae erthygl 4 yn darparu nad yw gweithgareddau penodol a awdurdodwyd o dan Orchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig 1998 (O.S. 1998/463) yn dod o dan y Gorchymyn. Mae erthygl 5 yn gwahardd brechu didrwydded rhag y clefyd. Mae erthyglau 6 i 9 yn ymwneud â mesurau pan wyddys neu pan amheuir bod y tafod glas ar dir ac mewn adeiladau. Mae erthyglau 6 a 7 yn darparu ar gyfer rhoi hysbysiadau i'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol ac ar gyfer ynysu anifeiliaid pan wyddys neu pan amheuir bod y clefyd yn bod. Mae erthygl 8 yn darparu ar gyfer cyflwyno hysbysiadau gan arolygwyr sy'n ei gwneud yn ofynnol i gydymffurfio â chyfyngiadau penodol. Nodir pwerau cyffredinol arolygwyr yn adrannau 63 a 64A o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981. Mae erthygl 9 yn pennu pwerau arolygwyr milfeddygol, swyddogion yr Ysgrifennydd Gwladol a Chynulliad Cenedlaethol Cymru i gyflawni tasgau penodol ar dir ac mewn adeiladau ar ôl arfer pwerau mynediad. Mae erthyglau 10 i 13 yn ymwneud â mesurau pan fydd brigiad o'r tafod glas wedi'i gadarnhau. Mae erthygl 10 yn darparu ar gyfer cyflwyno hysbysiadau. Mae erthyglau 11 a 12 yn nodi'r cyfyngiadau sy'n gymwys mewn ardaloedd y datgenir eu bod yn ardaloedd heintiedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981. Mae Erthygl 13 yn cymhwyso darpariaethau yn y Ddeddf honno ac sy'n ymwneud â chigydda anifeiliaid. Mae erthygl 14 yn nodi dyletswyddau cyffredinol meddianwyr a cheidwaid o dan y Gorchymyn. Mae erthygl 15 yn nodi pwerau archwilwyr pan na chydymffurfir â gofynion mewn hysbysiadau. Mae erthygl 16 yn nodi eu pwerau cyffredinol. Pennir gofynion cyffredinol mewn perthynas â thrwyddedau, hysbysiadau a chyfarwyddiadau yn erthygl 17. Mae erthygl 18 yn darparu y bydd y Gorchymyn yn cael ei weithredu a'i orfodi gan yr awdurdod lleol. Mae erthygl 19 yn dirymu Gorchymyn Clefydau Arbennig (Hysbysu a Chigydda) 1992 (O.S. 1992/3159) a Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu) 1996 (O.S. 1996/2628) i'r graddau y maent yn ymwneud â'r tafod glas. Tramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 yw methu â chydymffurfio â'r Gorchymyn hwn. Paratowyd a chyhoeddwyd Arfarniad Rheoliadol ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (www.cymru.gov.uk). Mae copïau ar gael oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Yr Is-adran Iechyd Anifeiliaid, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Notes: [1] 1981 p.22.back
ISBN 0 11090651 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 26 February 2003 |